Am y Palasau Hwyl
Mae Palasau Hwyl yn cefnogi pobl leol i gyd-greu eu digwyddiadau diwylliannol a chymunedol eu hunain ar draws y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang, gan rannu a dathlu’r athrylith sydd gan bawb.
Sgroliwch i lawr i ddarllen am Balasau Hwyl – y bobl sy’n cymryd rhan, beth maent yn ei wneud, a pham y mae’n gwneud gwahaniaeth, yn ogystal â hanes a’r cefndir i’n gwaith.
![](https://funpalaces.co.uk/wp-content/uploads/2020/02/Project-Sketch-1_12-1.png)
Ein Maniffesto, Nodau ac Amcanion
Rydym yn credu yn yr athrylith sydd gan bawb, ym mhawb mae arlunydd ac ym mhawb mae gwyddonydd, ac y gall creadigrwydd mewn cymuned newid y byd er gwell.
Dysgu Mwy am y Palasau Hwyl
![](https://funpalaces.co.uk/wp-content/uploads/2020/02/about004.jpg)
Gwerthusiadau Palasau Hwyl
Bob blwyddyn rydym yn creu ffilm fer a gwerthusiad byr newydd o’n gwaith, gan ddangos i ni beth rydym yn ei wneud yn dda a beth y gallwn ei wneud yn well.
![](https://funpalaces.co.uk/wp-content/uploads/2020/02/about003.jpg)
Beth yw Palas Hwyl?
Mae Palasau Hwyl yn ymgyrch barhaus dros gymuned wrth wraidd diwylliant a diwylliant wrth wraidd pob cymuned.
![](https://funpalaces.co.uk/wp-content/uploads/2020/02/about002.jpg)
Pam Dylem Greu Palas Hwyl?
Yn benodol ar gyfer lleoliadau, sefydliadau a grwpiau – ac mae’n ddefnyddiol i unigolion hefyd.
![](https://funpalaces.co.uk/wp-content/uploads/2020/02/about001.jpg)
Y bobl y tu ôl i’r Palasau Hwyl
Ym 1961 dyluniodd Joan Littlewood a Cedric Price adeilad Palas Hwyl – ‘labordy o hwyl’.
![](https://funpalaces.co.uk/wp-content/uploads/2020/02/Emily-Medley-Illustration-2020_1_19_Posters_Promote_Telling-the-World_Marketing_Team.png)
Gweithdai
Rydym yn rhedeg gweithdai ar gyfer grwpiau, lleoliadau, sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb i’ch helpu darganfod mwy am greu Palas Hwyl gyda’ch cymuned.
Hanes y Palasau Hwyl
Dyma ein cyd-gyfarwyddwr Stella Duffy yn ysgrifennu am ddechrau’r Palasau Hwyl yn 2013
![](https://funpalaces.co.uk/wp-content/uploads/2020/02/Fun-Palaces-2019_Roswitha-Chesher_360_Indoor_Intergenerational_Older_Elder_Knitting_Intimate-1024x731.jpg)
![](https://funpalaces.co.uk/wp-content/uploads/2020/02/house-1.png)
Barod i greu Palas Hwyl?
Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn creu Palasau Hwyl ar gyfer eu cymunedau lleol eu hunain – gan rannu sgiliau, cwrdd â phobl newydd a chreu cysylltiadau.