Ein Gweledigaeth, Nodau ac Amcanion

Ein Gweledigaeth, Nodau ac Amcanion

Mae Palasau Hwyl yn ymgyrch trwy gydol y flwyddyn gyda Phenwythnos o Ddathlu blynyddol.

Mae ein hymgyrch trwy gydol y flwyddyn yn gweithio tuag at fyd lle gall pawb ddweud eu dweud am beth sy’n cyfri fel diwylliant, ble mae’n digwydd, pwy sy’n creu e, a phwy sy’n profi fe.

Mae rhan o’n hymgyrch yn cynnwys digwyddiadau o’r enw Palasau Hwyl, sy’n cael eu creu gennych chi. Gallech chi gynnal gweithgareddau hwyl, am ddim ac wedi’u harwain yn lleol gyda’ch ffrindiau neu gymdogion i rannu eich sgiliau cudd. Os ydych yn lleoliad cyhoeddus, gallech chi drosglwyddo eich gofod i’ch cymuned fel y gallan nhw greu Palas Hwyl eu hunain.

Ar y penwythnos cyntaf ym mis Hydref bob blwyddyn, rydyn ni’n cefnogi’r Penwythnos o Ddathlu. Dyma pryd mae miloedd o Grewyr Palasau Hwyl ar draws y DU a’r tu hwnt yn rhedeg eu Palasau Hwyl ar un penwythnos ac rydyn ni’n dathlu digwyddiadau tebyg a gynhelir trwy gydol y flwyddyn. Mae’r penwythnos yn gyfle i weiddi am yr athrylith sydd ym mhob cymuned mewn llais unedig.

Mae ein gweithdai a’n Rhaglenni Llysgenhadon yn cefnogi cymunedau i greu dros ac ar gyfer eu hunain; gan ddatblygu rhwydweithiau lleol, cysylltu unigolion â sefydliadau, annog lleoliadau i gyd-greu gyda phobl leol, a helpu grwpiau bach i weiddi’n uchel am eu gwerth fel actifyddion cymunedol llawr gwlad. 

GWELEDIGAETH

Byd lle mae gan gymunedau rôl weithredol mewn diwylliant, lle mae athrylith pawb yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi, lle mae pobl yn creu, cysylltu, dysgu ac yn cael hwyl, lle mae gan gymunedau yr hyn sydd ei angen arnynt i fod yn arweinwyr a chydweithredwyr gweithgar a chyfartal. 

NODAU

  • Newid sut yr ydym i gyd yn gweld ac yn ariannu diwylliant fel bod y diwylliant a wneir ac a fwynheir gan bob cymuned yn cyfri. 
  • Manteisio i’r eithaf ar yr holl ddoniau, gofodau, cryfderau ac asedau lleol a chenedlaethol, fel ein bod yn byw mewn byd sy’n gyfoethocach yn ddiwylliannol ac yn decach. 
  • Annog creadigrwydd a chysylltiad fel bod gennym gymunedau bywiog, hyderus a chryfion. 

AMCANION 

  • Dathlu, gwerthfawrogi ac ymhelaethu ar y diwylliant mewn cymunedau lleol drwy waith ymgyrchu drwy gydol y flwyddyn a’n penwythnos o ddathlu. 
  • Cefnogi lleoliadau a sefydliadau i drosglwyddo gwneud penderfyniadau i gymunedau a rhannu adnoddau (e.e. gofodau a chronfeydd) er budd y gymuned a’r sector. Rydym yn cyflawni hyn drwy weithio gyda gwesteiwyr, llysgenhadon a lleoliadau er mwyn i’r gymuned gymryd drosodd a chefnogi gyda gweithdai a phecynnau cymorth. 
  • Cysylltu pobl, lleoliadau a lleoedd i rannu dysgu a chydweithio drwy ein rhaglen llysgenhadon, gweithdai, cyfleoedd rhwydweithio, ac ymchwil weithredu. 
  • Ysbrydoli, paratoi a chefnogi cymunedau i greu, archwilio a chymryd yr awenau drwy ein hastudiaethau achos, pecynnau cymorth, gweithdai a rhwydweithio. 

Cefndir

Yn y 1960au cynnar, creodd Joan Littlewood a Cedric Price gysyniad gwreiddiol y Palas Hwyl na chafodd ei adeiladu erioed fel ‘labordy hwyl’ a ‘phrifysgol y strydoedd’. Y bwriad oedd adeilad lleol, hafan i’r celfyddydau a’r gwyddorau, a fyddai’n agored ac yn groesawgar i bawb. Am lawer o resymau ni fu’n bosib ym 1961 ac ni ddaeth adeilad Palas Hwyl eu breuddwydion erioed i fodolaeth, ceir mwy o fanylion yma

Er hynny, parhaodd y cysyniad o ofod sy’n agored ac yn croesawu pawb, a arweinir gan a thros bobl leol, i fod yn syniad gwych ac ers 2013 rydym wedi datblygu’r penwythnos gweithredu a’r ymgyrch Palasau Hwyl barhaus. Ysgrifennodd ein Cyd-Gyfarwyddwr Stella Duffy y darn yma sy’n esbonio sut ddechreuodd yr ymgyrch. 

Cysylltwch â ni yma