TELERAU AC AMODAU (CREWYR PALASAU HWYL)

YR YMGYRCH PALASAU HWYL

 1. TELERAU

1.1      Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r telerau ac amodau (yr Amodau hyn) sy’n llywodraethu’r defnydd o’r Wefan hon ac y mae unrhyw unigolyn neu sefydliad sy’n trefnu Digwyddiad Palasau Hwyl (y Crew(y)r Palas(au) Hwyl neu Chi/eich/rydych/byddwch) yn cytuno i’w defnyddio fel sail dros redeg eu Digwyddiad Palas Hwyl (y Digwyddiad).

 1.2      Trwy dderbyn yr Amodau hyn a chytuno i redeg y Digwyddiad, rydych Chi’n ymgymryd â chontract cyfreithiol rwymol gyda The Albany 2001 Company, elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant y mae ei swyddfa gofrestredig yn The Albany Centre, Douglas Way, Deptford, Llundain SE8 4AG (rhif cwmni 04333098) (Ni/ein/rydym/byddwn).

1.3      Rydym yn gwmni sy’n gweithio gyda’r Ymgyrch Palasau Hwyl ac yn ei chefnogi, sef cymdeithas anghorfforedig sy’n berchen ar yr hawliau yn y cysyniad Palasau Hwyl (Yr Ymgyrch Palasau Hwyl).

1.4      Mae’r contract rhyngoch Chi a Ni yn cael ei ffurfio pan fyddwch Chi’n cytuno i’r Amodau hyn trwy sefydlu cyfrif ar www.funpalaces.co.uk a chofrestru fel Crëwr Palas Hwyl.

1.4      Mae’n bosib y byddwn yn adolygu’r Amodau hyn ac unrhyw bolisïau y cyfeirir atynt yn yr Amodau hyn trwy ddiwygio’r Amodau hyn ar y Wefan ac/neu anfon y diwygiadau atoch Chi trwy e-bost. Bydd unrhyw ddiwygiadau’n rhwymol arnoch chi.

2. RHEDEG Y DIGWYDDIAD

2.1      Rydych yn cytuno:

  • mai Chi sy’n hollol ac yn gyfan gwbl gyfrifol am gyllido, trefnu a gweinyddu’r Digwyddiad yn unol â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol. Ni fyddwn Ni na’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn gyfrifol am ddarparu cyllid ar gyfer y Digwyddiad nac am unrhyw dreuliau neu golledion a geir gennych Chi mewn perthynas â’r Digwyddiad.
  • Byddwn yn darparu presenoldeb ar y Wefan i Chi i hybu’r Digwyddiad, ond Chi sy’n gyfrifol am unrhyw gyhoeddusrwydd arall y dymunwch ymgymryd ag ef mewn perthynas â’r Digwyddiad.
  • Gallwch ddefnyddio’r Pecyn Cymorth ar y Wefan at ddiben rhedeg y Digwyddiad yn unig.
  • Chi  a Chi yn unig sy’n gwbl gyfrifol am gontractio a thalu am unrhyw staff neu berfformwyr rydych yn eu recriwtio ar gyfer rhedeg y Digwyddiad.
  • Bydd y Digwyddiad ar gael i ymwelwyr am ddim a bydd yn cydymffurfio ag ethos yr Ymgyrch Palasau Hwyl fel a ddisgrifir yma.
  • Rydych yn cytuno i sicrhau eich bod Chi’n dod o hyd i yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a chyflogwr digonol mewn perthynas â’r Digwyddiad, a fydd yn yswirio eich lleoliad, yr holl weithgareddau, staff ac ymwelwyr. Os nad yw’r cyfryw yswiriant eisoes mewn lle, rydych yn cytuno i sicrhau y caiff ei drefnu cyn dyddiad y Digwyddiad. Byddwch yn darparu tystiolaeth o’r cyfryw yswiriant, gan gynnwys tystiolaeth y talwyd y premiwm perthnasol, ar gais.
  • Byddwch yn sicrhau na fydd y Digwyddiad yn ddifenwol, yn anllad neu’n debygol o achosi anhrefn gyhoeddus neu fel arall yn anghyfreithlon.
  • Rydych yn cytuno i gymryd pob cam rhesymol i isafu’r risg o anaf i staff, cyfranogwyr ac ymwelwyr yn ystod y Digwyddiad ac wrth baratoi ar gyfer y Digwyddiad neu unrhyw weithgareddau ar ôl y Digwyddiad.
  • Rydych yn cytuno i sicrhau bod y lleoliad ar gyfer y Digwyddiad ac unrhyw set, seddau neu gyfarpar a ddefnyddir yn y Digwyddiad yn briodol i’r Digwyddiad ac yn ddiogel.
  • Rydych yn cytuno ar bob adeg i gydymffurfio â Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gyfredol mewn perthynas â’r Digwyddiad. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE): http://www.hse.gov.uk/event-safety/index.htm
  • Rydych yn cytuno i gwblhau asesiadau risg priodol a, lle bo’n berthnasol datganiadau o ddull, yn unol ag arweiniad HSE ar gyfer yr holl weithgareddau sydd i’w cynnal yn y Digwyddiad.
  • Ni fyddwn ni na’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn gyfrifol am golled, lladrad neu ddifrod i eiddo yn y Digwyddiad
  • Rydych yn cytuno i sicrhau nad yw unrhyw berfformiadau neu weithgareddau yn y Digwyddiad yn beryglus neu’n niweidiol i staff, y cyfranogwyr neu’r gynulleidfa.
  • Rydych yn cytuno i sicrhau y deuir o hyd i bob trwydded angenrheidiol gan yr awdurdod lleol perthnasol mewn perthynas â’r Digwyddiad ac nad yw eich Digwyddiad yn groes i delerau’r cyfryw drwydded. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am fwy o wybodaeth.
  • Rydych yn cytuno i ddod o hyd i bob trwydded a chaniatâd hawlfraint angenrheidiol mewn perthynas ag unrhyw berfformiad sydd i’w gynnal yn eich Digwyddiad ac unrhyw ddeunyddiau cyhoeddusrwydd a gynhyrchwch ar gyfer y Digwyddiad, gan gynnwys pan fo’n berthnasol mewn perthynas ag unrhyw gerddoriaeth, delweddau neu fideo sydd i’w chwarae neu eu defnyddio fel arall mewn perthynas â’r Digwyddiad neu unrhyw ddeunyddiau cyhoeddusrwydd.
  • Rydych yn cytuno na fyddwch yn ffilmio / tynnu lluniau / recordio yn y Digwyddiad heb hysbysiadau ar ffurf arwyddion clir ar gyfer mynycheion ac y byddwch Chi’n parchu dymuniadau unigolion nad ydynt eisiau cael eu ffilmio / recordio neu i luniau ohonynt gael eu tynnu. Os dymunwch ffilmio / tynnu lluniau o / recordio unrhyw berfformwyr yn eich Digwyddiad, byddwch yn ystyried sicrhau cael cydsyniad ysgrifenedig ganddynt.
  • Rydych yn cytuno i ddiogelu llesiant yr holl blant ac oedolion agored i niwed sy’n dod i’r Digwyddiad a sicrhau bod oedolion sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed yn y Digwyddiad wedi cael gwiriad DBS pan fydd angen.
  • Byddwch yn hysbysu’r ymgyrch Palasau Hwyl yn ddi-oed os bydd unrhyw beth yn digwydd a allai gael effaith faterol andwyol ar y Digwyddiad neu am unrhyw beth difrifol sy’n digwydd yn neu mewn perthynas â’r Digwyddiad.

3. DEFNYDDIO’R WEFAN

3.1      Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru’r Wefan o bryd i’w gilydd, a gallwn newid y cynnwys unrhyw bryd.

3.2      Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan, neu unrhyw gynnwys arni, yn rhydd rhag gwallau neu hepgorion.

3.3      Mae’r Wefan yn cael ei darparu am ddim.

3.4      Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan, neu unrhyw gynnwys arni, bob amser ar gael neu’n ddi-dor. Caniateir mynediad i’r Wefan ar sail dros dro. Gallwn atal, diddymu, terfynu neu newid y Wefan neu’r gwasanaethau a ddarparwn i gyd neu unrhyw ran ohonynt heb roi rhybudd. Ni fyddwn yn atebol i Chi os nad yw’r Wefan ar gael unrhyw bryd neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm.

3.5      Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn i Chi gael mynediad i’r Wefan ac am sicrhau bod yr holl bobl sy’n cyrchu’r Wefan trwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o’r Amodau hyn, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

3.6      Mae’r holl ddefnydd o’r Wefan gennych Chi’n ddarostyngedig i’n Polisi Defnydd Derbyniol.

3.7      Gallwch ddefnyddio’r Wefan at eich defnydd personol ac anfasnachol chi. Ni allwch addasu, copïo, dosbarthu, trawsyrru, arddangos, perfformio, atgynhyrchu, cyhoeddi, trwyddedu, creu gwaith deilliadol o, trosglwyddo neu werthu unrhyw gynnwys a geir o’r Wefan, ac eithrio copïo, dosbarthu neu atgynhyrchu sy’n (i) angenrheidiol at ddefnydd personol neu anfasnachol yn unig neu (ii) pan nodir bod y cyfryw gynnwys ar gael i’w ddefnyddio’n unol â thermau trwydded Creative Commons, a’i weithredu’n unol â thermau’r drwydded Creative Commons berthnasol yn unig.

3.8      Darperir y cynnwys ar y Wefan fel gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod gyfystyr â chyngor y dylech ddibynnu arno. Dylech geisio cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu ymwrthod rhag cymryd, unrhyw gam ar sail y cynnwys sydd ar y Wefan.

3.9      Er Ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar y wefan, nid Ydym yn gwneud unrhyw gynrychioliadau neu warantau, ni waeth p’un ai’n echblyg neu’n oblygedig, bod y cynnwys ar y Wefan yn gywir, yn gyflawn neu’n ddiweddar.

4.  EICH CYFRIF A CHYFRINAIR

4.1      Os byddwch Chi’n dewis, neu os darperir côd adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth ar eich cyfer fel rhan o’n gweithdrefnau diogeledd, mae’n rhaid i Chi drin y cyfryw wybodaeth yn gyfrinachol. Mae’n rhaid i chi beidio â’i datgelu i unrhyw drydydd parti.

4.2      Mae hawl gennym i ddadalluogi unrhyw gôd adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, ni waeth p’un a gaiff ei ddewis gennych chi neu ei ddyrannu gennym ni, unrhyw bryd, os yn ein barn resymol ni Rydych wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau’r Amodau hyn.

4.3      Os Ydych yn gwybod neu’n amau bod unrhyw un heblaw Chi’n gwybod eich côd adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, mae’n rhaid i Chi ein hysbysu’n ddi-oed yn hello@funpalaces.co.uk

5. DIOGELU DATA

5.1      Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni a’r ymgyrch Palasau Hwyl. Yr Ymgyrch Palasau Hwyl yw rheolydd data eich gwybodaeth bersonol ac ni fydd yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon.

5.2      Bydd yr Ymgyrch Palasau Hwyl yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol yn unol â’i Pholisi Preifatrwydd.

5.3      Trwy gofrestru fel Crëwr Palas Hwyl, a thrwy dicio’r blwch a dewis derbyn cylchlythyron, Rydych yn cytuno y gall yr Ymgyrch Palasau Hwyl e-bostio chi gyda newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau (gan gynnwys codi arian) sy’n gysylltiedig â’r Ymgyrch Palasau Hwyl.

 6. DOLENNI

 6.1      O bryd i’w gilydd Rydym yn cyhoeddi dolenni i wefannau trydydd parti Rydym yn teimlo y gallent fod o ddiddordeb i Chi. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y gwefannau hyn yn adlewyrchu ethos yr Ymgyrch Palasau Hwyl, ond nid oes gennym Ni unrhyw reolaeth dros y gwefannau hyn ac Rydych yn bwrw ‘mlaen ar eich menter eich hun. Nid ydym yn dilysu’r gwefannau hyn ac nid Ydym yn atebol am unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu gynnwys y byddwch efallai yn eu cyrchu neu eu prynu trwy unrhyw un o’r gwefannau hyn.

 7. UWCHLWYTHO CYNNWYS I’R WEFAN

7.1      Pryd bynnag y Byddwch yn defnyddio nodwedd sy’n Eich galluogi i uwchlwytho cynnwys i’r Wefan, neu gysylltu ag aelodau eraill o’r Wefan, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r safonau o ran cynnwys a ddisgrifir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.

7.2      Rydych yn gwarantu y bydd unrhyw gynnwys Rydych yn ei uwchlwytho’n cydymffurfio â’r safonau hynny, ac y Byddwch chi’n atebol i ni ac yn indemnio ni am dorri’r warant hon mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn golygu y byddwch Chi’n gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydym Ni neu’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn ei ddioddef o ganlyniad i chi dorri’r warant.

7.3      Ystyrir bod unrhyw gynnwys Rydych yn ei uwchlwytho i’r Wefan yn anghyfrinachol ac yn amherchnogol.

7.4      Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am y Cynnwys neu gywirdeb y Cynnwys a bostir gennych Chi neu unrhyw ddefnyddiwr arall y Wefan.

7.5      Mae gennym Ni’r hawl i ddileu unrhyw bostiad Rydych yn ei wneud ar ein gwefan os, yn ein barn ni, nad yw eich postiad yn cydymffurfio â’r safonau o ran cynnwys a ddisgrifir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.

7.6      Nid yw’r farn a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar y Wefan yn adlewyrchu ein barn neu ein gwerthoedd ni.

8. FIRYSAU

8.1      Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan yn ddiogel neu’n rhydd rhag chwilod neu firysau.

8.2      Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni a llwyfan cyfrifiadurol er mwyn cyrchu’r Wefan. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firysau eich hun.

9. INDEMNIAD

9.1      Rydych yn cytuno i indemnio a pharhau i indemnio ni a’r Ymgyrch Palasau Hwyl (a holl gyfarwyddwyr, swyddogion ac aelodau The Albany 2001 Company a’r Ymgyrch Palasau Hwyl) rhag ac yn erbyn pob hawliad, iawndal, treuliau, costau a rhwymedigaethau (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol) sy’n codi o ganlyniad i’r canlynol: (i) y Digwyddiad (gan gynnwys y paratoadau ar gyfer y Digwyddiad ac unrhyw weithgarwch ar ôl y Digwyddiad); eich defnydd chi o’r Wefan hon; ac/neu (ii) unrhyw achos ohonoch Chi’n torri unrhyw rwymedigaeth, ymgymeriad, gwarant neu deler yr Amodau hyn.

 10. ATEBOLRWYDD

 10.1    Nid oes unrhyw beth yn yr Amodau hyn sy’n eithrio neu’n cyfyngu ar ein hatebolrwydd ni neu atebolrwydd yr Ymgyrch Palasau Hwyl yn achos marwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustra, neu ein twyll neu gamgynrychiolaeth dwyllodrus, neu unrhyw atebolrwydd arall na all gael ei heithrio neu ei gyfyngu gan gyfraith Lloegr.

10.2    I’r graddau a ganiateir gan gyfraith Lloegr, rydym yn eithrio pob amod, gwarant, cynrychiolaeth neu delerau eraill a all fod yn berthnasol i’r Wefan neu unrhyw gynnwys neu ddeunyddiau arni neu mewn perthynas â’r Digwyddiad, ni waeth p’un a ydynt yn echblyg neu’n oblygedig.

10.3    Gan fod y Wefan wedi’i darparu i Chi am ddim ac nad Ydych yn talu ni am yr hawl i redeg y Digwyddiad, nid ydym Ni na’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn derbyn unrhyw atebolrwydd i Chi am y cynnwys ar y Wefan neu mewn perthynas â’r Digwyddiad hyd eithaf y graddau a ganiateir gan gyfraith Lloegr.

10.4    Yn benodol, nid ydym Ni na’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol, gan gynnwys (er enghraifft) colli elw, refeniw, data, cynilion disgwyliedig, cyfle busnes, amharu ar fusnes neu ewyllys dda.

10.5    Os ydych yn ddefnyddiwr, nid yw’r Amodau hyn yn effeithio ar unrhyw hawliau statudol y gallai fod gennych Chi fel defnyddiwr.

10.6    Ni fyddwn ni na’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan firws, ymosodiad atal gwasanaeth dosbarthedig, neu unrhyw ddeunydd technolegol niweidiol arall a allai heintio eich cyfarpar cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu unrhyw ddeunydd perchnogol arall o ganlyniad i’ch defnydd o’r Wefan neu oherwydd i chi lawrlwytho unrhyw gynnwys arni, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hi.

 11. HAWLFRAINT

11.1    Y Palasau Hwyl neu eu trwyddedwyr yw perchnogion yr hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill yn y cynnwys ar y Wefan, gan gynnwys (er enghraifft) y pecyn cymorth o ddeunyddiau sydd ar gael ar y Wefan. Chi sy’n cadw perchnogaeth ar hawlfraint unrhyw ddeunydd rydych yn ei gyfrannu at y Wefan.

11.2    Trwy hyn rydych Chi’n rhoi trwydded anghynhwysol, fyd-eang a rhydd rhag breindaliadau (ynghyd â’r hawl i is-drwyddedu) i’r Ymgyrch Palasau Hwyl a The Albany 2001 Company i ddefnyddio, storio, copïo neu fel arall dosbarthu unrhyw gynnwys Rydych yn ei uwchlwytho i’r Wefan am gyfnod cyfan yr hawlfraint (gan gynnwys unrhyw adnewyddiadau, gwrthdroadau ac estyniadau) a chyhyd ag all gael ei ganiatáu, am byth mewn unrhyw gyfryngau (sy’n bodoli nawr neu a gaiff eu dyfeisio yn y dyfodol), gan gynnwys (er enghraifft) at bob diben cyhoeddusrwydd.

11.3    Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio neu atgynhyrchu unrhyw gynnwys ar y Wefan, ac eithrio eich cynnwys eich hun, oni bai ei fod at ddiben cyfan gwbl recriwtio dros, creu, neu hysbysebu Eich Palas Hwyl. Ar gyfer unrhyw ddefnydd arall mae’n rhaid bod gennych ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Yr Ymgyrch Palasau Hwyl.

12. NODAU MASNACH

 12.1    Mae “PALASAU HWYL” a’r logo a delwedd Palasau Hwyl yn nodau masnach yr Ymgyrch Palasau Hwyl (y Nodau Masnach).

12.2    Gallwch ddefnyddio’r Nodau Masnach at ddibenion hysbysebu a hybu’r Digwyddiad yn unig a ddim at unrhyw ddiben arall.

12.3    Byddwch yn cydymffurfio ag unrhyw ganllawiau ar gyfer defnyddio’r Nodau Masnach fel a ddisgrifir yn y pecyn cymorth neu y byddwn Ni neu’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn Eich hysbysu amdanynt yn ysgrifenedig o bryd i’w gilydd.

12.4    Rydych yn cydnabod y bydd yr holl hawliau yn y Nodau Masnach, gan gynnwys unrhyw ewyllys dda sy’n deillio o’ch defnydd o’r Nodau Masnach, yn eiddo i’r Ymgyrch Palasau Hwyl.

12.5    Ni fyddwch yn gwneud unrhyw beth a allai niweidio ein henw da, enw da’r Ymgyrch Palasau Hwyl neu’r enw da sy’n gysylltiedig â’r Nodau Masnach.

13. CYFNOD A THERFYNU

13.1    Bydd y contract rhyngoch Chi a Ni am gyfnod a fydd yn dechrau ar y dyddiad y byddwch yn cofrestru fel Crëwr Palas Hwyl ac yn parhau am gyhyd ag y byddwch yn parhau’n gofrestredig fel Crëwr Palas Hwyl, oni chaiff ei derfynu’n gynharach yn unol â pharagraff 13.2.

13.2    Gallwn Ni derfynu’r contract hwn trwy Eich hysbysu’n ysgrifenedig os byddwch Chi’n torri’r Amodau hyn yn faterol.

13.3    Os byddwn Ni’n terfynu’r contract hwn, bydd eich cofrestriad fel Crëwr Palas Hwyl a’ch hawl i redeg y Digwyddiad yn dod i ben ar unwaith.

13.4    Mae terfynu’r contract hwn heb wneud drwg i unrhyw hawliau neu rwymedïau sydd wedi cronni cyn y dyddiad terfynu a bydd yr holl ddarpariaethau y mae angen iddynt oroesi terfynu’r contract hwn er mwyn gweithredu eu hystyr yn goroesi’r terfyniad.

14. HYSBYSIADAU

14.1    Bydd unrhyw hysbysiad neu gyfathrebiad arall sydd i’w roi o dan yr Amodau hyn ar ffurf ysgrifenedig ac yn cael eu cyflwyno yng nghyfeiriad y parti perthnasol fel a ddisgrifir uchod neu fel a ddarperir gennych Chi pan fyddwch yn cofrestru fel Crëwr Palas Hwyl (neu’r cyfryw gyfeiriad arall a allai gael ei hysbysu’n ysgrifenedig o bryd i’w gilydd neu’n unol â’r paragraff 14.1 hwn) trwy bost dosbarth cyntaf neu drwy gludiad personol a phennir iddo fod wedi’i gyflwyno 48 awr ar ôl postio yn achos post dosbarth cyntaf ac yn syth ar ôl cyflwyno i’r cyfeiriad hwnnw yn achos cludiad personol.

15. CYFRINACHEDD

 15.1    Mae pob parti’n cydnabod y gall gwybodaeth gyfrinachol ei natur mewn perthynas â busnes y llall (ac/neu’r Ymgyrch Palasau Hwyl) gael ei datgelu iddo neu fel arall ddod at ei sylw o ganlyniad i’r Amodau hyn. Mae pob parti’n ymrwymo i gadw’r cyfryw wybodaeth yn gyfrinachol ac i beidio, heb dderbyn caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y llall neu (pan fo’n berthnasol) gan yr Ymgyrch Palasau Hwyl, â’i datgelu i unrhyw drydydd parti (ar wahân i’w ymgynghorwyr proffesiynol ei hun neu yn ein hachos ni i’r Ymgyrch Palasau Hwyl), na’i defnyddio at unrhyw ddiben arall heblaw wrth berfformio’r Amodau hyn.

15.2    Ni fydd paragraff 15.1 yn berthnasol i wybodaeth sydd ar gael yn gyffredinol i’r cyhoedd trwy ddim gweithred neu hepgoriad ar ran y parti sy’n derbyn, neu a ddaw yn hysbys i’r parti sy’n derbyn trwy drydydd parti nad oes ganddo rwymedigaeth gyfrinachedd, sydd wedi’i datblygu’n annibynnol gan y parti sy’n derbyn neu y mynnir y caiff ei datgelu gan y gyfraith trwy orchymyn llys neu ar gais unrhyw lywodraeth neu awdurdod rheoleiddio. Bydd yr ymgymeriad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o 10 mlynedd ar ôl dyddiad yr Amodau hyn.

16. GORFODAETH

 16.1    Ni fydd y naill parti na’r llall (na’r Ymgyrch Palasau Hwyl) yn atebol am unrhyw fethiant neu oedi wrth iddynt berfformio unrhyw un o’u rhwymedigaethau o dan yr Amodau hyn i’r graddau y maent yn deillio o unrhyw amgylchiad y tu hwnt i reolaeth resymol y parti hwnnw (gan gynnwys gwaith Duw, cydymffurfio ag unrhyw gyfraith neu orchymyn, rheol, rheoliad neu gyfarwyddyd llywodraethol, rhyfel, terfysg, gweithredoedd o derfysgaeth neu fygythiad o weithredoedd o derfysgaeth, anghydfod diwydiannol, protest, tymestl, epidemig, ffrwydrad, cynnwrf neu wrthryfel sifil, marwolaeth frenhinol, difrod maleisus, tân, llifogydd, damwain a storm), cyhyd â bod y parti a effeithir gan unrhyw un o’r cyfryw ddigwyddiadau’n hysbysu’r llall yn brydlon am y ffaith ei fod wedi digwydd ac am ei hyd tebygol ac yn cydweithredu mewn ffydd dda gyda’r parti arall gyda’r nod o gytuno ar ddulliau perfformio amgen pryd bynnag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

17. CYFFREDINOL

17.1    Os bydd unrhyw awdurdod cymwys yn tybio unrhyw bryd bod darparu’r Amodau hyn yn annilys neu’n anghyfreithlon neu nad oes modd eu gorfodi, ni fydd hyn yn effeithio ar ddarpariaethau eraill yr Amodau hyn, a fydd yn aros mewn llawn grym ac effaith.

17.2    Ni phennir bod ildio hawl i unrhyw deler, amod neu dorri unrhyw un o’r Amodau hyn yn gyfystyr ag ildio hawl i unrhyw delerau neu amodau eraill neu dorri’r Amodau hyn yn ddiweddarach.

17.3    Ni allwch aseinio, is-gontractio neu fel arall gwaredu’r Amodau hyn heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ymlaen llaw.

17.4    Mae’r Amodau hyn yn ffurfio cytundeb cyfan y partïon ac yn disodli ac yn cymryd lle pob cytundeb blaenorol, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig o ran ei ddeunydd pwnc.

17.5    Ni ellir amrywio’r Amodau hyn ac eithrio trwy gytundeb ysgrifenedig a lofnodir gan y ddau barti.

17.6    Ni fwriedir i’r Amodau hyn greu partneriaeth, menter ar y cyd neu gytundeb tenantiaeth rhwng y partïon neu ryngoch Chi a’r Ymgyrch Palasau Hwyl.

17.7    Mae’r partïon yn cytuno bod darpariaethau’r Amodau hyn yn bersonol iddynt hwy ac na fwriedir iddynt roi unrhyw fuddiant i unrhyw drydydd parti ac na fydd Deddf Contractau 1999 (Hawliau Trydydd Partïon) yn berthnasol i’r Amodau hyn neu unrhyw un o’u telerau, ac eithrio ag y gall yr Ymgyrch Palasau Hwyl (neu unrhyw un o’i haelodau) orfodi unrhyw un o ddarpariaethau’r Amodau hyn.

17.8    Caiff yr Amodau hyn eu llywodraethu gan a’u dehongli’n unol â chyfraith Lloegr a thrwy hyn mae’r partïon yn ymostwng i awdurdodaeth anghynhwysol Llysoedd Lloegr mewn perthynas ag unrhyw anghydfod sy’n deillio o’r Amodau hyn neu mewn cysylltiad â hwy.

18. CYSYLLTU

 18.1    Cysylltwch â hello@funpalaces.co.uk os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Wefan neu’r Amodau hyn.

 Diweddariad diwethaf   04.03.2020