1000 o Balasau Hwyl Bychain

Mae Palasau Hwyl yn ymwneud â rhannu sgiliau a chreu cysylltiadau lleol.

Er bod gan Balasau Hwyl unrhyw beth rhwng 20 a 2000 o gyfranogwyr fel arfer, wrth ymateb i Covid-19 y llynedd fe wnaethom annog Crëwyr i greu Palasau Hwyl Bychain. Er bod pethau yn edrych ychydig yn fwy normal eto erbyn hyn, rydym yn gwybod bod rhai pobl yn gwarchod o hyd ac y byddant efallai yn teimlo’n fwy diogel yn creu neu’n fod yn rhan o Balas Hwyl mwy bach.

Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi bod yn awyddus i’r rhai sy’n gwarchod arwain a chyd-greu eu Palas Hwyl Bychan eu hunain. Yn yr adran hon fe ddewch o hyd i syniadau defnyddiol, cyfarwyddyd, ac ysbrydoliaeth i’ch helpu i greu Palas Hwyl Bychan os mai dyna’r peth iawn i chi eleni.

Creadigaeth a rennir sydd wedi ei chreu gan dri chymydog ar hyd balconi, cyfnewid hadau yn eich stryd, gwers ddrymio o ffenest balconi, chwech o bobl yn dysgu trefn ddawns neu ioga neu ffitrwydd i’w gilydd mewn parc tra’n cadw pellter cymdeithasol, cymdogaeth yn ysgrifennu stori ar y cyd mewn sialc ar y palmant.

Neu gallech chi greu Palas Hwyl digidol: darlledu eich tiwtorial gwau ar Facebook Live, ysgrifennu cerdd a rennir ar Twitter, rhannu celf ar Instagram neu gynnal gystadleuaeth ddawns dros fideo-gynadledda.

Ni waeth p’un a yw ar-lein neu oddi ar-lein, yr hyn sy’n allweddol yw rhannu sgiliau, gwybodaeth, rhywbeth prydferth, rhywbeth diogel; a’i fod yn gyhoeddus (byddai’n wych cael pobl sy’n cerdded heibio i gymryd rhan) ac yn creu cysylltiad (trwy annog pobl eraill i wneud yn ogystal â mwynhau beth rydych chi wedi’i wneud).

Yn benodol rydym eisiau cefnogi’r rhai sy’n gwarchod eu hunain i arwain a chyd-greu eu Palas Hwyl Bychan eu hunain. Yn yr adran hon fe ddewch o hyd i syniadau defnyddiol, arweiniad ac ysbrydoliaeth i’ch helpu creu Palas Hwyl Bychan

#ChwyldroadauBychain

Rhannu eich syniadau CHI i gadw mewn cysylltiad oddi ar-lein yn ogystal ag ar-lein – cysylltu’n ddiogel o fewn Cymuned

Cymryd Rhan

Yn y canllaw hwn fe ddewch o hyd i syniadau defnyddiol, arweiniad ac ysbrydoliaeth i’ch helpu creu Palas Hwyl Bychan

Gwarchod

Darllen ein canllaw i Bobl sy’n Gwarchod eu Hunain

Palasau Hwyl Digidol

Gallwch ddarlledu eich tiwtorial gwau ar Facebook Live, ysgrifennu cerdd a rennir ar Twitter, rhannu celf ar Instagram neu gynnal gystadleuaeth ddawns dros fideo-gynadledda.

Gweithiau Celf

Gweithiau Celf a gomisiynwyd yn arbennig

Palasau Hwyl Bychain

Lawrlwytho ein canllaw cryno i 1000 o Balasau Hwyl Bychain, a’i rannu oddi ar-lein gyda ffrindiau a chymdogion.

Diogelwch yn ystod Covid-19

Gweler arweiniad ar Ddiogelwch yn ystod Covid-19