Homepage 2023

Rhannwch yr hyn rydych chi'n ei wneud am hwyl gyda'ch cymuned

Gwahoddwch eich ffrindiau, cymdogion neu bobl o’ch ardal – dyna Palas Hwyl. Cofrestrwch i wneud eich Palas Hwyl eich hun nawr.

Digwyddiad am ddim yw Palas Hwyl sy’n cael ei greu gan bobl leol ar gyfer eu cymuned eu hunain. Mewn Palasau Hwyl mae pobl yn dod at ei gilydd i rannu eu sgiliau, eu diddordebau a’r hyn maen nhw’n angerddol drosto, ac i ddangos i’r byd pa mor wych a llawn athrylith y mae eu cymuned!

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am beth yw Palas Hwyl (a beth nad yw). 

Gall unrhyw un yn y byd greu Palas Hwyl (ydy – mae hynny’n golygu chi!). Does dim angen profiad. (Ni’n addo)

Gallan nhw ddigwydd unrhyw le! Yn y gorffennol mae Palasau Hwyl wedi digwydd mewn llyfrgelloedd, theatrau, canolfannau cymunedol, gerddi, pyllau nofio, canolfannau chwaraeon, rhandiroedd, amgueddfeydd, canol trefi ac eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gall eich pecyn cymorth Dod o hyd i leoliad fod o help os oes angen i chi ffeindio lleoliad i gynnal eich Palas Hwyl. 

Beth sy’n digwydd mewn Palas Hwyl?

Beth bynnag rydych chi ei eisiau! Does dim ffordd gywir neu anghywir i Balas Hwyl ddigwydd. Mae Palasau Hwyl dan eu sang gyda’r celfyddydau, y gwyddorau, hanes, treftadaeth, technoleg, chwaraeon a mwy. Yn y gorffennol mae’r gweithgareddau wedi cynnwys origami, ffotograffiaeth, garddio, cerfluniau bwytadwy, rhannu ryseitiau, sgyrsiau am wyddoniaeth ac ecoleg, caiacio, gwneud chapatis, ymchwiliadau fforensig, codi hwyl a rap brwydr, i enwi ond rhai. 

Pryd gallan nhw ddigwydd?

Gallwch chi greu eich Palas Hwyl pryd bynnag y mynnwch! Gall para am bymtheg munud neu dri diwrnod. Cynhelir y Penwythnos o Ddathlu blynyddol ar y penwythnos cyntaf ym mis Hydref. Mae llawer o bobl yn dewis creu eu Palas Hwyl ar y diwrnodau hyn oherwydd eu bod yn hoffi bod yn rhan o rywbeth mwy sy’n digwydd ar yr un pryd ar draws y wlad. Fodd bynnag os nad ydy hynny’n gweithio i chi, gallwch ei gynnal ar amser sy’n gyfleus. 

Pam mae pobl yn creu Palasau Hwyl?

Mae pobl yn creu Palasau Hwyl am bob math o resymau. Mae rhai pobl eisiau teimlo mwy o gysylltiad â’u cymuned leol. Mae rhai pobl eisoes yn teimlo’n gysylltiedig, ond eisiau’r cyfle i wneud rhywbeth hwyl gyda’i gilydd. Mae rhai pobl eisoes yn gwneud gweithgareddau yn null Palas Hwyl, ond eisiau ymuno â’r ymgyrch genedlaethol a gwneud e ar yr un pryd â phawb arall; pan fyddwn ni i gyd yn gwneud e gyda’n gilydd, pan fyddwn ni i gyd yn sefyll i fyny ac yn dangos yr athrylith sy’n bodoli yn ein cymunedau, yn aml gall deimlo’n fwy pwerus. 

Sut ydw i’n cychwyn arni?

Cwestiwn da. Y peth cyntaf i’w wneud yw cael eich hun ar y map. Hyd yn oed os nad ydych yn hollol siŵr beth rydych chi’n ei wneud. Yna ewch i’r pecyn cymorth cychwyn arni am fwy o syniadau. 

Storïau Crewyr

Creu Palas Hwyl ar gyfer pobl sydd â dementia a’u gofalwyr – a phawb arall!

“Does dim drws ar ein huned ac efallai na fydd y bobl a ddaw i mewn yn aml yn anelu’n bwrpasol at gymryd rhan mewn prosiect fel ein hun ni … Rydym yn cydweithio â’r rhai sydd â dementia a’u gofalwyr yn ogystal ag â phobl o bob cefndir ac oedran. Mae gennym i gyd stori i’w hadrodd.”

Darllenwch fwy yma

BETH DDIGWYDDODD Y LLYNEDD?

  • 2,300 O GREWYR
  • 193 O BALASAU HWYL
  • 44,000 O BOBL WEDI CYMRYD RHAN

Pwy Ydym Ni

Mae’r Palasau Hwyl wedi’u creu gan bobl leol dros eu cymunedau eu hunain. Mae gennym dîm canolog bach a Llysgenhadon ar draws y Deyrnas Unedig.