Palasau Hwyl Digidol

Crëwch Balas Hwyl Digidol!

Rydym wedi diweddaru ein map i fod yn hollol glir pa Balasau Hwyl sy’n digwydd oddi ar-lein a pha rai fydd yn digwydd mewn seiber-ofod. Os ydych chi’n bwriadu cynnal digwyddiad digidol fel rhan o’r penwythnos Palasau Hwyl, cofrestrwch i Greu Palas Hwyl a byddwch yn dangos i fyny gyda phin melyn ar y map. A chofiwch, o Ebrill 26 2022, gallwch chi gofrestru Palas Hwyl ar y map i gymryd rhan unrhyw bryd yn y flwyddyn, nid dim ond ar y penwythnos Palasau Hwyl.
Bydd angen i chi ychwanegu cyfeiriad i ymddangos ar y map Palasau Hwyl – naill ai eich cyfeiriad cartref, neu gyfeiriad mwy generig ar gyfer eich tref neu ddinas.
Cofiwch ysgrifennu “Digidol” neu “Ar-lein” yn nheitl eich Palas Hwyl, fel y bydd pobl yn gwybod y bydd yn digwydd ar-lein.

Awgrymiadau cyfryngau Digidol a Chymdeithasol

Llwyth o syniadau defnyddiol o’r ffordd orau i ffrydio eich Palas Hwyl ar gyfryngau cymdeithasol i offer ar-lein sy’n hwylus i bobl gyda dementia.

Syniadau digidol i roi cynnig arnynt …

Mae’r Crëwr ac eiriolwr Palasau Hwyl, Lorena Hodgson, wedi rhoi llwyth o syniadau gwych at ei gilydd i ni eu rhannu. Mae Lorena wedi gweithio ym maes TG ers dros 30 mlynedd ac yn defnyddio rhai o’r syniadau hyn o ddydd i ddydd wrth redeg Red Barn Creative, sefydliad curadu/cynhyrchu creadigol sy’n creu prosiectau celf a threftadaeth gyda chymuned wrth eu gwraidd.

Byddwn yn rhannu rhai ohonynt yma i roi blas i chi ac mae llawer mwy o syniadau yn y PDF yma y gallwch ei lawrlwytho. Efallai y byddwch eisiau ei argraffu ar gyfer rhywun nad oes ganddynt y rhyngrwyd gartref, trwy wneud hynny gallant roi cynnig ar y gweithgareddau digidol hyn yn y llyfrgell.

Rhowch gynnig arni, dechreuwch Chwyldro (digidol) Bychan o’ch cartref. Dysgwch sgiliau newydd, pasiwch nhw ymlaen…

Crëwch bos gyda Jigsaw Planet o hoff lun a rhannwch ef gyda chyfeillion a theulu – heriwch nhw i wneud y fersiwn mawr. Mae Lorena eisoes wedi creu un gan ddefnyddio’r logo Palasau Hwyl – gallwch chi wneud y jigso yma.

Diolch i’r tîm Diwrnodau Treftadaeth Agored am y ddau nesaf …

Crëwch gwest! Dyma fideo sy’n esbonio beth i’w wneud:

Beth am greu ystafell ddianc rithwir yn Google Docs? Dyma fideo YouTube sy’n esbonio sut:

Mae Minecraft yn ffefryn ar gyfer cysylltiadau digidol. Dyma esboniad o sut mae wedi cael ei ddefnyddio mewn Amgueddfeydd, gan gynnwys geiriau gan Adam Clarke, sy’n feistr wrth greu bydoedd i bobl chwilfrydig chwarae ynddynt a dysgu ohonynt.
Sut Mae Amgueddfeydd Yn Defnyddio Minecraft i Wneud Gêm o Brofiadau Dysgu …

Rhieni, gofynnwch i’ch plant esbonio Minecraft, a gweld a allant eich dysgu chi sut i’w chwarae. Efallai bod rhieni eraill yr ydych yn eu gweld dim ond wrth glwydi’r ysgol y gallech eu herio – adeiladu eich tŷ, adeiladu tŷ eich nain a thaid!
Gweler llyfr Adam Minecraft Life Hacks Lab for Kids am fwy o syniadau.

Dysgodd Lorena gan Adam sut i roi llun mewn map Minecraft. Gwnaeth hi ychwanegu rhywfaint o waith celf a chod QR at y dudalen ar y wefan sy’n cynnwys y gwaith celf.

Lawrlwythwch y pdf am lawer mwy o syniadau.

Palasau Hwyl Bychain

Lawrlwytho ein canllaw cryno i 1000 o Balasau Hwyl Bychain, a’i rannu oddi ar-lein gyda ffrindiau a chymdogion.

Diogelwch yn ystod Covid-19

Gweler arweiniad ar Ddiogelwch yn ystod Covid-19

#ChwyldroadauBychain

Rhannu eich syniadau CHI i gadw mewn cysylltiad oddi ar-lein yn ogystal ag ar-lein – cysylltu’n ddiogel o fewn Cymuned