Rhoddi

Pam Mae Angen Eich Cymorth Arnom

Mae Palasau Hwyl yn credu nid yn unig y dylai fod gan bawb fynediad at ddiwylliant, ond y dylai fod gan bawb fynediad i greu diwylliant, yn hytrach na dim ond ei ddefnyddio. Ar ben hynny, rydym yn credu mai’r bobl orau i greu diwylliant o fewn a thros gymuned yw pobl y gymuned honno eu hunain.

Dechreuom ni yn 2013, gyda Sarah-Jane a Stella yn gweithio o’u byrddau cegin, gyda’r freuddwyd o bobl a lleoedd sy’n cymryd rhan, creadigrwydd a arweinir gan gymunedau a chwyldroadau cysylltiad bychain. Gadawodd Sarah-Jane a Stella ill dau y Palasau Hwyl ar ôl 8 mlynedd, yn 2021. Erbyn hyn Kirsty Lothian a Makala Cheung yw’r cyd-gyfarwyddwyr.

Ers hynny cynhaliwyd cyfanswm o 1758 o Balasau Hwyl mewn 15 cenedl, gyda thros hanner miliwn o bobl yn cymryd rhan.

Os byddwch yn ymweld â Phalas Hwyl yn lleol mae’n debygol na fyddwch yn gweld yr ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol, ac wedi’r cyfan yr effaith leol/gymunedol yw’r hyn rydym eisiau ei gweld, felly dyma’r hyn rydym yn ei wneud yn ychwanegol at redeg ein gweithdai, cefnogi ein Rhaglen Llysgenhadon, a gwneud i’r penwythnos ddigwydd. Mae Makala, Sarah-Jane, a Kirsty i gyd yn rhan-amser.

Mae Kirsty yn gwneud y cyllidebau mawr, y strategaeth a’r meddwl caled am ble mae angen i ni gyrraedd yn y dyfodol a sut y byddwn yn gwneud hynny.

Mae Makala yn cymryd eich data i gyd ac yn ei ddefnyddio yn ein gwerthusiad blynyddol, er mwyn i ni wybod beth rydym yn ei wneud yn dda, beth y gallwn ei wneud yn well, a beth i ganolbwyntio arno nesaf.

Rhyngom ni rydym hefyd yn gofalu am yr holl Grewyr, yn gwneud y gwaith gweinyddol, diweddaru’r wefan, cywain data gan Grewyr, rhedeg gweithdai ac yn gweithio i wneud yr ymgyrch yn fwy cynhwysol byth.

Mae angen eich cymorth chi arnom.
Rydym yn ymroddedig i sicrhau y gall unrhyw un unrhyw le greu Palas Hwyl lleol. Rydym yn ymroddedig i gadw dull talu’r-hyn-y-gallwch – sydd weithiau yn golygu am ddim – ar gyfer ein gweithdai.

Mae gennym freuddwydion o gefnogi Rhwydwaith Crewyr, mwy o weithdai, mwy o ddatganoli a llawer mwy o Lysgenhadon.

Rydym yn ddiolchgar tu hwnt am unrhyw rodd, ni waeth p’un a yw’n helpu ni i dalu am tocyn trên i gefnogi Palas Hwyl gyda chyngor un-i-un, argraffu’r posteri a thaflenni rydym yn eu hanfon am ddim at Balasau Hwyl, neu alluogi ni i gynnig mwy o weithdai lleol, mae’r cyfan yn helpu.

Diolch,

Kirsty a Makala