Diogelwch a Covid-19

Sut allwn ni gadw ein Palas Hwyl yn ddiogel yn ystod Covid-19?

Mae pethau wedi newid llawer ers dechrau’r pandemig, ond mae’n werth gwirio’r canllawiau presennol a’r lefelau risg yn lleol o hyd, a gwirio eto cyn eich digwyddiad, gan fod pethau’n newid yn gyflym. Y canllawiau diweddaraf ar gyfer y DU:

Er bod y cyfyngiadau’n cael eu llacio ar draws y DU, a bod brechiadau wedi newid cwrs y pandemig, os yw’r risg i chi’n uchel, gallwch chi greu neu gymryd rhan mewn Palasau Hwyl o gartref o hyd. Os nad ydych chi ar risg uchel eich hun, ystyriwch ffyrdd i bobl sy’n gwarchod neu’n cymryd mwy o ragofalon o ran COVID, gysylltu â’ch Palas Hwyl. Mae gennym rai syniadau yma: Canllaw Creu Palasau Hwyl i Bobl sy’n Gwarchod eu Hunain.

Rhai hanfodion:

Er bod pobl yn cwrdd wyneb yn wyneb dan do erbyn hyn, efallai ei fod yn werth ystyried sut y gallwch estyn croeso i’r rhai sy’n cymryd mwy o ofal o ran COVID-19 a gwneud iddynt deimlo’n ddiogel yn eich Palas Hwyl. Mae’r awyr agored yn fwy diogel na dan do – efallai y gallai rhai elfennau (neu’r cyfan) o’ch Palas Hwyl ddigwydd yn yr awyr agored. Mae ymhellach i ffwrdd o’ch gilydd yn fwy diogel na phennau a wynebau sy’n agos i’w gilydd, a allwch chi sicrhau nad yw gofodau’n mynd yn orlawn? Mae Palas Hwyl bychan yn opsiwn o hyd ac yn Balas Hwyl dilys o hyd.

Rhai rhagofalon eraill y byddwch efallai am eu hystyried i helpu pobl i deimlo’n fwy cyfforddus:

  • Marciwch mannau ar y llawr neu ddaear i ddangos i bobl pa mor bell i ffwrdd o’i gilydd y dylent eistedd neu sefyll.
  • Gadewch gatiau neu ddrysau ar agor fel nad oes angen i bobl gyffwrdd â’r handlenni a golchwch arwynebau y mae nifer o bobl yn cyffwrdd â nhw’n rheolaidd. Dyma awgrymiadau Sefydliad Iechyd y Byd ar lanhau ardaloedd cyhoeddus.
  • Cadwch ffenestri ar agor i helpu cylchrediad aer mewn digwyddiad dan do.
  • Er nad ydynt yn fandadol bellach mewn rhannau o’r DU, efallai y byddwch eisiau gwisgo gorchudd wyneb o hyd, gan annog eraill i wneud yr un peth. Gallai parêd o orchuddion wyneb wedi’u haddurno fod yn rhan o’ch Palas Hwyl. Meddyliwch hefyd am gyfranogwyr y mae angen iddynt weld wynebau, fel y rhai sy’n darllen gwefusau.
  • Darparwch finiau er mwyn i bobl daflu menig neu fygydau wedi’u defnyddio pan fyddant yn gadael.
  • Gallech chi ofyn i bobl ddefnyddio eu cyfarpar eu hunain (e.e. papur, beiros) neu ddarparu nhw mewn hambwrdd llydan yn hytrach na chynhwysydd y rhoddir llaw ynddo. Darparwch hambwrdd arall ar gyfer deunyddiau wedi’u defnyddio.
  • Os gallwch, darparwch orsaf golchi dwylo gyda sebon, dŵr (dŵr poeth yn ddelfrydol), tywelion papur, a bin, neu orsaf diheintio dwylo. Bydd angen glanhau gorsafoedd hylendid hefyd.
  • Mewn gofod ehangach meddyliwch am sut y bydd pobl yn symud o gwmpas. System unffordd? Marciau ar y llawr? Arwyddion? Faint o bobl all gymryd rhan, o ystyried cadw pellter cymdeithasol?

Mae’n annhebygol y bydd angen yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer Palas Hwyl bychan, ond os ydych yn ei gynnal trwy eich lleoliad neu swydd, gwiriwch ei fod yn ddilys o hyd yn ogystal â’r amodau angenrheidiol i’w gadw’n ddilys. Os yw’n ymddangos na fydd eich Palas Hwyl mor fychan wedi’r cyfan, gwiriwch y canllawiau manylach ar gyfer eich amgylchiadau.

Mae gan Lywodraeth y DU ganllawiau gweithle ar ostwng lledaeniad COVID-19 gyda mwy o fanylion am lanhau, cadw pellter, gorchuddion wyneb etc.

Dyma rai canllawiau hygyrchedd manwl gan y Rhwydwaith Cydweithio ar Anableddau ac Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol East Anglia

A darperir arweiniad defnyddiol cyffredinol yma (nad yw’n cymryd y pandemig i ystyriaeth).

Palsau Hwyl Bychain

Lawrlwytho ein canllaw cryno i 1000 o Balasau Hwyl Bychain, a’i rannu oddi ar-lein gyda ffrindiau a chymdogion.

Pecyn cymorth diogelwch a COVID-19

Lawrlwytho’r dudalen hon fel PDF
SUT GALLWN NI GADW EIN PALAS HWYL YN DDIOGEL YN YSTOD COVID 19?

#ChwyldroadauBychain

Rhannu eich syniadau CHI i gadw mewn cysylltiad oddi ar-lein yn ogystal ag ar-lein – cysylltu’n ddiogel o fewn Cymuned