Gwaith celf

Nid yw’r Palasau Hwyl erioed wedi comisiynu artistiaid o’r blaen, nid lleiaf oherwydd i ni gredu bod pawb yn artist.

Fodd bynnag, yn sgil yr argyfwng Covid, wrth ymateb i Black Lives Matter, a gyda’r gydnabyddiaeth ein bod eisiau gwneud mwy o hyd i annog gwell gynhwysiad mewn Palasau Hwyl a hynny fel digwyddiadau ac ar draws ein gwaith i gyd, yn 2020 fe ddewison ni gomisiynu grŵp o artistiaid eleni.

Ein pryfôc oedd ystyried sut y gall chwyldroadau cysylltiad bychain mewn cymunedau helpu cyfrannu at gymdeithas sy’n fwy cyfartal, cynhwysol a hael. Rydym yn gweld bod y chwyldroadau bychain hyn wrth wraidd ein gwaith ac fe ofynnom i chwe artist ddehongli’r syniad hwn ym mha ffordd bynnag sy’n teimlo’n iawn ar gyfer eu gwaith, ar gyfer eich ffurf ar gelf a’r cyfnod presennol hwn.

Anogodd y gweithiau celf bobl eraill i gymryd rhan yn y 1000 o Balasau Hwyl Bychain yn 2020 mewn ffordd a oedd yn ddiogel iddyn nhw a’u cymuned, gan gynnal y cysylltiadau a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod clo. Gweler gwybodaeth isod am yr artistiaid a’r gwaith y gwnaethant ei greu.

Suriya Aisha (Manceinion)

Party for 1000 Tiny Failures or Making Friendship with Failure from your Bed
Dau weithdy i ‘sickbabes’ (menywod a phobl anneuaidd sy’n hunanadnabod fel bod yn sâl neu’n anabl) fod gyda’i gilydd a thrafod sut mae’n teimlo i ‘fethu’ â chyflawni’ch disgwyliadau eich hun yn barhaus.
Rhedodd Suriya ddau weithdy a helpodd bobl i ailfframio eu profiadau i ddathlu methu. Mae bod yn sâl yn golygu bod yn rhaid i chi fod yn gyfeillion gyda methu. A cholli’r marc bob tro. Proses o addasiadau parhaus i ddysgu pwy ydych chi a beth yw eich cyfyngiadau eich hun. Roedd y gweithdai difyr ac ysgafn ei naws hyn yn bartis i’n 1000 (a mwy) o Fethiannau Bychain.

Mae Suriya Aisha yn Artist, Actifydd a Chynhyrchydd sy’n gweithio yn y sector diwylliannol a chymunedol. A hithau’n sefydlydd UNMUTED– rhwydwaith i bobl LHDT groenliw yn Birmingham a Chyd-gyfarwyddwr Colours Youth UK, sefydliad LHDT ieuenctid, mae hi’n angerddol dros greu gofodau i’r cymunedau sydd fwyaf ar ymylon cymdeithas. Suriya yw’r artist arweiniol ar bodlediad sydd i’w ryddhau’n fuan @sickbabepod a fydd yn rhoi llais i fenywod a phobl anneuaidd sy’n byw gydag anableddau anweladwy a salwch cronig.

David Ellington (Bryste)

A Z Alphabet in the street
Rwyf wedi creu fideo sy’n rhoi mewnwelediad i sut mae’n edrych i arwyddo yn ôl yr wyddor (A- Z) gydag eitemau gweledol ar y llwyfan gyhoeddus. Mae’n helpu chi i ddeall sut mae’n gweithio trwy gyfathrebu ag aelodau byddar sy’n ffafrio defnyddio BSL (Iaith Arwyddion Prydeinig) fel cyfathrebiad gweledol.

Mae gwaith David Ellington yn cynnwys ffilm, theatr a drama’r teledu a chyflwyno ers 1997. Mae David bob amser wedi mwynhau gwneud gwaith creadigol gan gynnwys prosiect teledu / gwneud ffilmiau a gweithdai theatr, gan gynnwys rhedeg cyrsiau theatr ar gyfer myfyrwyr byddar ac anabl ifainc.
Sefydlodd David VS1 Productions yn 2007, sydd wedi ffynnu wrth greu ffilmiau byrion, dramâu teledu a rhaglenni dogfen niferus yn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL).
O ganlyniad i hyn enillodd David nifer o wobrau teledu/ffilm ar gyfer ei allbynnau creadigol rhagorol. Creodd David berfformiadau iaith arwyddion blaengar ar gyfer rhagolwg gemau paralymaidd Rio Channel 4 yn ogystal â hysbyseb 3 munud yn The Last Leg.
Mae David wedi ymgynghori â sefydliadau celf niferus i wella ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad tuag at y gymuned Fyddar. Ar hyn o bryd mae’n ymwneud ag arwain digwyddiadau misol; Deaf Conversations About Cinema yn Watershed, Bryste. Derbyniodd ddyfarniad yn ‘100 BME Powerlist’ Bryste yn 2018.  
Mae gan David ddiddordeb mewn gwneud gwaith o uwchben, disgyblaeth lle mae’n edmygu ffocws a her ddwys technegau uwchben. O ganlyniad i hyn mae wedi parhau i ymwneud â chynyrchiadau Extraordinary Bodies – Weighting (2016) a What Am I Worth (2018 / 2020).

David Ellington
Sue Fraser (Inverness)

Roedd fy Mhalas Hwyl yn gyfle i mi gwrdd â rhai o fy nghymdogion am y tro cyntaf a dangos iddynt sut i gael hwyl yn gwneud sebon wedi’i ffeltio a cherrig wedi’u gorchuddio.
Crëodd Sue groglun wedi’i ffeltio yn dangos golygfeydd o’i stryd a fwynhawyd gan aelodau’r grŵp WhatsApp y dechreuodd hi ar ddechrau’r cyfnod clo ym mis Mawrth. Awgrymodd pob aelod o’r grŵp flodyn neu blanhigyn yr oeddent am ei weld yn y darn gorffenedig. Ymunodd cymdogion â’r grŵp WhatsApp ar ôl clywed amdano ac fe aeth yn ganolbwynt ar gyfer rhannu lluniau, newyddion, storïau a chefnogi ei gilydd.

Mae Sue hefyd yn gweithio gyda Highland Third Sector Interface fel Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr ac yn gobeithio y bydd sefydliadau Trydydd Sector yn achub ar y cyfle i redeg gweithgareddau Palas Hwyl cymunedol ar draws yr Ucheldiroedd.
Gellir gweld gwaith Sue ar Facebook Sue’s Felted Landscape, Wooliebacks

Mae Sue Fraser yn artist tecstilau sydd wedi’i lleoli yn Inverness. A hithau wedi’i geni i’r de o’r ffin i rieni o Jamaica, tyfodd Sue i fyny ar ganolfannau’r Llu Awyr cyn dilyn yn olion troed ei thad ac ymuno â’r Llu Awyr Brenhinol fel Rheolydd Traffig Awyr Cynorthwyol. Ar ôl treulio 17 fel rheolwr adran fanwerthu, ymunodd hi â’r GIG, gan weithio ym maes Iechyd Galwedigaethol iechyd meddwl am 12 mlynedd.
Yn ystod ei hamser yn ysbyty New Craig syrthiodd Sue mewn cariad â chrefft ffeltio.
Dysgodd cydweithiwr i mi sut i wneud eitemau wedi’u ffeltio syml fel y gallem redeg y gweithgaredd mewn grwpiau therapi, a brofodd hynny i fod yn boblogaidd iawn. Penderfynais gyfuno’r sgìl newydd â fy nghariad at gelf, gan lwyddo i gynhyrchu paentiadau a grëwyd o wlân merino a sidan mewn lliwiau eofn Yr Alban gyda manylder a gwead cain.

Sue Fraser
Rabab Ghazoul (Caerdydd)

One-Nine-One and One-Nine-Three  

Roedd ‘One-Nine-One and One-Nine-Three’ yn brosiect am yr hyper leol; yr unigolyn sydd agosaf i chi – nid oherwydd cysylltiad teulu neu bersonol, ond yn syml oherwydd ei fod yn byw drws nesaf. Roedd yn brosiect a gymerodd ddau berson annhebyg sydd i’w gweld ag ychydig iawn rhyngddynt, sy’n digwydd byw drws nesaf i’w gilydd, a ofynnodd: ‘Beth sydd ganddynt mewn cyffredin, a sut? Beth yw ein dealltwriaeth o bwy ydym ni, trwy lens ein cymydog drws nesaf?’

Mae Rabab yn byw drws nesaf i Chris. Mae Chris yn byw drws nesaf i Rabab. Maent yn bobl wahanol iawn. Mae un yn artist ac mae ganddi ‘gyfred’ yn nhermau gweladwyedd ei chreadigrwydd. Ni ystyrir bod y llall yn ‘artist’ nac yn weladwy ychwaith yn nhermau ei greadigrwydd, er iddo gynhyrchu corff o farddoniaeth a chwe nofel. Sut mae systemau diwylliannol yn cynyddu braint, dilysrwydd a gweladwyedd mathau penodol o greadigrwydd dros fathau eraill? Beth sy’n digwydd pan ddaw dau gymydog ynghyd i gymharu nodiadau? Cynhyrchodd y prosiect gyfres o sgyrsiau, myfyrdodau, deialogau a recordiadau rhwng Rabab a Chris.

Mae Rabab Ghazoul yn artist gweledol rhyngddisgyblaethol sy’n frwd dros gymdeithas ac mae ganddi ddiddordeb mewn ymchwilio i’r perfformiadol a’r sgyrsiol, mewn perthynas â sut rydym yn ymdrin â phŵer, lleoedd, hunaniaethau a hanes. Daw ei gwaith ar amrywiaeth o ffurfiau: ymddangos fel testun, fideo, sain/cân, gosodiadau a pherfformiad/profiad yn y parth cyhoeddus, ond yn fwy aml mae eu gweithiau celf yn sgyrsiau sy’n para am unrhyw hyd rhwng diwrnod a blwyddyn. Mae Rabab yn ystyried bod ei phrofiad yn parth wedi’i ehangu o ryngweithio, gyda’r ‘parth’ cyhoeddus, parth y bobl fel ei phrif gyd-destun. Mae elfen bob amser o ennyn diddordeb, gwahoddiad i gymryd rhan. Ni waeth p’un a yw’n trefnu gorymdaith, côr, taith gerdded neu gynulliad, mae’r gweithgareddau hyn yn aml yn gwestiynau i’w hun o gwmpas beth allai geiriau fel ‘cymuned’ neu ‘perthyn’ ei olygu’n ymarferol ac o ran dyhead.

Rabab Ghazoul, Eight texts for the revolution
Sani Muliaumaseali’i (Rotoiti, Aotearoa/Seland Newydd a Llundain)

Carpark Opera
Nid felly y mae o reidrwydd’ yw fy ngalwad i weithredu. Mae fy nghynnig yn ceisio ysbrydoli pobl i gerdded i ffwrdd gyda chwestiynau. Pwy ydym ni eisiau bod yn y byd ar ôl covid? Mewn celf, pam mae’r cynnwys hynny o reidrwydd yn hafal i’r ffurf honno? A pham na ddylai?

Trwy GAFA mae fy niwylliant Samoa yn cyfeirio fy ffordd o fod mewn theatr. Mae ein castio sy’n niwtral o ran rhywedd a hil, y ffordd yr ydym yn maethu’r cwmni, a sut rydym yn trin gofod creadigol yn fynegiadau o hyn. Rydym yn weladwy ac yn ffynnu o fewn gofod rydym wedi’i greu ein hunain.

Parhaodd fy ngwaith drwy gydol y cyfnod clo, mewn ffordd wahanol. Isafwyd y raddfa ond parhaodd y syniadau (a’r uchelgeisiau) yn enfawr. Bydd cerddoriaeth, geiriau a symudiad fy chwyldro bychain yn adlewyrchu’r byd fel y mae ar hyn o bryd, BLM, a naws Joan Littlewood a oedd eisiau ‘chwythu’r Theatr Genedlaethol i fyny’, gan na all newid go iawn ddigwydd heb ddinistrio syniadau sefydliadedig niweidiol.

Ar gyfer fy Chwyldro Bychan cynhyrchais fideo hyrwyddo ar gyfer CARPARK Opera & Cabaret.

Cafodd y fideo ei greu adref, ei berfformio’n FYW, ac fe ddefnyddiodd ba ddeunyddiau ac adnoddau bynnag oedd ar gael. Y deunydd a ddefnyddiais fwyaf oedd fy nghydnerthedd.

Wrth ei natur, addasu byrfyfyr yw cydnerthedd, mae’n ymwneud ag arbrofi, bod yn wydn ac yn y pen draw, yn drawsnewidiol. Bydd angen yr holl rinweddau hyn arnom er mwyn i ni ystyried unrhyw fath o ddyfodol. Oll wedi’i greu adref, gwneud gwaith gyda’r hyn sydd ar gael.

Mae Sani Muliaumaseali’i yn ddehonglwr Celf Haenog a leolir yn Llundain. Mae wedi ymddangos mewn Opera, ffilm, teledu a’r rhan fwyaf o ffurfiau ar theatr gerdd mewn rhannau niferus o’r byd, Yn 2012 cyd-sefydlodd Sani Gafa Arts Collective, cydweithfa gelf Samoaidd gyntaf Llundain. Mae Sani wedi ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu’r gweithiau llwyfan a ganlyn ar gyfer GAFA: A family called Samoa (2012) Kava Girls (2014) R’Otello the rugby opera (2015)  Baba the bad Baboon (2016) Messiah Pazifik (2017) Talune (2018) Sunday MASSive (2018) .
Mae Sani yn cydnabod ei athrawon mawr, sydd wedi cynnwys Nina Walker, Syr Donald McIntyre, Harry Coghill, Beatrice Webster, Anna Sims ac Anna Sweeny.

Degna Stone (Newcastle)

A Manifesto of Tiny Commitments
Mae newid y byd i’w weld yn ymgais eithaf sylweddol ar hyn o bryd. Ond beth os ydym yn cymryd camau bychain?Darllenwch faniffesto Degna Stone o Ymrwymiadau Bychain isod – ac yna dilynwch y camau o’i gweithdy i greu eich rhai eich hun!

Mae Degna Stone yn fardd a golygydd sy’n byw yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Mae hi’n rhannu ei chartref ger Afon Tyne gyda dau o blant yn eu harddegau, ei gŵr Dan a shiwawa.  Mae ei phamffled barddoniaeth diweddaraf Handling Stolen Goods ar gael gan Peepal Tree Press. 

Degna Stone ©SarahMetcalf

Palasau Hwyl Bychain

Lawrlwytho ein canllaw cryno i 1000 o Balasau Hwyl Bychain, a’i rannu oddi ar-lein gyda ffrindiau a chymdogion.

Diogelwch yn ystod

Covid-19

Gweler arweiniad ar Ddiogelwch yn ystod Covid-19

#ChwyldroadauBychain

Rhannu eich syniadau CHI i gadw mewn cysylltiad oddi ar-lein yn ogystal ag ar-lein – cysylltu’n ddiogel o fewn Cymuned