Sut i Gymryd Rhan

Crëwch Balas Hwyl Bychan 30 Medi – 2 Hydref 2022!

Pwy

Chi! Ac, os dymunwch, eich aelwyd, ffrindiau, cydweithwyr, rhai eraill sy’n mynd â’u cŵn am dro, cymdogion ar y grŵp Cyd-gymorth Covid neu WhatsApp. Gall Palas Hwyl bychan fod yn unigol neu gyda thîm bychan. Os ydych yn creu eich Palas Hwyl y tu allan i’ch cartref, cynlluniwch ef trwy sgwrsio ar falconi’r ystâd neu o’ch ffenestri, dros y ffôn, trwy lythyr neu neges.

Beth

Gall eich Palas Hwyl bychan fod beth bynnag rydych eisiau iddo fod. Ers dechrau’r cyfyngiadau, mae’r gymuned Palasau Hwyl wedi bod yn rhannu Chwyldroadau Cysylltiad Bychain, y gallwch bori trwyddynt am syniadau neu sgroliwch i ddiwedd y ddogfen hon i weld awgrymiadau.

Ble

Unrhyw le y gallwch greu cysylltiad. Os oes gennych ffenestri sy’n wynebu stryd neu gwrt, defnyddiwch ffenestri fel llwyfan, oriel neu ddarllenfa. Defnyddiwch ardal mewn parc, hysbysfwrdd, ffenest siop. Mae Palasau Hwyl dros y ffôn ac ar-lein yn dda hefyd. Gall lleoliadau sydd wedi gorfod cau ddefnyddio ffenestri neu’r pafin.

Pryd

Penwythnos cyntaf mis Hydref (30 Medi – 2 Hydref). Mae 20 munud yn grêt – cael y stryd i ganu. Mae trwy’r penwythnos yn grêt – arddangosfa o gwmpas y dref o bethau hynaf pawb, gyda thrigolion yn sefyll wrth eu ffenestri neu ddrysau i rannu eu gwrthrychau gyda’r rhai sy’n cerdded heibio.

Pam

Oherwydd y gall creadigrwydd mewn cymunedau newid y byd er gwell, i ddathlu ein gilydd, cofio’r rhai yr ydym wedi’u colli a chysylltu â’n cymdogion.

Sut

Bydd cofrestru’n dechrau yng Ngwanwyn 2022. Os ydych chi’n gwarchod, yn dal i fod yn ofalus neu’n osgoi mannau gorlawn, nid yw hynny’n golygu nad oes modd i chi greu Palas Hwyl anhygoel! Cliciwch ar ‘Creu Palas Hwyl‘ ar frig y dudalen hon yn y gornel dde, crëwch gyfrif, ac yna cofrestrwch eich Palas Hwyl. Bydd angen i chi ychwanegu Teitl, disgrifiad byr, a lleoliad er mwyn gwneud i’ch Palas Hwyl ymddangos ar y map ar gyfer 2022. Yna, ewch ati i ledaenu’r gair!

Lledaenu’r gair!

I ledaenu’r gair am eich Palas Hwyl, lawrlwythwch ein Pecyn Cymorth Cyhoeddusrwydd.

Eleni, rydym yn gwneud tri awgrymiad ychwanegol hefyd:

1. Os oes angen i chi gadw fe’n fach 
Mae Palasau Hwyl ar gyfer pawb, ond efallai na fydd gan eich Palas Hwyl le i bawb ar yr un pryd. Efallai y byddwch eisiau cyfyngu eich hysbysebu i’ch ardal leol iawn, ond gwnewch ymdrech i wahodd pobl na fyddech yn cwrdd â nhw fel arfer.

Lawrlwythwch ein gwahoddiadau Palasau Hwyl, llenwch nhw i mewn a phostiwch nhw trwy ddrysau eich cymdogion (hyd yn oed y rhai nad ydych wedi siarad â nhw).

2. Gall nifer mawr o leisiau bychain greu synau mawrion 
Helpwch ledaenu ymwybyddiaeth o’r Palasau Hwyl trwy roi poster Palasau Hwyl yn Digwydd Yma yn eich ffenest neu ardd flaen.

Rhowch wybod i ni beth sydd wedi bod yn digwydd yn eich Palas Hwyl ar Twitter, Facebook ac Instagram trwy dagio ni a defnyddio’r hashnod #PalasauHwyl.

3. Y wasg leol 
Cysylltwch â’r papurau newydd, gorsafoedd radio a blogiau lleol am eich Palas Hwyl.  Hyd yn oed os yw eich Palas Hwyl yn fychan iawn, mae’n bosib y bydd gan newyddiadurwyr ddiddordeb o hyd yn yr effaith bositif ar eich cymuned a’r ffaith eich bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n digwydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Rhywfaint o ysbrydoliaeth…

Yn ystod y cyfyngiadau symud yn y DU, mae Crewyr Palasau Hwyl wedi bod yn rhannu camau bychain ymarferol y gall unrhyw un eu cymryd i gysylltu ag eraill yn eu cymuned leol neu dreulio amser hunanynysu yn gwneud rhywbeth creadigol. Mae’r Palasau Hwyl wedi bod yn rhannu’r rhain fel Chwyldroadau Cysylltiad Bychain. Os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer eich Palas Hwyl, maent yn fan cychwyn gwych (ac oes gennych chi syniad yr hoffech ei rannu ar y dudalen, cysylltwch â ni).

Dyma rai ohonynt y gallwch eu defnyddio fel man cychwyn:

Dyma ragor o syniadau, mae’n ddrwg gennym mai dim ond yn Saesneg y maen nhw ar gael ar hyn o bryd.

Palasau Hwyl Bychain

Lawrlwytho ein canllaw cryno i 1000 o Balasau Hwyl Bychain, a’i rannu oddi ar-lein gyda ffrindiau a chymdogion.

Diogelwch yn ystod Covid-19

Gweler arweiniad ar Ddiogelwch yn ystod Covid-19

#ChwyldroadauBychain

Rhannu eich syniadau CHI i gadw mewn cysylltiad oddi ar-lein yn ogystal ag ar-lein – cysylltu’n ddiogel o fewn Cymuned