#ChwyldroadauBychain 3 – Creu Bynting papur

Canllawiau

BYDDWCH ANGEN:

  • Bag blawd gwag neu bapur patrymog arall
  • Darn o bapur o tua’r run un faint – plaen neu â lliwiau golau i ddefnyddio fel ail haen o bapur (falle gwneith lliwiau neu gynlluniau cryf ddangos drwodd)
  • Cardfwrdd – mae bocs grawnfwyd yn ddelfrydol
  • Sgrapiau o bapur lliwgar, paent neu peniau i addurno’r bynting
  • Siswrn, ffon fesur, nodwydd finiog drwchus, pensil miniog a ffon glud
  • Cortyn neu wlân – peidiwch â’i dorri nes mae’r bynting wedi ei gwblhau
  • Pinnau bawd neu dâp i hongian eich bynting NEU
  • Amlen a stamp i bostio’ch bynting i rywun arall!

1. Gwnewch dempled cardfwrdd ar gyfer trionglau eich bynting.  I ddewis maint eich trionglau, plygwch darn o bapur A4 yn ei hanner sawl gwaith, a pan fyddwch yn ei agor gallwch ddarlunio trionglau o feintiau gwahanol ar y petryalau gwahanol feintiau. Dewiswch y maint rydych chi’n ei hoffi, a chrëwch un y maint yma hefo cardfwrdd eich blwch grawnfwyd.

2. Torrwch ar hyd semau’r bag blawd i wneud darn fflat o bapur. Smwddiwch y papur mewn lliain sychu llestri wedi ei blygu (i gadw’r haearn yn lân), er mwyn cael gwared â’r crychau.

3. Defnyddiwch eich templed cardfwrdd i farcio trionglau ar y bag blawd. (Ceisiwch weld lle mae’r patrymau gorau ar y papur er mwyn cael rhain mewn lle da ar eich triongl). Torrwch nhw allan.

4. Gludiwch y trionglau ar yr ail ddarn o bapur a thorrwch nhw allan – nawr mae gennych haen ddwbl o bapur sy’n gryfach ac yn edrych yn well.

5. Gan ddefnyddio ffon mesur a phensil, marciwch res o ddotiau ar fylchau rheolaidd, tua 1cm o dop pob triongl.  Dyma lle fydd y tyllau i roi’r cortyn drwyddynt.  Mae nifer od o dyllau yn creu canlyniad taclusach.

6. Gwnewch y tyllau hefo’r nodwydd drwchus, finiog.  Gan ddefnyddio pensil miniog, gwnewch y tyllau ychydig yn fwy, gan weithio’n ofalus o du blaen a chefn y triongl.

7. Bwydwch y cortyn drwy’r tyllau a thynnwch y trionglau ar ei hyd yn ofalus nes rydech chi’n hapus hefo’r canlyniad.  Nawr gallwch dorri’r cortyn i’r hyd delfrydol.

8. Ychwanegwch i’ch bynting hefo siapiau papur, paent, lluniau neu ysgrifen.

9. Rhowch eich bynting i fyny neu rhowch o’n anrheg i rywun!

Hoffem weld llun o’ch bynting os ydech chi’n fodlon rhannu!