Chwyldroadau Cysylltiad Bychain

Rydym bob amser wedi dweud bod y Palasau Hwyl yn ymwneud â’r cysylltiadau mwyaf bach, rhwng un person a’r llall – a bod y broses o greu Palas Hwyl yr un mor bwysig ym mhob ffordd â’r hyn sy’n digwydd ar y penwythnos. Fel y dwedom yn ein Maniffesto:

Rydym yn credu y gallwn ni wneud hyn gyda’n gilydd, yn lleol, gyda hwyl radicalaidd – ac y gall unrhyw un, unrhyw le, greu Palas Hwyl.

Ac yn awr mae’n amser rhoi cynnig arni …

Byddwn yn rhannu awgrymiadau ymarferol a hawdd eu gwneud gan ein Crewyr a’n Llysgenhadon, camau  bychain y gall unrhyw un eu cymryd i greu ychydig yn fwy o gysylltiadau yn eu cymuned leol. Bydd y camau hyn ar-lein ac yn rhai go iawn – wrth i gryn dipyn o gysylltiad symud ar-lein ar hyn o bryd, rydym yn ymwybodol iawn nad yw hyn ar gael i bawb ac rydym eisiau, wrth gwrs, i’r Palasau Hwyl fod ar gael i unrhyw un.

Rhowch gynnig ar bethau, dwedwch wrthym sut maent yn gweithio i chi, gyrrwch eich syniadau gwych atom – gallwn rannu’r rhain fel blogiau, fideos neu sain. (ds – cadwch nhw’n fyr, 500 o eiriau ysgrifenedig neu 2-3 munud o ddeunydd wedi’i recordio). Trwy wneud hynny bydd lle gyda ni i rannu hyd yn oed yn fwy.

#ChwyldroadauBychain 4 – Creaduriaid Cegin

Creu Bynting papur

Ac os ydych chi’n dysgu Cymraeg… (and if you’re learning Welsh yourself) …

Rydyn ni’n ystyried sut gallwn greu cysylltiadau rhwng pobl – chwyldroadau bychain – a sut gallwn gefnogi eraill mewn cyfnod hynod o heriol.

Bethan Page, Llysgennad Palasau Hwyl