Helo, Bethan Page ydw i, a dwi’n gweithio fel Llysgenad Palasau Hwyl, wedi fy lleoli hefo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngogledd Cymru.
Pwrpas Palasau Hwyl ydy i greu cysylltiadau – ‘Chwyldroadau Bychain’ rhwng pobl – fel pam rydech chi’n cysylltu hefo rhywun am y tro cyntaf, neu pan mae’r cysylltiad yn gwella, a cymaint mae hynny’n gwneud i ni deimlo’n gyfan fel pobl.
Dwi di camu allan i’r ardd bore ma i wrando ar sŵn yr adar yn canu – mae pethe bach fel hyn yn mynd i fod mor bwysig i ni yn ystod y sefyllfa Covid-19 – i atgoffa’n hunain fod byd natur yn cario yn ei flaen, ac mi fydd o dal yna pan fyddwn ni’n dod allan o pen arall y sefyllfa yma.
Dwi hefyd yn siarad am marmalêd, er mwyn pasio ‘tip’ ymlaen i chi. Gês i hwn gan Mary Tŷ’n Rhedyn, cogyddes wych – os fyddwch yn rhewi’r orenau Seville, wedi iddynt ddadlaeth, torrwch nhw mewn hanner, mae’r ‘pylp’ yn disgyn allan a mae o cymaint yn hawddach i dorri’r croen, dydy o ddim fel lledr ac mae’n hawdd i’w dorri – mae’n gwneud gwahaniaeth mawr!