Polisi Defnydd Derbyniol

Yr Ymgyrch Palasau Hwyl

Polisi Defnydd Derbyniol

Mae’r polisi defnydd derbyniol yn disgrifio’r telerau rhyngoch chi a ni y gallwch gyrchu gwefan www.palasauhwyl.co.uk (y Wefan) oddi tanynt. Mae’r polisi defnydd derbyniol yn berthnasol i holl ddefnyddwyr y Wefan ac ymwelwyr â hi.

Mae eich defnydd chi o’r Wefan yn golygu eich bod yn derbyn, ac yn cytuno i lynu wrth, holl delerau’r polisi defnydd derbyniol hwn, sy’n ychwanegol at delerau ac amodau ein gwefan. Os ydych wedi cofrestru ar y wefan fel Crëwr Palas Hwyl, mae’r polisi hwn yn berthnasol i chi hefyd ac yn ategu ein telerau ac amodau ar gyfer Crewyr Palasau Hwyl.

Mae www.palasauhwyl.co.uk yn wefan a weithredir gan Gwmni The Albany 2001, elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant y mae ei swyddfa gofrestredig yn  The Albany Centre, Douglas Way, Deptford, Llundain SE8 4AG (rhif cwmni 04333098) ar ran yr Ymgyrch Palasau Hwyl, cymdeithas anghorfforedig.

 1. DEFNYDDIAU A WAHERDDIR

1.1       Gallwch ddefnyddio’r Wefan ddim ond at ddibenion cyfreithlon. Ni allwch ddefnyddio’r Wefan:

  • Mewn unrhyw ffordd sy’n torri unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol perthnasol.
  • Mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon neu’n dwyllodrus, neu sydd ag unrhyw ddiben neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus.
  • At ddiben niweidio neu geisio niweidio plant dan oed mewn unrhyw ffordd.
  • I anfon, derbyn yn fwriadol, uwchlwytho, lawrlwytho, defnyddio neu ailddefnyddio unrhyw ddeunydd nad yw’n cydymffurfio â’n safonau o ran cynnwys ym mharagraff 3 isod.
  • Trawsyrru, neu achosi anfon, unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hybu anawdurdodedig neu nas gofynnwyd amdanynt neu unrhyw ffurf debyg arall ar ddeisyfiad (sbam).
  • Trawsyrru, anfon, uwchlwytho neu fel arall cyflwyno’n fwriadol unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys firysau, ceffylau Caerdroea, mwydod, ac unrhyw ddeunydd arall sy’n dechnolegol niweidiol neu’n ddinistriol neu wedi’i ddylunio i effeithio’n andwyol ar weithrediad unrhyw feddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’r Wefan. Mae’n rhaid i chi beidio ag ymosod ar y Wefan trwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth dosbarthedig.

1.2       Rydych yn cytuno hefyd i:

Beidio â chyrchu heb awdurdod, ymyrryd ag, difrodi neu aflonyddu ar:

  • unrhyw ran o’r Wefan;
  • unrhyw gyfarpar neu rwydwaith y mae’r Wefan wedi’i storio arno;
  • unrhyw feddalwedd a ddefnyddir wrth ddarparu’r Wefan; neu
  • unrhyw gyfarpar neu rwydwaith neu feddalwedd sy’n eiddo i unrhyw drydydd parti neu wedi’i ddefnyddio ganddo.

2. GWASANAETHAU RHYNGWEITHIOL

2.1       O bryd i’w gilydd mae’n bosib y byddwn yn darparu gwasanaethau rhyngweithiol ar y Wefan, yn ddigyfyngiad:

  • Ystafelloedd sgwrsio.
  • Fforwm rhyngrwyd

2.2       Pan fyddwn yn darparu unrhyw wasanaeth rhyngweithiol, byddwn yn darparu gwybodaeth glir i chi am y math o wasanaeth a gynigir, p’un a yw’n cael ei gymedroli ai beidio a pha ffurf ar gymedroli a ddefnyddir (gan gynnwys p’un a yw’n ddynol neu wedi’i awtomeiddio).

2.3       Byddwn yn gwneud ein gorau i asesu unrhyw risgiau posib i ddefnyddwyr (ac yn benodol, i blant) o drydydd partïon wrth iddynt ddefnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol a ddarperir ar y Wefan. Ym mhob achos byddwn yn penderfynu a yw’n briodol defnyddio cymedroli ar y gwasanaeth dan sylw (gan gynnwys pa fath o gymedroli i’w ddefnyddio) yng ngoleuni’r risgiau hynny. Fodd bynnag, nid ydym o dan unrhyw rwymedigaeth i oruchwylio, monitro neu gymedroli unrhyw wasanaeth rhyngweithiol a ddarparwn ar y Wefan, ac rydym yn eithrio’n unswydd ein hatebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddefnydd unrhyw ddefnyddiwr o wasanaeth rhyngweithiol sy’n groes i’n safonau o ran cynnwys, ni waeth p’un a yw’r gwasanaeth wedi’i gymedroli ai beidio.

2.4       Os ydych o dan 18 oed, gofynnwch am ganiatâd gan eich rhiant neu warcheidwad cyn defnyddio’r Wefan. Rydym yn cynghori rhieni sy’n caniatáu i’w plant ddefnyddio gwasanaeth rhyngweithiol ei fod yn bwysig iddynt gyfathrebu â’u plant am eu diogelwch ar-lein, gan na ellir gwarantu cymedroli cant y cant. Dylid cynyddu ymwybyddiaeth pobl dan oed sy’n defnyddio gwasanaeth rhyngweithiol am y risgiau posib sy’n bodoli iddynt.

2.5       Pan fyddwn yn cymedroli gwasanaeth rhyngweithiol, fel arfer byddwn yn darparu ffordd i chi gysylltu â’r cymedrolydd os bydd pryder neu anhawster yn codi.

3. SAFONAU O RAN CYNNWYS

3.1       Mae’r safonau o ran cynnwys hyn yn berthnasol i unrhyw a phob deunydd a gyfrannwch at y Wefan (cyfraniadau) ac yn benodol i’r holl ddeunyddiau a gyfrannwch at eich tudalen Palas Hwyl, ac i unrhyw wasanaethau rhyngweithiol sy’n gysylltiedig â hi.

3.2       Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag ysbryd a gair y safonau a ganlyn. Mae’r safonau’n berthnasol i bob rhan o unrhyw gyfraniad yn ogystal â’r cyfan ohono.

3.3       Mae’n rhaid i gyfraniadau:

  • Fod yn gywir (pan fyddant yn datgan ffeithiau).
  • Bod wedi’u dal yn ddiffuant (pan fyddant yn datgan barn).
  • Cydymffurfio â’r gyfraith berthnasol yn y Deyrnas Unedig ac mewn unrhyw wlad y maent yn cael eu postio ohoni.

3.4       Mae’n rhaid i gyfraniadau beidio â:

  • Chynnwys unrhyw ddeunydd sy’n ddifrïo unrhyw un.
  • Cynnwys unrhyw ddeunydd sy’n anllad, tramgwyddus, atgas neu’n rhy danllyd.
  • Hybu deunydd sy’n rhywiol ddinoethol.
  • Hybu trais.
  • Hybu gwahaniaethu seiliedig ar hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, tueddfryd rhywiol neu oedran.
  • Torri neu wneud defnydd anawdurdodedig o unrhyw hawlfraint, hawl i gronfa ddata neu nod masnach unrhyw unigolyn arall: mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi naill ai berchen ar neu feddu ar drwydded ddilys gan ddeiliad hawliau perthnasol yr hawliau yn eich cyfraniadau.
  • Bod yn debygol o dwyllo unrhyw un.
  • Cael eu gwneud yn groes i unrhyw ddyletswydd gyfreithiol sy’n rheidrwydd i drydydd parti, megis dyletswydd gontract neu ddyletswydd cyfrinachedd.
  • Hybu unrhyw weithgaredd anghyfreithlon.
  • Bod yn fygythiol, ymosodol neu darfu ar breifatrwydd rhywun arall, neu achosi blinder, anghyfleustra neu bryder diangen.
  • Bod yn debygol o aflonyddu ar, cynhyrfu, peri embaras, brawychu neu gythruddo unrhyw un arall.
  • Cael eu defnyddio i ddynwared unrhyw un, neu gam-gynrychioli eich hunaniaeth neu gysylltiad ag unrhyw unigolyn arall.
  • Rhoi’r argraff eu bod yn dod gennym ni neu gan yr Ymgyrch Palasau Hwyl, os nad yw hyn yn wir.
  • Eirioli, hybu neu gynorthwyo unrhyw weithred anghyfreithlon megis (dyma enghraifft yn unig) torri hawlfraint neu gamddefnyddio cyfrifiadur.

3.5       O ran defnyddio cerddoriaeth fasnachol (cerddoriaeth o CD, Trac Sain neu MP3) ar y Wefan, am resymau cyfreithiol gofynnir i chi ymwrthod rhag defnyddio’r cyfryw gerddoriaeth mewn unrhyw gyfraniadau a wnewch i’r Wefan, oni bai eich bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Ymgyrch Palasau Hwyl cyn uwchlwytho’r cynnwys a darparu tystiolaeth bod gennych y drwydded ofynnol gan berchennog yr hawliau. Byddai angen dod o hyd i ganiatadau penodol a allai fod yn ddrud ac yn faich ar amser os manteisiwyd ar gerddoriaeth fasnachol ar y Wefan.

3.6       O ran defnyddio cerddoriaeth, delweddau, sain neu gyfryngau eraill, uwchlwythwch y rhain ddim ond os ydych wedi cael caniatâd ymlaen llaw a/neu’r drwydded ofynnol gan y perchennog. Mae’n rhaid cael caniatâd ysgrifenedig i ffilmio / tynnu ffotograffau / recordio gan yr holl unigolion. Mae’n rhaid i’r caniatâd gynnwys yr hysbysiad y gall y gerddoriaeth, llais, ffilm, ffotograff gael ei ddefnyddio gennych chi neu’r Ymgyrch Palasau Hwyl i hysbysebu’r digwyddiad / Ymgyrch. 

4. DIARDDEL A THERFYNU

4.1       Yn ôl ein disgresiwn, byddwn yn pennu p’un a dorrwyd y polisi defnydd derbyniol hwn trwy eich defnydd o’r Wefan. Pan dorrir y polisi hwn, mae’n bosib y byddwn yn cymryd y cyfryw gamau y tybiwn eu bod yn briodol.

4.2       Mae methu â chydymffurfio â’r polisi defnydd derbyniol hwn yn gyfystyr â thorri telerau ac amodau’r Wefan yn faterol neu, os ydych wedi cofrestru fel Crëwr Palas Hwyl, y telerau ac amodau Crëwr Palas Hwyl, a all olygu i ni gymryd yr holl gamau a ganlyn neu unrhyw un ohonynt:

  • Diddymu eich hawl i ddefnyddio’r Wefan ar unwaith, dros dro neu’n barhaol.
  • Dileu unrhyw bostiadau neu ddeunyddiau a uwchlwythwyd gennych i’r Wefan ar unwaith, dros dro neu’n barhaol.
  • Cyflwyno rhybudd i chi.
  • Trafodion cyfreithiol yn eich erbyn chi er mwyn adennill pob colled a chost (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, costau gweinyddol a chyfreithiol) o ganlyniad i’r tor-rheol.
  • Camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn chi.
  • Datgelu’r cyfryw wybodaeth i awdurdodau gorfodi’r gyfraith y tybiwn yn rhesymol ei bod yn ofynnol.

4.3       Mae The Albany Company 2001 a’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn eithrio atebolrwydd am gamau a gymerir wrth ymateb i dorri’r polisi defnydd derbyniol hwn. Nid yw’r ymatebion yn gyfyngedig i’r hyn a ddisgrifir yn y polisi hwn, a gallwn gymryd unrhyw gamau eraill y tybiwn eu bod yn briodol.

5. NEWIDIADAU I’R POLISI DEFNYDD DERBYNIOL

Gallwn adolygu’r polisi defnydd derbyniol hwn unrhyw bryd trwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i gymryd sylw o unrhyw newidiadau a wnawn, gan eu bod yn gyfreithiol rwymol arnoch. Gall rhai o’r darpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn y polisi defnydd derbyniol hwn gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir rhywle arall ar y Wefan.

Diweddariad diwethaf: 4.3.2020