Diogelu

POLISI’R PALASAU HWYL AR DDIOGELU PLANT AC OEDOLION MEWN PERYGL

DATGANIAD

Mae’r ymgyrch Palasau Hwyl yn cytuno ei fod bob amser yn annerbyniol i blentyn neu unrhyw unigolyn brofi camdriniaeth, ac yn cydnabod ei gyfrifoldeb i ddiogelu llesiant yr holl blant ac oedolion mewn perygl trwy ymrwymo i arferion sy’n eu diogelu.

Rydym yn cydnabod:

  • bod llesiant y plentyn / oedolion mewn perygl yn hollbwysig a bod gan bawb, beth bynnag eu hoedran, anabledd, rhyw, treftadaeth hil, cred grefyddol, statws economaidd, tueddfryd neu hunaniaeth rywiol, yr hawl i gael eu diogelu’n gyfartal rhag pob math o niwed neu gamdriniaeth;
  • bod gweithio mewn partneriaeth â phlant ac oedolion mewn perygl, eu rhieni, gofalwyr a’u hasiantaethau’n hanfodol wrth hybu eu llesiant;
  • y gall fod pedair prif ffurf ar gam-drin plant, y gallant oll achosi niwed tymor hir i blentyn: cam-drin corfforol, cam-drin emosiynol, esgeulustra a cham-drin rhywiol. Mae bwlio a thrais domestig yn ffurfiau ar gam-drin plant hefyd.

Diben y polisi:

  • amlinellu’r ymddygiad a ddisgwylir gan bawb sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli dros y Palasau Hwyl (h.y. pawb sy’n ymwneud â’r penwythnos Palasau Hwyl fel Crewyr).

CYFFREDINOL

  • Arweinydd Amddiffyn a Diogelu Plant dynodedig y Palasau Hwyl yw’r cyd-gyfarwyddwr, Sarah-Jane Rawlings.
  • Bydd y Palasau Hwyl yn cydymffurfio â phob newid a diweddariad yn y ddeddfwriaeth a pholisïau amddiffyn plant a phobl ifanc.
  • Bydd y Palasau Hwyl yn sicrhau bod pawb sy’n gweithio dros y Palasau Hwyl (â thâl a gwirfoddolwyr) yn ymwybodol o’r canllawiau hyn.

PROSESAU A GWEITHDREFNAU

Gweithio gyda grwpiau a fydd yn cynnwys neu a allai gynnwys pobl ifanc neu oedolion mewn perygl (gallai hyn fod yn weithdy mewn Palas Hwyl neu weithdy am y Palasau Hwyl a redir gan y tîm craidd.)

  • Os yw’r gweithdy mewn ystafell gaeedig gyda drws sydd wedi’i gau, mae’n hanfodol ar bob adeg y bydd o leiaf dau oedolyn cyfrifol i hwyluso’r gweithgaredd.
  • Y gymhareb ar gyfer oedolion cyfrifol i gyfranogwyr yn y grŵp yw 1:8 gyda phlant o dan 16 oed ac 1:10 ar gyfer grwpiau hŷn.
  • Mae’n ofynnol i wiriad Datgelu a Gwahardd manwl gael ei gyflawni ar gyfer yr holl staff a gwirfoddolwyr perthnasol cyn iddynt ddechrau ar eu hamser cyswllt gyda phlant / oedolion mewn perygl. Yn unol â chanllawiau statudol, ystyrir bod y gwiriadau’n ddilys am dair blynedd.
  • Mae rhieni / gofalwyr yn gyfrifol am ddiogelwch eu pobl ifanc a dylent fod yn bresennol gyda’u plant / grŵp dynodedig.
  • Ni ddylid byth gadael Crëwr neu hwylusydd gweithdy Palas Hwyl ar eu pennau eu hunain gyda grŵp ysgol neu gydag oedolyn agored i niwed, neu ddisgwyl iddynt fod yn gyfrifol am ei ddiogelwch.
  • Os anafir plentyn / oedolyn agored i niwed wrth iddo/iddi gymryd rhan mewn gweithdy Palas Hwyl neu mewn Palas Hwyl, mae’n rhaid cofnodi hynny yn llyfr damweiniau neu ffurflen adrodd y lleoliad gwesteia. Mae’n rhaid i’r cofnod gael ei gyd-lofnodi gan y sawl sy’n gyfrifol am yr unigolyn neu gan aelod staff cyfrifol os nad yw’n bresennol.

Cyfrinachedd a diogelu data

  • Yr egwyddor gyfreithiol yw bod ‘llesiant y plentyn yn hollbwysig’. Dylid parchu preifatrwydd a chyfrinachedd pryd bynnag y bo’n bosib ond os bydd gwneud hyn yn golygu y bydd plentyn mewn perygl o niwed mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch y plentyn. O safbwynt cyfreithiol, mae’n iawn rhannu gwybodaeth os oes gan rywun ofidion am ddiogelwch plentyn neu oedolyn mewn perygl. Nid oes angen i bawb wybod pan godir pryder neu ofid. Dylid trin a lledaenu gwybodaeth ar sail ‘angen gwybod’ yn unig. Yn y lle cyntaf, dylid cysylltu â’r Swyddog Amddiffyn a Diogelu Plant Dynodedig.
  • Bydd y Palasau Hwyl yn cefnogi cyfrinachedd a diogelu data’n unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018 (GDPR).
  • Mae’n rhaid storio unrhyw ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau a adroddwyd, pryderon ac atgyfeiriadau’n ddiogel.

Ffilmio a ffotograffau

  • Bydd unrhyw ffotograffau a dynnir neu ffilmiau a wneir o blant / oedolion mewn perygl mewn unrhyw Balas Hwyl / weithdy yn cael ei wneud dim ond gyda chydsyniad llawn rhieni/gofalwyr y plant ac mewn ymgynghoriad â’r plant dan sylw.
  • Bydd angen caniatâd rhieni/gofalwyr i ddefnyddio ffotograffau neu ffilm o’u plant mewn unrhyw ddeunyddiau cyhoeddusrwydd, gan gynnwys deunyddiau ar y we ac ar draws yr holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, hefyd.
  • Bydd yr holl ddelweddau o blant a yrrir i’r Palasau Hwyl yn cael eu cadw mewn lle diogel (cyfrif dropbox y cwmni, sy’n hygyrch dim ond i’r pencadlys Palasau Hwyl ac wedi’i ddiogelu â chyfrinair).

Adrodd / datgelu camarfer

  • Bydd pob drwgdybiaeth a honiad o gamdriniaeth ac arfer gwael yn cael ei gymryd o ddifri i’r graddau eithaf a byddwn yn ymateb ar unwaith ac yn briodol.
  • Yn achos pob digwyddiad, cysylltwch â’ch arweinydd diogelu dynodedig. Fe fydd yn ceisio arweiniad allanol fel y bo’n briodol ac yn cytuno ar y camau i’w cymryd fel a ganlyn:
  • pa gamau i’w cymryd e.e. a oes angen mwy o wybodaeth, trafodaeth gyda thrydydd parti, atgyfeirio i wasanaethau gofal cymdeithasol, atgyfeirio i’r heddlu
  • faint o frys sydd ei angen wrth gymryd camau; a’r amserlen ar gyfer cymryd camau
  • p’un a oes angen proses ar wahân i ymdrin â’r camdriniwr honedig – e.e. gweithdrefn ddisgyblu, atgyfeirio i LADO, yr heddlu
  • p’un a ddylid hysbysu’r rhieni/gofalwr a sut i wneud hynny
  • beth i’w drafod gyda’r plentyn/oedolyn a sut i’w cefnogi
  • sut i reoli cyfrinachedd
  • sicrhau y gwneir cofnod ysgrifenedig manwl o fewn 2 ddiwrnod gwaith
  • ystyried anghenion cefnogaeth yr aelod staff
  • sicrhau y caiff y cofnod ei storio’n ddiogel ac yn gyfrinachol
  • dilyn i fyny ag unrhyw asiantaethau (h.y. CAF) a’r plentyn/oedolyn a rhieni/gofalwr fel y bo’n briodol.

Terminoleg ac acronymau

At ddiben y polisi hwn a’r diffiniad o gamdriniaeth, mae’r term plentyn yn cyfeirio at unrhyw un hyd at 18 oed ac mae’r term oedolyn mewn perygl yn cyfeirio at unrhyw un 18 oed ac yn hŷn. Mae oedolyn mewn perygl yn rhywun na all ddiogelu ei hun yn erbyn niwed neu gamfanteisio sylweddol NEU sydd / a allai fod heb fedru gofalu am ei hun a bod angen Gwasanaethau Gofal Cymunedol arnynt o ganlyniad i anabledd meddyliol neu anabledd arall, oedran neu salwch. Gan hynny, fe all gynnwys pobl oedrannus neu fregus, neu’r rhai sydd ag anabledd corfforol neu ddysgu, nam synhwyraidd, iechyd meddwl gwael, dementia, camddefnyddio alcohol/sylweddau neu unrhyw salwch tymor hir arall sy’n effeithio ar eu galluedd, neu unrhyw unigolion sydd â diffyg galluedd am unrhyw reswm arall. 

Palasau Hwyl Unigol

Mae’r Palasau Hwyl yn disgwyl y bydd pob Palas Hwyl cofrestredig ar y wefan Palasau Hwyl wedi ymgyfarwyddo â’r Prosesau a Gweithdrefnau Diogelu hyn. At hynny, os bydd eich Palas Hwyl yn gweithio’n uniongyrchol â Phlant ac Oedolion mewn Perygl, byddem yn disgwyl i chi:

  • Gael aelod staff enwebedig (Arweinydd Diogelu Dynodedig) sydd â’r wybodaeth a sgiliau i hybu amgylcheddau diogel ar gyfer Plant ac Oedolion mewn Perygl, ac a all ymateb i bryderon a datgeliadau.
  • Sicrhau bod pawb yn deall eu rolau a chyfrifoldebau diogelu ac y darperir cyfleoedd dysgu priodol i adnabod, nodi ac ymateb i bryderon a datgeliadau mewn perthynas â diogelu Plant ac Oedolion mewn Perygl.
  • Trefnu gwiriad DBS/PVG â lefel fanylder briodol ar gyfer staff / gwirfoddolwyr a fydd yn dod i gysylltiad â Phlant ac Oedolion mewn Perygl.
  • Buddsoddi mewn hyfforddiant diogelu diweddar a chymesur ar gyfer pobl yn eich sefydliad / grŵp cymunedol
  • Cynnwys diogelu yn yr holl asesiadau risg. Mae angen diwydrwydd penodol wrth asesu risg aelodau anabl.

Gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant cyffredinol

  • Diogelu plant ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol: http://www.safenetwork.org.uk
  • Diogelu oedolion: www.scie.org.uk/safeguarding/adults
  • Oes gennych bryderon am blentyn? Mae Llinell Gymorth NSPCC yn darparu cymorth, cyngor a chefnogaeth 0808 800 5000 neu www.nspcc.org.uk
  • ChildLine:0800 1111 (ffôn testun 0800 400 222) neu www.childline.org.uk