Yn yr Ymgyrch Palasau Hwyl rydym yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd. Pan fyddwch yn rhyngweithio â ni dros y ffôn, trwy’r post, yn bersonol neu ar-lein, rydym weithiau’n derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch chi. Mae’r dudalen hon, ynghyd â’n telerau ac amodau gwefan, yn eich hysbysu am sut rydym yn cywain, defnyddio ac yn storio eich gwybodaeth bersonol.
Sut ydym ni’n cywain gwybodaeth amdanoch chi?
Mae’n bosib y byddwn yn cywain gwybodaeth amdanoch chi pryd bynnag y byddwch yn rhyngweithio â ni. Er enghraifft, pan fyddwch yn cofrestru fel Palas Hwyl, yn rhoddi i ni, yn gofyn i ni am ein gweithgareddau neu fel arall yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol arall i ni.
Pwy sy’n cywain yr wybodaeth?
Pan fyddwch ar y wefan Palasau Hwyl ac rydym yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol rydych yn rhannu’r wybodaeth honno gyda thîm yr Ymgyrch Palasau Hwyl yn unig, at ddibenion rhedeg y digwyddiad yn llwyddiannus. Oni chaiff ei nodi’n benodol fel arall – ni fyddwn yn trosglwyddo eich enw neu gyfeiriad e-bost i drydydd partïon, gan gynnwys sefydliadau a chwmnïau sy’n bartneriaid i ni neu’n cefnogi ni.
Pa wybodaeth ydym ni’n ei chywain a sut ydym ni’n ei defnyddio?
Mae’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn cywain gwybodaeth o rannau gwahanol o’r wefan mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae rhywfaint o wybodaeth yn cael ei chywain pan fyddwch yn cofrestru i greu Palas Hwyl ac yn creu Cyfrif. Wrth i chi gofrestru i drefnu Palas Hwyl, rydym yn gofyn am eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn cyswllt a chyfeiriad. Rydym yn gofyn hefyd a ydych wedi creu Palas Hwyl yn flaenorol. Ar y pwynt hwnnw rydym hefyd yn gofyn i chi lenwi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol – mae hyn yn gyfan gwbl yn ôl eich disgresiwn chi ac mae ein diddordeb yn yr wybodaeth hon at ddibenion monitro’n unig.
Ar y pwynt cofrestru i greu Palas Hwyl mae cyfle gennych i ddewis derbyn e-byst gan yr Ymgyrch Palasau Hwyl. Gall pobl ymweld â’r wefan heb gofrestru a dewis derbyn cylchlythyron gan Yr Ymgyrch Palasau Hwyl hefyd. Byddwn yn gyrru e-byst rheolaidd at bobl sydd wedi dewis derbyn e-byst gennym, er mwyn i’r tîm roi diweddariadau iddynt a’u helpu gyda rhedeg digwyddiadau Palasau Hwyl ledled y wlad yn llwyddiannus. Fodd bynnag, os nad ydych eisiau derbyn e-byst yn y dyfodol, gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio’r ddolen “dad-danysgrifio” sydd wedi’i chynnwys ar bob cyfathrebiad.
Mae’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn gofyn i ddefnyddwyr gwblhau arolygon at ddibenion ymchwil o bryd i’w gilydd hefyd. Os hoffech chi ddewis i beidio â derbyn yr e-byst hyn unrhyw bryd neu adrodd am gamddefnydd, cysylltwch â ni yn hello@funpalaces.co.uk.
Pryd/os byddwch yn cysylltu â’r Ymgyrch Palasau Hwyl, mae’n bosib y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.
Gallwch ddefnyddio ein gwefan yn ddienw heb roi unrhyw wybodaeth i ni ac ni fyddwn yn gwybod pwy ydych chi.
Os byddwch yn ymweld â’n gwefan yn ddienw, mae’n bosib y byddwn yn cofnodi gwybodaeth o hyd am
- y rhannau o’r wefan rydych yn ymweld â nhw
- faint o amser rydych yn ei dreulio ar y wefan
- p’un a ydych yn ymweld â’r wefan o’r newydd, neu wedi ymweld â hi’n flaenorol
- sut y daethoch chi i’n gwefan – er enghraifft, trwy ddolen e-bost neu beiriant chwilio
- y math o gyfrifiadur, porwr, lleoliad rhwydwaith a chysylltiad rhyngrwyd a ddefnyddiwch.
Ar y wefan yn gyffredinol
Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan er mwyn i ni ei gwneud yn fwy effeithiol. Mae Google Analytics yn cywain gwybodaeth ddienw am beth mae pobl yn ei wneud ar ein gwefan, o ble y maent wedi dod, a pha un a ydynt wedi cwblhau unrhyw dasgau ar y wefan, er enghraifft, cofrestru ar gyfer gwirfoddoli neu roddi. Mae Google Analytics yn tracio’r wybodaeth hon gan ddefnyddio cwcis a chôd JavaScript.
Gyda phwy ydym ni’n rhannu’r wybodaeth hon?
Fel rheol gyffredinol, ni fyddwn yn datgelu unrhyw ran o’r wybodaeth a all eich adnabod chi’n bersonol oni bai y bydd gennym ganiatâd gennych neu o dan amgylchiadau arbennig, megis pan fyddwn yn tybio’n ddidwyll ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Bydd yr Ymgyrch Palasau Hwyl yn diogelu cyfrinachedd a diogeledd yr wybodaeth honno, ac ni fydd yn caniatáu i drydydd partïon ddefnyddio’r wybodaeth honno heblaw mewn perthynas â’r darpariaethau sy’n gweddu i ddigwyddiadau Palasau Hwyl.
Gall yr Ymgyrch Palasau Hwyl gadw Cynnwys a gall datgelu Cynnwys i unrhyw drydydd parti os bydd y gyfraith yn mynnu ei bod yn gwneud hynny neu os cred yn ddidwyll bod angen cadw neu ddatgelu’r cyfryw Gynnwys i:
(a) gydymffurfio â phroses gyfreithiol
(b) gorfodi’r Telerau Gwasanaeth
(c) diogelu hawliau, eiddo neu ddiogelwch personol Palasau Hwyl, eu haelodau a’r cyhoedd
Sut rydym yn diogelu’ch gwybodaeth bersonol
Rydym yn cymryd camau ffisegol, electronig a rheoli priodol i sicrhau ein bod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel, yn gywir ac yn ddiweddar, a’n bod yn ei chadw dim ond cyhyd ag y bo’n rhesymol ac yn angenrheidiol.
Eich cydsyniad
Trwy roi eich gwybodaeth bersonol i ni rydych yn rhoi cydsyniad i ni gywain a defnyddio’r wybodaeth honno yn y ffyrdd yr ydym yn eu disgrifio yn y polisi preifatrwydd hwn.
Sut y gallwch gyrchu, diweddaru neu ddileu eich gwybodaeth
Gallwch newid eich gwybodaeth i gyd neu unrhyw ran ohono trwy gysylltu â’r Ymgyrch Palasau Hwyl ar hello@funpalaces.co.uk.
Beth yw cwcis a sut maent yn cael eu defnyddio
Mae’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth amdanoch chi. Mae cwci yn darn bach o ddata sy’n cael ei anfon i’ch porwr o weinydd gwe a’i storio ar eich cyfrifiadur. Mae’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn defnyddio cwcis i nodi p’un a yw defnyddiwr gwefan wedi mewngofnodi ai beidio, ble i ddod o hyd i fanylion all gael eu defnyddio i rag-lenwi rhannau o ffurflenni ar-lein ac i bersonoli ymweliad y defnyddiwr â’r wefan. Maent yn cael eu defnyddio hefyd i dracio’n ddienw pa rannau o’r wefan sy’n boblogaidd a pha rannau nad ydynt yn cael eu defnyddio; mae hyn yn ein galluogi ni i fonitro a gwella gwe-lywio a chynnwys y wefan.
Mae porwyr rhyngrwyd fel arfer yn derbyn cwcis yn ddiofyn; er hynny, mae’n bosib gosod porwr i wrthod cwcis. Trwy addasu dewisiadau eich porwr, gallwch ddewis derbyn pob cwci, cael eich hysbysu pan osodir cwci neu wrthod pob cwci. Os byddwch yn dewis gwrthod cwcis, ni fydd modd i chi ddefnyddio’r rhannau o’r gwasanaeth Palasau Hwyl y mae angen cofrestru ar eu cyfer er mwyn cymryd rhan. Cliciwch yma i ddarllen mwy am ein polisi cwcis.
Pa weithdrefnau sy’n bodoli i amddiffyn rhag colli, camddefnyddio neu newid gwybodaeth?
Cofiwch allgofnodi o’ch cyfrifiadur neu gau ffenest eich porwr pan fyddwch wedi gorffen eich gwaith er mwyn sicrhau na all unrhyw un arall gael mynediad i’ch gwybodaeth a gohebiaeth bersonol.
Gwaetha’r modd, ni ellir warantu y bydd unrhyw drosglwyddiad data dros y rhyngrwyd 100% yn ddiogel. O ganlyniad i hyn, er ein bod yn gwneud ymdrech i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol, ni all yr Ymgyrch Palasau Hwyl sicrhau neu warantu diogeledd unrhyw wybodaeth a drosglwyddwch i ni neu o’n nwyddau neu wasanaethau ar-lein, ac rydych yn gwneud hyn ar eich menter eich hun.
Beth arall dylwn i wybod am fy mhreifatrwydd?
Pryd bynnag y byddwch yn datgelu gwybodaeth bersonol ar-lein o’ch gwirfodd, gan gynnwys yn eich gohebiaeth o fewn grŵp trafod, gall pobl eraill gywain a defnyddio’r wybodaeth honno. Yn gryno, os byddwch yn datgelu gwybodaeth bersonol ar-lein sy’n hygyrch i unrhyw un arall, mae’n bosib y byddwch yn derbyn negeseuon dieisiau gan bartïon eraill yn gyfnewid.
Os byddwch yn hygyrchu gwefannau eraill gan ddefnyddio’r dolenni a ddarperir, dylech fod yn ymwybodol bod y rhain y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Os byddwch yn darparu data personol i gwmnïau eraill, mae polisïau preifatrwydd y cwmnïau hynny’n pennu at ba ddiben y defnyddir yr wybodaeth honno ac ni fydd yr Ymgyrch Palasau Hwyl yn berthnasol mwyach.
Mae’n bosib y bydd y polisi hwn yn newid o bryd i’w gilydd, felly gwiriwch y dudalen hon o dro i dro. Yn y pen draw, chi yn unig sy’n gyfrifol am gynnal cyfrinachedd unrhyw wybodaeth amdanoch eich hun. Byddwch yn ofalus ac yn gyfrifol pryd bynnag y byddwch ar-lein.
Deddf Diogelu Data
Mae’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn ymroddedig i ddiogelwch a phreifatrwydd eich data personol, a bydd yn cydymffurfio â’r holl ofynion o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018 (GDPR).
Diweddariad diwethaf: 4/3/2020