Telerau ac Amodau Gwefan

YR YMGYRCH PALASAU HWYL

TELERAU DEFNYDDIO’R WEFAN

1. TELERAU

1.1      Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r telerau ac amodau (yr Amodau hyn) sy’n llywodraethu’r defnydd o’r Wefan hon.

1.2      Trwy ymweld â’r wefan hon rydych chi (unigolyn / grŵp / sefydliad etc) yn cytuno i gael eich rhwymo gan yr Amodau hyn ac yn ymgymryd â chontract cyfreithiol rwymol gyda The Albany 2001 Company, elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant y mae ei swyddfa gofrestredig yn The Albany Centre, Douglas Way, Deptford, Llundain SE8 4AG (rhif cwmni 04333098) (Ni/ein/rydym/byddwn).

1.3      Rydym yn gwmni sy’n gweithio gyda’r Ymgyrch Palasau Hwyl ac yn ei chefnogi, sef cymdeithas anghorfforedig sy’n berchen ar yr hawliau i ac o fewn y cysyniad Palasau Hwyl (Yr Ymgyrch Palasau Hwyl).

1.4      Mae’n bosib y byddwn yn adolygu’r Amodau hyn ac unrhyw bolisïau y cyfeirir atynt yn yr Amodau hyn trwy ddiwygio’r Amodau hyn ar y Wefan ac/neu anfon y diwygiadau atoch Chi trwy e-bost. Bydd unrhyw ddiwygiadau’n rhwymol arnoch chi.

 2. DEFNYDDIO’R WEFAN

2.1      Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru’r Wefan o bryd i’w gilydd, a gallwn newid y cynnwys unrhyw bryd.

2.2      Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan, neu unrhyw gynnwys arni, yn rhydd rhag gwallau neu hepgorion.

2.3      Mae’r Wefan yn cael ei darparu am ddim.

2.4      Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan, neu unrhyw gynnwys arni, bob amser ar gael neu’n ddi-dor. Caniateir mynediad i’r Wefan ar sail dros dro. Gallwn atal, diddymu, terfynu neu newid y Wefan neu’r gwasanaethau a ddarparwn i gyd neu unrhyw ran ohonynt heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol i Chi os nad yw’r Wefan ar gael unrhyw bryd neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm.

2.5      Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn i Chi gael mynediad i’r Wefan ac am sicrhau bod yr holl bobl sy’n cyrchu’r Wefan trwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o’r Amodau hyn, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

2.6      Mae’r holl ddefnydd o’r Wefan gennych Chi’n ddarostyngedig i’n Polisi Defnydd Derbyniol.

2.7      Gallwch ddefnyddio’r Wefan at eich defnydd personol ac anfasnachol chi. Ni allwch addasu, copïo, dosbarthu, trawsyrru, arddangos, perfformio, atgynhyrchu, cyhoeddi, trwyddedu, creu gwaith deilliadol o, trosglwyddo neu werthu unrhyw gynnwys a geir o’r Wefan, ac eithrio copïo, dosbarthu neu atgynhyrchu sy’n (i) angenrheidiol at ddefnydd personol neu anfasnachol yn unig neu (ii) pan nodir bod y cyfryw gynnwys ar gael i’w ddefnyddio’n unol â thermau trwydded Creative Commons, a’i weithredu’n unol â thermau’r drwydded Creative Commons berthnasol yn unig.

2.8      Darperir y cynnwys ar y Wefan fel gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod gyfystyr â chyngor y dylech ddibynnu arno. Dylech geisio cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu ymwrthod rhag cymryd, unrhyw gam ar sail y cynnwys sydd ar y Wefan.

2.9      Er Ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar y wefan, nid Ydym yn gwneud unrhyw gynrychioliadau neu warantau, ni waeth p’un ai’n echblyg neu’n oblygedig, bod y cynnwys ar y Wefan yn gywir, yn gyflawn neu’n ddiweddar.

3. EICH CYFRIF A CHYFRINAIR

3.1      Os byddwch Chi’n cofrestru ar y Wefan hon ac rydych Chi’n dewis, neu os darperir côd adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth ar eich cyfer fel rhan o’n gweithdrefnau diogeledd, mae’n rhaid i Chi drin y cyfryw wybodaeth yn gyfrinachol. Mae’n rhaid i chi beidio â’i datgelu i unrhyw drydydd parti.

3.2      Mae hawl gennym i ddadalluogi unrhyw gôd adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, ni waeth p’un a gaiff ei ddewis gennych chi neu ei ddyrannu gennym ni, unrhyw bryd, os yn ein barn resymol ni Rydych wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau’r Amodau hyn.

3.3      Os Ydych yn gwybod neu’n amau bod unrhyw un heblaw Chi’n gwybod eich côd adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, mae’n rhaid i Chi ein hysbysu’n ddi-oed yn hello@funpalaces.co.uk

4. DIOGELU DATA

4.1      Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni a’r Ymgyrch Palasau Hwyl. Yr Ymgyrch Palasau Hwyl yw rheolydd data eich gwybodaeth bersonol ac ni fydd yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon.

4.2      Bydd yr Ymgyrch Palasau Hwyl yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol yn unol â’i Pholisi Preifatrwydd.

4.3      Os byddwch yn dewis i’w derbyn fel rhan o’r broses cofrestru a chreu cyfrif, gall yr Ymgyrch Palasau Hwyl e-bostio chi gyda newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau (gan gynnwys codi arian) sy’n gysylltiedig â’r Ymgyrch Palasau Hwyl.

5. DOLENNI

 5.1      O bryd i’w gilydd Rydym yn cyhoeddi dolenni i wefannau trydydd parti Rydym yn teimlo y gallent fod o ddiddordeb i Chi. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y gwefannau hyn yn adlewyrchu ethos yr Ymgyrch Palasau Hwyl, ond nid oes gennym Ni unrhyw reolaeth dros y gwefannau hyn ac Rydych yn bwrw ‘mlaen ar eich menter eich hun. Nid ydym ni na’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn dilysu’r gwefannau hyn ac nid yw’r naill na’r llall ohonom yn atebol am unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu gynnwys y byddwch efallai yn eu cyrchu neu eu prynu trwy unrhyw un o’r gwefannau hyn.

6. UWCHLWYTHO CYNNWYS I’R WEFAN

6.1      Pryd bynnag y Byddwch yn defnyddio nodwedd sy’n Eich galluogi i uwchlwytho cynnwys i’r Wefan, neu gysylltu ag aelodau eraill o’r Wefan, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r safonau o ran cynnwys a ddisgrifir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.

6.2      Rydych yn gwarantu y bydd unrhyw gynnwys Rydych yn ei uwchlwytho’n cydymffurfio â’r safonau hynny, ac y Byddwch chi’n atebol i ni ac yn indemnio ni am dorri’r warant hon mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn golygu y byddwch Chi’n gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydym Ni neu’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn ei ddioddef o ganlyniad i chi dorri’r warant.

6.3      Ystyrir bod unrhyw gynnwys Rydych yn ei uwchlwytho i’r Wefan yn anghyfrinachol ac yn amherchnogol.

6.4      Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am y cynnwys neu gywirdeb y cynnwys a bostir gennych Chi neu unrhyw ddefnyddiwr arall y Wefan.

6.5      Mae gennym Ni’r hawl i ddileu unrhyw bostiad Rydych yn ei wneud ar ein gwefan os, yn ein barn ni, nad yw eich postiad yn cydymffurfio â’r safonau o ran cynnwys a ddisgrifir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.

6.6      Os ydych o dan 18 oed gofynnwch am ganiatâd gan eich rhiant/gwarcheidwad cyn postio unrhyw gynnwys ar y Wefan.

6.7      Nid yw’r farn a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar y Wefan yn adlewyrchu ein barn neu ein gwerthoedd ni.

7. FIRYSAU

7.1      Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan yn ddiogel neu’n rhydd rhag chwilod neu firysau.

7.2      Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni a llwyfan cyfrifiadurol er mwyn cyrchu’r Wefan. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firysau eich hun.

8. INDEMNIAD

8.1      Rydych yn cytuno i indemnio a pharhau i indemnio ni a’r Ymgyrch Palasau Hwyl (a holl gyfarwyddwyr, swyddogion ac aelodau The Albany 2001 Company a’r Ymgyrch Palasau Hwyl) rhag ac yn erbyn pob hawliad, iawndal, treuliau, costau a rhwymedigaethau (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol) sy’n codi (i) o ganlyniad i’ch defnydd chi o’r Wefan hon; ac/neu (ii) unrhyw achos ohonoch Chi’n torri unrhyw rwymedigaeth, ymgymeriad, gwarant neu deler yr Amodau hyn.

9. ATEBOLRWYDD

 9.1    Nid oes unrhyw beth yn yr Amodau hyn sy’n eithrio neu’n cyfyngu ar ein hatebolrwydd ni neu atebolrwydd yr Ymgyrch Palasau Hwyl am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustra, neu ein twyll neu gamgynrychiolaeth dwyllodrus, neu unrhyw atebolrwydd arall na all gael ei heithrio neu ei chyfyngu gan gyfraith Lloegr.

9.2    I’r graddau a ganiateir gan gyfraith Lloegr, Rydym yn eithrio pob amod, gwarant, cynrychiolaeth neu delerau eraill a all fod yn berthnasol i’r Wefan neu unrhyw gynnwys neu ddeunyddiau arni neu mewn perthynas â’r Digwyddiad, ni waeth p’un ai’n echblyg neu’n oblygedig.

9.3    Gan fod y Wefan wedi’i darparu i Chi am ddim, nid ydym ni na’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn derbyn unrhyw atebolrwydd i Chi am y cynnwys ar y Wefan hyd eithaf y graddau a ganiateir gan gyfraith Lloegr.

9.4    Yn benodol, nid ydym Ni na’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol, gan gynnwys (er enghraifft) colli elw, refeniw, data, cynilion disgwyliedig, cyfle busnes, amharu ar fusnes neu ewyllys dda.

9.5    Os ydych yn ddefnyddiwr, nid yw’r Amodau hyn yn effeithio ar unrhyw hawliau statudol y gallai fod gennych Chi fel defnyddiwr.

9.6    Ni fyddwn ni na’r Ymgyrch Palasau Hwyl yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan firws, ymosodiad atal gwasanaeth dosbarthedig, neu unrhyw ddeunydd technolegol niweidiol arall a allai heintio eich cyfarpar cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu unrhyw ddeunydd perchnogol arall o ganlyniad i’ch defnydd o’r Wefan neu oherwydd i chi lawrlwytho unrhyw gynnwys arni, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hi.

10. HAWLFRAINT

10.1    Y Palasau Hwyl yw perchennog yr hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill yn y cynnwys ar y Wefan, gan gynnwys (er enghraifft) y pecyn cymorth o ddeunyddiau sydd ar gael ar y Wefan.

10.2    Trwy hyn rydych Chi’n rhoi trwydded anghynhwysol, fyd-eang a rhydd rhag breindaliadau (ynghyd â’r hawl i is-drwyddedu) i’r Ymgyrch Palasau Hwyl a The Albany 2001 Company i ddefnyddio, storio, copïo neu fel arall dosbarthu unrhyw gynnwys Rydych yn ei uwchlwytho i’r Wefan am gyfnod cyfan yr hawlfraint (gan gynnwys unrhyw adnewyddiadau, gwrthdroadau ac estyniadau) a chyhyd ag all gael ei ganiatáu, am byth mewn unrhyw gyfryngau (sy’n bodoli nawr neu a gaiff eu dyfeisio yn y dyfodol), gan gynnwys (er enghraifft) at bob diben cyhoeddusrwydd.

10.3    Rydych chi’n cytuno i beidio â defnyddio neu atgynhyrchu unrhyw gynnwys sydd ar y Wefan, ar wahân i’r deunyddiau Adnoddau a Phecyn Cymorth a ddarparwn i Grewyr, neu eich deunyddiau chi eich hun. Os dymunwch atgynhyrchu cynnwys dylech gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Yr Ymgyrch Palasau Hwyl.  

11. NODAU MASNACH

11.1    Mae “PALASAU HWYL” a’r logo Palasau Hwyl yn nodau masnach yr Ymgyrch Palasau Hwyl (y Nodau Masnach).

11.2    Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau yn y Nodau Masnach yn eiddo i’r Ymgyrch Palasau Hwyl.

11.3    Ni fyddwch yn gwneud unrhyw beth a allai niweidio ein henw da, enw da’r Ymgyrch Palasau Hwyl neu’r enw da sy’n gysylltiedig â’r Nodau Masnach.

12. CYFFREDINOL

12.1    Os bydd unrhyw awdurdod cymwys yn tybio unrhyw bryd bod darparu’r Amodau hyn yn annilys neu’n anghyfreithlon neu nad oes modd eu gorfodi, ni fydd hyn yn effeithio ar ddarpariaethau eraill yr Amodau hyn, a fydd yn aros mewn llawn grym ac effaith.

12.2    Ni phennir bod ildio hawl i unrhyw deler, amod neu dorri unrhyw un o’r Amodau hyn yn gyfystyr ag ildio hawl i unrhyw delerau neu amodau eraill neu dorri’r Amodau hyn yn ddiweddarach.

12.3    Ni allwch aseinio, is-gontractio neu fel arall gwaredu’r Amodau hyn heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ymlaen llaw.

12.4    Mae’r Amodau hyn yn ffurfio cytundeb cyfan y partïon ac yn disodli ac yn cymryd lle ac yn disodli pob cytundeb blaenorol, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig o ran ei ddeunydd pwnc.

12.5    Ni ellir amrywio’r Amodau hyn ac eithrio trwy gytundeb ysgrifenedig a lofnodir gan y ddau barti.

12.6    Ni fwriedir i’r Amodau hyn greu partneriaeth, menter ar y cyd neu gytundeb tenantiaeth rhwng y partïon neu ryngoch Chi a’r Ymgyrch Palasau Hwyl.

12.7    Mae’r partïon yn cytuno bod darpariaethau’r Amodau hyn yn bersonol iddynt hwy ac ni fwriedir iddynt roi unrhyw fuddiant i unrhyw drydydd parti ac na fydd Deddf Contractau 1999 (Hawliau Trydydd Partïon) yn berthnasol i’r Amodau hyn neu unrhyw un o’u telerau, ac eithrio ag y gall yr Ymgyrch Palasau Hwyl (neu unrhyw un o’i haelodau) orfodi unrhyw un o ddarpariaethau’r Amodau hyn.

12.8    Caiff yr Amodau hyn eu llywodraethu gan a’u dehongli’n unol â chyfraith Lloegr a thrwy hyn mae’r partïon yn ymostwng i awdurdodaeth anghynhwysol Llysoedd Lloegr mewn perthynas ag unrhyw anghydfod sy’n deillio o’r Amodau hyn neu mewn perthynas â hwy.

13. CYSYLLTU

 13.1    Cysylltwch â hello@funpalaces.co.uk os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Wefan neu’r Amodau hyn.

 Diweddariad diwethaf   04.03.2020