#ChwyldroadauBychain 4 – Creaduriaid Cegin

Dyma Chwyldroad Bychan gan Rhian Williams o Penybontfawr, Cymru.

Mae’r creaduriaid chwareus yma yn hyblyg iawn, does dim bwys ganddyn nhw gael eu creu gyda unrhyw ddeunyddiau sgrap sydd o gwmpas y tŷ.  Byddai unrhyw flwch yn gwneud y tro os nad oes gennych chi tin mawr a chaeadau jariau jam.
A byddai darnau o gardfwrdd o flychau grawnfwyd yn berffaith ar gyfer y llygaid, pîg a’r traed os nad oes gennych chi’r deunyddiau sydd ar y rhestr. 
Efallai byddai’r creaduriaid yn iawn i wario rhywfaint o amser tu allan, gan ddibynu ar y tywydd.  Nodwch os gwelwch yn dda – os rydech chi’n creu eich creaduriaid hefo tiniau gwâg, fyddan nhw ddim yn addas i’w defnyddio fel tegannau.

I greu Gwdihŵ fel un Rhian byddwch angen:  

  • Un tin mawr.
  • Dau gaead jariau jam.
  • Darn o tin e.e. caead tin hefo ‘ring-pull’, wedi ei blygu i greu siâp pîg.
  • Dau gaead poteli llaeth plastig.
    Dwy fforc (ar gyfer traed y gwdihŵ)
  • Glud cryf neu gwn glud.
  • Dril os oes gennych chi un.

Tynnwch label y tin a’i olchi gyda brws golchi llestri, gan edrych allan am ddarnau miniog fyddai’n gallu achosi anaf.
Gludiwch y ddwy lygad i’w lleoliadau, a’r cylchau llai tu mewn.
Plygwch y darn tin yn driongl, gan gymryd gofal i beidio ag anafu eich hunan.
Gallwch wneud hyn ar fwrdd torri (chopping board), gyda cefn llwy bren er mwyn gwasgu ochrau’r siâp yn fflat.  Rhowch ychydig o gromlin ar y triongl o wneud siâp pîg i’r gwdihŵ a gludiwch ochr syth y pig ar ei wyneb. Gyda’r gwdihŵ ben i lawr, gosodwch y ffyrc (traed) yn eu lle a gludiwch nhw yn eu lle.
Os oes gennych chi ddril, gwnewch dwll ar ddwy ochr y tin yn agos i’r top, a clymwch gortyn drwyddynt.  Nawr gallwch hongian eich gwdihŵ!

I greu pryfyn fel un Rhian, byddwch angen:

  • Tin gwâg, glân.
  • Paent sy’n addas ar gyfer arwyneb metel (neu gallwch addurno’r tin hefo papur lapio).
  • Cylchoedd wedi eu torri allan o blastig tenau neu cardfwrdd i greu llygaid.
  • Glanhawyr pibellau i greu adenydd.
  • Glud cryf neu wn glud.
  • Brigyn neu ffon bambŵ.

Tynnwch y label o’r tin a’i olchi hefo brws golchi llestri gan gymryd gofal rhag ofn bod darnau miniog o fetel.  Paentiwch y tin (neu gorchuddiwch yr ochrau hefo papur lapio, neu papur plaen ac yna ei addurno eich hun).
Crëwch ddolenni gyda’r glanhawyr pibellau i greu pâr o adennydd, a gludiwch nhw yn eu lle.
Os oes gennych chi ddril, gwnewch dwll yn y tin yn y lleoliad lle hoffech chi wthio’r brigyn nwu ffon bambŵ. Gludiwch y brigyn yn ei le fel nad yw’r pryfyn  yn troelli neu hedfan i ffwrdd!