Creu Palas Hwyl ar gyfer pobl sydd â dementia a’u gofalwyr – a phawb arall!

“Does dim drws ar ein huned ac efallai na fydd y bobl a ddaw i mewn yn aml yn anelu’n bwrpasol at gymryd rhan mewn prosiect fel ein un ni … Rydym yn cydweithio â’r rhai sydd â dementia a’u gofalwyr yn ogystal ag â phobl o bob cefndir ac oedran. Mae gennym i gyd stori i’w hadrodd.”

Mae Thelma yn defnyddio hel atgofion a hanes cymunedol i ddod â phobl ynghyd i rannu atgofion, dysgu sgiliau newydd a chael hwyl. O’n lleoliad yng Nghanolfan Siopa Ocean Terminal, Caeredin rydym yn cynhyrchu arddangosfeydd, llyfrau, podlediadau, celf, drama a’n gorsaf radio newydd sy’n darlledu atgofion ar draws y byd. Galwch heibio i’n gweld ni – mae croeso i bawb!

Cymorth! Ble mae’r flwyddyn wedi mynd? Mae’n fis Awst yn barod ac mae ein trydedd flwyddyn o Balasau Hwyl dim ond wythnosau i ffwrdd.

 “Clywsom storïau gwych gan bobl nad ydynt fel arfer yn cyfnewid eu hatgofion a’u meddyliau.”

Ni yw ‘Thelma’ (Y Gymdeithas Atgofion Byw – The Living Memory Association) ac rydym yn defnyddio hel atgofion a hanes cymunedol i ddod â phobl ynghyd, rhannu atgofion, dysgu sgiliau newydd a chael hwyl. Rydym wedi’n lleoli yng Nghanolfan Siopa Ocean Terminal yn Leith, Caeredin yn ein ‘Siop Atgofion Bach’ a’r llynedd, 2017, oedd ein Palas Hwyl o ddawns.

 Neuadd ddawnsio ‘wib’ mewn canolfan siopa. Roedd pobl yno a fu’n dangos i ni sut i wneud Roc a Rôl a Jeif, roedd gennym atgofion o fynd i ddawnsiau o’r 1930au i’r 1960au. Y llynedd, ein thema oedd comedi yr holl ffordd. Jôcs mewn Sgoteg a gweithdai ‘digrif sefyll’. Do, aeth dau ohonynt ymlaen i gael tro mewn clwb comedi lleol, ond hyd yn oed yn well na hynny, clywsom storïau gwych gan bobl nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan ac yn cyfnewid eu hatgofion a’u meddyliau.

 “Cyfle i drosglwyddo rhywfaint o’r wybodaeth rydym wedi’i hennill a rhoi ‘amser ar yr awyr’ i bobl eraill.”

Oherwydd ein lleoliad, mae gennym bobl sy’n galw heibio wrth wneud eu siopa. Does dim drws ar ein huned ac efallai na fydd y bobl a ddaw i mewn yn aml yn anelu’n bwrpasol at gymryd rhan mewn prosiect fel ein un ni. Maent yn eistedd i lawr, yn cael sgwrs ac yn ymwneud ag amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae’n anfygythiol, yn groesawgar ac yn agored i bawb – saith niwrnod yr wythnos. Rydym yn gweithio gyda’r rhai sydd â dementia a’u gofalwyr yn ogystal ag â phobl o bob cefndir ac oedran. Mae gennym i gyd stori i’w hadrodd. Mae gennym dîm anhygoel o wirfoddolwyr y mae eu hegni, gwybodaeth a brwdfrydedd yn cadw Thelma yn fywiog ac yn llawn dychymyg.

Eleni? Wel, yn ystod y penwythnos Palasau Hwyl byddwn yn estyn oriau agor ein hamgueddfa ‘ymarferol’ – ‘Y Siop Atgofion Bach’. Does dim lle gwell i fynd i ymwneud â rhywfaint o dreftadaeth annisgwyl. Fodd bynnag, mae edefyn newydd a chyffrous i’n Palas Hwyl yn 2019 – radio. Rydym wedi bod yn brysur yn datblygu ac yn peilota Thelma FM ‘Recordiau ac Atgofion’ – ‘Records and Reminiscence’, gorsaf radio dros y we. Mae wedi bod yn gromlin ddysgu llawn mwynhad ond yn un serth. Mae’r Palasau Hwyl eleni i’w gweld yn gyfle da i drosglwyddo rhywfaint o’r wybodaeth rydym wedi’i hennill a rhoi ‘amser ar yr awyr’ i bobl eraill.  Rydym yn hoff iawn o’r cyfrwng hwn ar gyfer ein gwaith. Pa beth gwell sydd na dod i mewn am weithdy Palas Hwyl Thelma FM ar y dydd Sadwrn ac yna bod yn darlledu’n ‘fyw’ erbyn y dydd Sul?

Thelma – The Little Shop of Memory