Llysgenhadon Palasau Hwyl

Mae ein Llysgenhadon yn bobl leol sy’n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner ar draws y Deyrnas Unedig. Fel y tîm Palasau Hwyl craidd, maent i gyd yn rhan-amser, mae hyn yn golygu bod eu diddordebau ac angerdd yn bwydo i mewn i’w gwaith gyda Phalasau Hwyl ac yn cael eu gefnogi ganddynt hefyd.

Mae’r cysylltiadau rhwng llysgenhadon unigol, eu cymunedau lleol a’r sefydliadau partner (pob un gyda ffocws gwahanol) yn estyn y gwaith y gall y Llysgenhadon ei wneud yn lleol ac yn rhanbarthol.

Yn ein diwrnodau Ymchwil Weithredu chwarterol rydym yn dysgu gan ein gilydd a chan Grewyr Palasau Hwyl lleol, gan ehangu ein heffaith a dyfnhau ein dealltwriaeth o’r gwaith rydym yn ei wneud gyda’n gilydd. Dyma’r hyn sydd wrth wraidd y Palasau Hwyl – newid cymdeithasol radicalaidd trwy chwyldroadau cysylltiad bychain – paned o de, sgwrs, cyfeillgarwch newydd sy’n deillio o rannu sgiliau neu gyd-greu digwyddiad lleol.

Mae Cam 2 yn rhedeg o fis Medi 2019 tan ddiwedd 2024. Gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol rydym bellach yn estyn y rhaglen hon i Ogledd Iwerddon gyda’r partneriaid Big Telly Theatre, i Inverness/yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd gydag Eden Court Inverness ac i Gymru gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac o hydref 2021 i Rotherham gyda Chyngor Rotherham, i Gateshead gyda Sage Gateshead ac i Ddyfnaint gyda Libraries UnLimited.

Bu i Gam 1 gwmpasu pum ardal ar draws y Deyrnas Unedig rhwng mis Hydref 2016 a mis Rhagfyr 2019, Bryste, Cernyw, Yr Alban, Sheffield a Stoke. Gyda chefnogaeth gan Sefydliad Paul Hamlyn a Wellcome, cyfunodd y Palasau Hwyl a’n sefydliadau partner actifiaeth ddiwylliannol leol â gweithgareddau Ymchwil Weithredu chwarterol ar gyfer Llysgenhadon, Crewyr Palasau Hwyl a staff sefydliadau partner. Yr hyn a ddarganfûm oedd bod y cyfeillgarwch a ddeilliodd o’r cyfarfodydd Ymchwil Weithredu’n rhan graidd o’r gwaith ei hun.

Dyma rai storïau lleol a rhanbarthol gan Grewyr Palasau Hwyl a fu’n gweithio gyda’n Llysgenhadon yn 2018.

Cysylltu â’r Llysgenhadon

Bethan Page
Sadie Green














Rebecca Pereira

Cymru

Bethan Page yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Mae gan Bethan lawer o flynyddoedd o brofiad o weithio yn y celfyddydau gweledol yng Nghymru – mae hi’n angerddol ynglŷn â chydweithio hefo eraill i greu cyfleoedd i gyfranogi mewn ffyrdd ystyrlon a gwerthfawr. Mae gwaith llawrydd diweddar yn cynnwys cydweithio hefo plant a phobl ifanc, artistiaid ac athrawon ar gynllun Dysgu Drwy Greadigrwydd Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n darparu cyfleoedd i’r partneriaid yma i gyd ddysgu a thyfu mewn hyder drwy greadigrwydd.

Dyfnaint

Sadie Green yn Libraries Unlimited

Mae Sadie wedi byw yn Bideford, Gogledd Dyfnaint ers 2005. Mae hi’n angerddol dros ymgysylltu cymunedol, ymdeimlad o le a’r hyn sy’n gwneud eich cymuned yn arbennig ac yn unigryw. Mae Sadie yn Gynhyrchydd Creadigol gydag 20 mlynedd o brofiad yn dylunio a rheoli prosiectau niferus ac amrywiol yn Lloegr ac yng Ngogledd Carolina, UDA. Mae hi wedi gweithio gydag Amgueddfeydd; sefydliadau a lleoliadau diwylliannol; busnesau; y sector gwirfoddol; grwpiau a sefydliadau cymunedol; ysgolion; awdurdodau lleol a phobl leol. 

Mae Sadie yn rhwydweithiwr, sydd bob amser yn awyddus i gydgysylltu fel y gall gweithgareddau ddigwydd, ac y gall pobl a sefydliadau weithio mewn partneriaeth â’i gilydd. Mae hi wrth ei bodd yn siarad, yn ddelfrydol dros baned o de a darn o gacen!  Yn gynyddol, mae Sadie yn gweithio mewn ffordd sy’n gofyn i chi beth yw eich anghenion, beth rydych chi eisiau ei wneud ac yn rhoi cyfle i chi siapio a chymryd perchnogaeth ar eich prosiect, digwyddiad neu weithgaredd. Cyd-gynhyrchu yw hwn. Fel Llysgennad Palasau Hwyl, mae Sadie yn gyffrous am y cyfleoedd i weithio gyda’r Llyfrgelloedd a phobl yn Nyfnaint a Torbay, fel y gallant arwain ar yr hyn y maent am ei wneud a’i rannu ag eraill.  Gobeithio mewn ffordd hwyliog a phleserus!

Gateshead

Rebecca Pereira yn Sage Gateshead

Cafodd Becky ei geni yn ne Llundain a’i magu yn Maidstone ond syrthiodd mewn cariad â Gogledd-ddwyrain Lloegr wrth astudio Ffilm ym Mhrifysgol Northumbria. Mae hi bellach yn byw ar arfordir Gogledd-ddwyrain Lloegr gyda’i phartner a phump o blant. Mae’n mwynhau Noirs Nordig, clai polymer a theithiau cerdded sy’n gorffen gyda chacen. Wrth dyfu i fyny, roedd ei phrofiadau cynnar wedi’u dylanwadu gan ei diagnosis o ddyspracsia a phŵer tun bisgedi ei nain, yn llawn pensiliau a phad o bapur gwag, a oedd bob amser ar gael. Mae adnabod creadigrwydd fel ffordd o weithio trwodd a ffynnu ar bob emosiwn yn offeryn ac yn neges y mae hi wrth ei bodd yn ei rhannu. Mae Becky wedi gweithio yn y sector diwylliannol ers 2014 gan gynnwys digwyddiadau Indie, sinemâu gwib, ymgynghoriadau, arddangosfeydd, gweithdai ysgol, prosiectau cymunedol a threftadaeth.

Thema barhaus a chanolog ym mhrosiectau Becky yw mynediad ar ei holl ffurfiau. Mae bod yn nyrd ymchwil ac yn ymgyrchydd dros wrando yn cefnogi ei gwaith yn y maes hwn. Ar hyn o bryd mae Becky yn cydlynu rhaglen gerddoriaeth ar gyfer ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr sy’n byw yn Gateshead a Newcastle. Mae gweld cyffredinedd creadigol yn meithrin cyfeillgarwch, integreiddio a hyder yn bleser i’w weld a bod yn rhan ohono. Taclo gorbryder trothwy a mynd i’r afael ag ef, rhwystrau i ddiwylliant sy’n benodol i ardaloedd a chynyddu cyfranogiad niwroamrywiol ymhlith pobl ifanc yw rhai o’r prif bwyntiau ar ei rhestr (mae hi’n dwlu ar restr!) Mae hi’n edrych ymlaen at barhau i adeiladu cymuned Palas Hwyl wedi’i llenwi â phobl yn cofleidio’r gwerth sydd gan eu cyfranogiad a’u harweinyddiaeth.

Lewis Hou
Freya Taylor
Rhiannon Lister-Coburn

Yr Alban

Lewis Hou yng Nghyngor Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Yr Alban

Mae Lewis yn un o Lysgenhadon Yr Alban a westeir ar hyn o bryd gan Gyngor Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Yr Alban. Mae’n dod o gefndir niwrowyddoniaeth, celfyddydau traddodiadol ac ennyn diddordeb y cyhoedd, ac yn rhedeg y fenter gymdeithasol Science Ceilidh sy’n cefnogi creadigrwydd, chwilfrydedd, tegwch ac iechyd da Yr Alban. Mae’r Palasau Hwyl, a democratiaeth ddiwylliannol, yn rhan allweddol o’r gwaith hwnnw, gan helpu adeiladu chwyldroadau bychain dros, gyda a chan gymunedau amrywiol.

Gweler tudalen Palasau Hwyl Yr Alban yma, @funpalacesscot ar Twitter ac ar Facebook

Freya Taylor yn Eden Court, Inverness

Ffidler a phianydd o Ynys Ddu, yn Ucheldiroedd yr Alban yw Freya. Mae hi wrth ei bodd â cherddoriaeth, dawns, celf a phob rhan o ddiwylliant. Y tu allan i’w gwaith Palasau Hwyl, mae’n gweithio gyda phobl sydd ag anghenion cymorth ychwanegol ac yn credu’n bendant yn yr “athrylith sydd ym mhawb”. Mae hi’n angerddol iawn dros wneud creadigrwydd, celf a diwylliant yn hygyrch i unrhyw un a phawb. Mae’n aelod o Grŵp Cynghori Cenedlaethol y Celfyddydau Ieuenctid, lle mae’n eirioli dros lais a phersbectif ieuenctid yn y celfyddydau a diwylliant. Mae Freya yn gyffrous iawn i ddod â hyn oll i’r ymgyrch Palasau Hwyl. 

Rotherham

Rhiannon Lister-Coburn yng Nghyngor Rotherham

Mae Rhiannon yn raddedig dawns a theatr ac wedi gweithio ym maes Datblygu celfyddydau cymunedol ers 2002, yn ogystal ag yn y byd addysg. Mae wedi gweithio gydag Ysbytai, Canolfannau Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Cymdeithasol, Scope, Sense, Canolfannau Ieuenctid, Cartrefi Pobl Hŷn, Canolfannau Plant a grwpiau gwirfoddol. Yn y gorffennol, mae wedi arbenigo mewn prosiectau celfyddydol ac iechyd, ac yn credu’n angerddol y gall cymryd rhan mewn creadigrwydd gael effaith fuddiol enfawr ar iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol. Tra’n gweithio gyda chymunedau yn Rotherham yn flaenorol, datblygodd Rhiannon nifer fawr o offer gwerthuso a bu’n awdur pecyn cymorth gwerthuso, sydd ar gael ar lawer o wefannau. Yn ei rôl fel Llysgennad yn Rotherham, mae Rhiannon yn helpu i ddod â chymunedau, lleoliadau a phobl at ei gilydd i greu cysylltiadau newydd a chyffrous.