Pam Dylen Ni Greu Palas Hwyl?

Yn benodol ar gyfer lleoliadau, adeiladau, sefydliadau a grwpiau – ac mae’n ddefnyddiol i unigolion hefyd.

Ydych chi eisiau tyfu cysylltiadau gyda’ch cymuned leol?

Ydych chi’n chwilio am syniadau creadigol ar gyfer cysylltiadau lleol go iawn?

Ydych chi’n angerddol dros gynhwysiad go iawn?

Ydych chi’n credu mewn gwerth cyfranogiad ymarferol i bawb?

Ydy ‘trosglwyddo’ yn teimlo’n fwy cynhwysol nag ‘estyn allan’?

Darllenwch ymlaen…

Mae Palasau Hwyl yn ymgyrch barhaus dros ddiwylliant wrth wraidd cymuned a chymuned wrth wraidd diwylliant, gyda phenwythnos blynyddol o weithredu ar y cyd bob mis Hydref. 

Rydym yn cefnogi adeiladau, lleoliadau, sefydliadau, grwpiau ac unigolion i greu eu digwyddiadau cymunedol eu hunain, gan daflu goleuni ar sgiliau, angerdd a brwdfrydedd pob lleoliad, fel y gellir eu rhannu’n ehangach ac yn fwy cyfartal.  Mae Palasau Hwyl yn ymwneud â chyfranogiad gweithredol ac ymarferol i bobl o bob oedran a phob lefel o brofiad a chymryd rhan. 

Ers y penwythnos Palasau Hwyl cyntaf yn 2014 cynhaliwyd bron 2100 o Balasau Hwyl, wedi’u creu gan fwy na 40,000 o bobl leol, a gyda bron hanner miliwn yn cymryd rhan mewn 16 gwlad. 

Cred Palasau Hwyl y dylai pawb ac unrhyw un fedru creu a rhannu’r diwylliant sy’n bwysig iddynt. Mwy amdanom ni a’r ymgyrch

BETH YW PALAS HWYL?

Mae Palasau Hwyl yn cynnwys popeth o Theatrau yn Sheffield sy’n agor eu drysau ac yn croesawu miloedd o bobl leol i ddod yn fwy cyfarwydd â’u lleoliadau, gan brofi’r adeilad fel un y maen nhw’n berchen arno’n wirioneddol – dim bwys os ydynt yn dod i weld sioe ai beidio – i grŵp cymunedol bach sy’n cymryd gofod drosodd yn yr amgueddfa leol ac yn arwain eu Palas Hwyl eu hunain ar gyfer eu cymdogion, gan dyfu o flwyddyn i flwyddyn fel y mae Palas Hwyl Farnham wedi’i wneud. 

“Pa ffordd well sydd o gynnal dynoliaeth mewn dyfodol ansicr na chryfhau cysylltiadau cymunedol ac ysbryd cymunedol trwy ennyn diddordeb a chymryd rhan mewn ffordd ddifyr. Aiff yr angen am Balasau Hwyl y tu hwnt i weithgareddau am ddim i’w mwynhau er mwyn cael hwyl (er mor anhygoel a phwysig y mae hynny!), mae hefyd yn darparu cyfleoedd i bobl leol weithio ar y cyd ac ymfalchïo mewn cyflawni digwyddiad neu weithgaredd. Mae’r ymdeimlad o falchder a chyflawniad a welwn gyda phob Palas Hwyl yn cynhesu’r galon ac yn dod â phobl leol ynghyd – dyna pam rydym yn parhau i gefnogi Palasau Hwyl. Mae’n gyfle go iawn i greu cysylltiadau go iawn a ffrindiau go iawn, i ddysgu oddi wrth ein gilydd a dathlu’r hyn sy’n unigryw ac yn gyffrous am ein tref a’r bobl sy’n byw yma.” 

Palas Hwyl Royal and Derngate, Northampton

“Maent (Palasau Hwyl) yn newid y canfyddiad sydd gennym o’n lle yn y gymuned. Maent yn annog ymgysylltu, cydweithredu, rhannu cymdeithasol a dealltwriaeth.” 

Palas Hwyl Farnham, Surrey

 “Y mwyafrif o’r gweithdai sy’n digwydd heddiw, y rhan fwyaf o’r gweithgareddau, ein Hymgynghorwyr Hwyl Radical, maent yn aelodau o gymunedau dydyn ni byth wedi cydweithio â nhw o’r blaen, ac yn awr mae gennym berthynas â’r holl gymunedau a chynulleidfaoedd gwahanol hyn, a gallwn ni adeiladu ar hynny.”

Amgueddfa Forol Genedlaethol, Greenwich

PA WAHANIAETH ALLWCH CHI WNEUD GYDA PHALAS HWYL?

Mae Palasau Hwyl yn gyfle i greu gyda chroestoriad llawn o’ch cymuned leol: 

  • Bob blwyddyn rydym wedi ymestyn allan i gymunedau MWY amrywiol, gyda chyfranogwyr yn dod o ystod ehangach o gefndiroedd ethnig a chymdeithasol-economaidd.
  • Mae creu Palas Hwyl yn tyfu cysylltiadau lleol. Yn 2018, bu i 85% o Grewyr gynnwys rhywun newydd yn y tîm Crewyr a nododd 90% eu bwriad i gadw mewn cysylltiad.
  • Mae cyfranogwyr a chrewyr Palasau Hwyl yn dweud wrthym bod cymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol yn helpu nhw i daflu goleuni ar y gwaith anhygoel sydd eisoes yn cael ei wneud yn lleol.
  • Mae’r ymgyrch Palasau Hwyl – a’n presenoldeb yn y wasg ac ar gyfryngau cymdeithasol – yn cefnogi Crewyr a chyfranogwyr i dyfu dealltwriaeth bod diwylliant yn perthyn i ni i gyd, fel crewyr yn ogystal â fel defnyddwyr. 
  • Mae’r Pencadlys Palasau Hwyl yn cefnogi datblygiad Palasau Hwyl lleol gydag adnoddau ar-lein a deunyddiau printiedig.
  • Mae Palasau Hwyl yn gweithredu ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr bob blwyddyn yn genedlaethol ac yn lleol, ynghyd â gwerthusiad llawn o’n gwaith, a bydd y rhain yn eich cynnwys chi. 

“Ymgyrch yw Palasau Hwyl i atal y diwylliant sy’n gweld pobl yn cael eu gorchymyn beth i’w wneud ac i helpu pobl i wneud beth maen NHW eisiau gwneud.”

Jack Morrison, Llysgennad Palasau Hwyl, Cernyw

“Mae’n torri ar draws y cenedlaethau, ar draws dosbarth cymdeithasol, ar draws rhyw a diwylliant, gan ddod â chymuned ynghyd sydd â’i threftadaeth, hanes ac atgof ei hun, ac uwchlaw popeth mae’n HWYL.”

Palas Hwyl Grays, Essex

Cofrestrwch nawr

Crëwch Balas Hwyl 30 Medi / 1 / 2 Hydref 2022 (neu ar unrhyw ddyddiad arall yn ystod y flwyddyn)