Beth yw Palas Hwyl?

Mae Palasau Hwyl yn ymgyrch barhaus dros gymuned wrth wraidd diwylliant a diwylliant wrth wraidd pob cymuned – wedi’i arwain gan a thros y gymuned honno, a gyda Phenwythnos o Ddathlu bob blwyddyn – digwyddiadau a gweithgareddau celfyddydau, gwyddoniaeth, crefftau, technoleg, digidol, treftadaeth a chwaraeon – wedi’u rhedeg gan a thros gymunedau lleol.

Cynhelir y penwythnos Palasau Hwyl ar benwythnos cyntaf mis Hydref bob blwyddyn. Caiff y penwythnos Palasau Hwyl nesaf ei gynnal rhwng 30 Medi a 2 Hydref 2022.

Dyma beth yw Palas Hwyl

Am Ddim: Gallwch ddod am ddim, gallwch gymryd rhan am ddim

Lleol: Cynhelir Palas Hwyl gan bobl leol dros bobl leol – efallai grŵp o gymdogion, cymdeithas drigolion neu gyfeillion yn dod at ei gilydd. Os ydych yn lleoliad, adeilad neu sefydliad, gallai ‘lleol’ olygu eich staff, y glanhawyr, busnesau gerllaw. Mae’n golygu’r rhai sy’n byw yn agos ond byth yn ymweld hefyd, oherwydd iddynt dybio nad yw eich gofod ar eu cyfer nhw. Os ydych yn creu Palas Hwyl, byddem yn dweud i chi beidio â ‘chyflwyno’ digwyddiad i’r bobl hynny yn y gobaith y byddan nhw’n dod, yn hytrach, trosglwyddwch eich lle iddynt a gadewch iddyn nhw benderfynu beth sy’n digwydd. Yn ddigon buan byddan nhw’n teimlo mai nhw sy’n berchen arno. Yn achos Palas Hwyl TwoCan yng Nghaerloyw fe olygodd weithio gyda’r person digartref a gysgai ym mynedfa’r gofod i’r Palas Hwyl – cymerodd e ran ac fe aeth yn Balas Hwyl iddo fe hefyd.

Ar gyfer pob oedran: Yn aml mae’n haws meddwl am weithgareddau i blant. Beth am y person 17 oed nad yw’n ystyried ei fod yn blentyn neu’r person 75 oed nad yw byth yn cael chwarae? Allwn ni greu Palasau Hwyl i bawb? Rydym yn croesawu plant a phobl ifanc yn eu rhinwedd eu hunain; Rhedwyd Palas Hwyl 2016 Arc Stockton gan eu grŵp pobl ifanc, roedd yr un peth yn wir gyda Phalas Hwyl Morden Hall Park yn eu heiddo Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2017.

Cynhwysol: Crëir y rhan fwyaf o Balasau Hwyl gydag ychydig iawn o gyllideb neu ddim o gwbl, a gall hyd yn oed yr ymdrech leiaf helpu.  A allwch chi sicrhau bod eich arwyddion yn hawdd eu darllen? Ystyriwch fynediad ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn? A oes grwpiau yn eich cymuned leol y gallwch eu gwahodd i gymryd rhan, a all rannu eu diddordebau diwylliannol eu hunain? Gall meddwl y tu hwnt i’ch cylch arferol wneud gwahaniaeth enfawr. 

Ein Maniffesto, Nodau ac Amcanion

Rydym yn credu yn yr athrylith sydd gan bawb, ym mhawb mae arlunydd ac ym mhawb mae gwyddonydd, ac y gall creadigrwydd mewn cymuned newid y byd er gwell.

Gwneud pethau: Mae Palasau Hwyl yn ymwneud â chymryd rhan mewn beth bynnag yw eich fersiwn chi o ‘ddiwylliant’ (celf, gwyddoniaeth, crefftau, technoleg, digidol, treftadaeth, chwaraeon), beth bynnag sy’n dod â phobl ynghyd. Cawsom yr adborth yma gan Balas Hwyl 2016 Llyfrgell South Elmsall: Dwi wedi cwrdd â merch ifanc heddiw nad wyf erioed wedi siarad â hi o’r blaen ac mae hi’n byw ar fy stryd, trwy sgwrsio â hi dwi wedi cael gwybod mai ei Nain hi oedd fy ffrind gorau yn yr ysgol. Trwy wneud rhywbeth gyda’n gilydd roedd cyfle iddynt siarad. 

Proses yn gymaint â chynnyrch: Wrth gwrs mae digwyddiad y penwythnos yn bwysig, ond y Palas Hwyl go iawn yw’r hyn yr ydych chi a’ch cymuned yn ei wneud fel y bydd yn digwydd, y cyfarfodydd, y paneidiau, y trefnu, y sgyrsiau. Y meddwl a chreu’r cysylltiadau yw’r hyn sy’n bwysig.

Yn Eiddo i Chi: Dydyn ni ddim yn gwybod ble rydych chi’n byw, eich gweithle neu eich cymuned leol. Chi sy’n gwybod. Rydych chi’n gwybod sut i greu EICH Palas Hwyl lleol chi. Os ydych chi eisiau cymorth cysylltwch â ni, mae’n bosib y byddwn yn nabod rhywun sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg – gall fod yn ddefnyddiol siarad â chyd-Grëwr a gallwn ni greu’r cysylltiadau hynny. 

Yn Rhan o Ymgyrch: Dylanwadir ar yr hyn yr ydych yn ei wneud yn lleol gan eich ardal ac mae eich Palas Hwyl yn rhan o fudiad byd-eang i gael mynediad a chynhwysiad gyda a thros bawb.

Cofrestrwch nawr

Crëwch Balas Hwyl 30 Medi / 1 / 2 Hydref 2022 (neu ar unrhyw ddyddiad arall yn ystod y flwyddyn)

Dydy Palas Hwyl DDIM yn

Ffair neu Ddiwrnod Agored: Ni waeth p’un a ydych yn creu Palas Hwyl mewn adeilad, mewn grŵp cymunedol neu fel unigolyn, rhan o’r rôl yw helpu pobl eraill i ddeall y gallan nhw greu Palas Hwyl hefyd, y gallan nhw deimlo bod ganddynt berchnogaeth ar eich llyfrgell, amgueddfa, ysgol, oriel, siop, sgwâr tref, maes pêl-droed …

Prosiect celfyddydau cymunedol neu gyfathrebu am wyddoniaeth: y ddau beth yw e, ac nid y naill na’r llall mohono. Rydym yn annog pobl i rannu eu sgiliau, diddordebau, brwdfrydedd yn ogystal â’u galluoedd proffesiynol ym meysydd diwylliant, gwyddoniaeth neu chwaraeon. Trwy wneud hyn rydym yn cefnogi llawer mwy o bobl i gymryd rhan ac i greu gyda’n cymunedau lleol ein hunain. 

(cyffredin) Paentio wynebau: Mae Palasau Hwyl yn ymwneud  â throi’r cyffredin ar ei ben – felly gadewch i’r plant baentio wynebau’r oedolion. Dangosodd Palas Hwyl 2015 Llyfrgell Brixton i bawb sut i baentio eu hesgyrn, cyhyrau a gwythiennau eu hunain ar eu croen – gan ddysgu am y corff a bod yn artistiaid ar yr un pryd. (Gweler modelau balwnau, baneri, teisennau bach – a allwch chi gymryd gweithgaredd cyffredin a chreu rhywbeth hollol newydd gan a thros EICH cymuned?)

Pam Dylem Greu Palas Hwyl?

Yn benodol ar gyfer lleoliadau, sefydliadau a grwpiau – ac mae’n ddefnyddiol i unigolion hefyd.

Sioe, perfformiad neu ddarlith: Os oes gennych fand yn chwarae a phobl yn canu, mae hynny’n hyfryd. Os oes gennych fand yn chwarae, pobl yn canu a’r band yn rhannu offerynnau i ddysgu cordiau i bobl nad ydynt erioed wedi eu chwarae o’r blaen – DYNA beth yw Palas Hwyl! Mae hyn yn wir gyda unrhyw beth sy’n berfformiad, darlith, sgwrs, sioe neu gêm – a all pawb gymryd rhan?

Datblygu cynulleidfa: Nid ydym yn pryderu am gynulleidfaoedd, rydym eisiau cyfranogiad. Ydy, mae ein hystadegau’n dangos bod Palasau Hwyl a arweinir gan leoliadau’n dod â llwyth o bobl newydd trwy’r drws, ond nid yw cael niferoedd trwy’r drws yn bwysig i ni. Rydym eisiau helpu lleoliadau neu sefydliadau i fod yn wirioneddol ddewr, rhoi cynnig ar rywbeth nad oes gennych reolaeth drosto, rhywbeth sy’n eich gweld yn rhoi croeso go iawn i’r gymuned leol gael berchnogaeth ar eich gofod. Mae’n ddigon i godi’ch gwallt AC mae’n werth e!

Cysylltwch â’r Palasau Hwyl

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Palasau Hwyl