Dyma ein cyd-gyfarwyddwr Stella Duffy yn ysgrifennu am ddechrau’r Palasau Hwyl yn 2013 

Yn nigwyddiad blynyddol Devoted and Disgruntled Open Space a gynhaliwyd gan Improbable ym mis Ionawr 2013 fe gynhaliais sesiwn: “Pwy sydd eisiau gwneud rhywbeth ar gyfer canmlwyddiant Joan Littlewood ym mis Hydref 2014 nad yw’n ddiwygiad arall?” Dyma’r adroddiad gwreiddiol o’r sesiwn honno.

Wrth gwrs roedd theatr Joan yn anhygoel, ond roedd hi’n fwy na ‘dim ond’ cyfarwyddwr. Yn y sesiwn D&D fe siaradom am Balasau Hwyl, y wleidyddiaeth a’r ysbryd cymunedol sy’n sail iddynt – syniad a ddeilliodd o’r Gerddi Pleser, a’r syniad radical o Balasau’r Bobl, sef ennyn diddordeb y cyhoedd yn y ffordd fwyaf agored a chynhwysol. Fe siaradom am y posibilrwydd o greu Palas Hwyl unrhyw le. Fel ei fod yn syniad, nid adeilad yn unig. 

Bu i mi drydar y posibilrwydd hwnnw, a ches i lu o atebion yn syth, ton o ewyllys dda. A meddyliais y gallem greu tri neu bedwar o Balasau Hwyl ar gyfer canmlwyddiant Joan, wedi’r cyfan mae pawb yn brysur a dydy llwyth o syniadau da ddim yn dwyn ffrwyth … ond dechreuais anfon yr e-byst ta beth (fel arfer yng nghanol y nos ar ôl diwrnod llawn o waith) ac o fewn chwe wythnos roeddwn wedi gofyn i Sarah-Jane Rawlings ymuno â mi a dechreuon ni roi pethau ar waith (dim cyllid, wrth ein byrddau cegin gyda’r hwyr fel arfer) oherwydd mai’r hyn y mae’r ddwy ohonom ei eisiau o ddifri yw cefnogi datblygiad democratiaeth ddiwylliannol, diwylliant – celfyddydau, gwyddoniaeth, crefftau, technoleg, digidol – wedi’u harwain a’u creu’n ddiffuant gan, dros a gyda phob cymuned. 

Fe ddechreuodd gyda galw sesiwn mewn Gofod Agored a bod yn hollol barod am y posibilrwydd na fyddai neb yn troi i fyny.  Fe dyfodd trwy ofyn i’r bobl iawn ddod i helpu. Fe barhaodd trwy wneud y gwaith angenrheidiol, ymhell o lawer cyn y bu cyllid neu amser i’w wneud. Ac fe dyfodd, ac fe dyfodd eto, ac yn awr y peth hwn yw e – a ninnau brin gychwyn arno. 

Un o’r prif bethau rydym bob amser wedi’i gydnabod yw bod cymuned a diddordeb ac ymgysylltu’n bodoli eisoes beth bynnag. Yr hyn y mae’r ymgyrch Palasau Hwyl yn ei wneud yn syml yw darparu sianel i bobl ddod ynghyd, a chreu gyda’i gilydd. Rydym yn dweud bod creadigrwydd yn perthyn i ni i gyd, yn ein parciau cyhoeddus, meysydd chwarae ein hysgolion a meysydd parcio ein hystadau, cymaint ag yn ein sefydliadau ac adeiladau mawreddog. Mae’n ffordd o fod yn gymuned, yn lleol AC yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar yr un pryd. 

Ac fe ddechreuodd gyda sefyll i fyny yng nghanol cylch a’i alw fe i mewn. 

Stella Duffy, Gorffennaf 2014