Gweithdai Palasau Hwyl

Mae gweithdai Palasau Hwyl ar gyfer unrhyw un, unrhyw le sydd â diddordeb mewn creu Palas Hwyl lleol

Mae gweithdai Palasau Hwyl yn cefnogi sefydliadau (e.e. Llyfrgelloedd ardal, Cymdeithasau Tai), lleoliadau (orielau, theatrau, canolfannau gwyddoniaeth, amgueddfeydd etc), grwpiau cymunedol ac unigolion i ddod ynghyd i ddechrau sgwrsio, cynllunio a datblygu cysylltiadau defnyddiol, rhannu sgiliau a rhwydweithiau lleol.

Er bod llawer o bobl sy’n mynychu ein gweithdai’n symud ymlaen i greu Palas Hwyl lleol, mae llawer wedi dweud wrthym bod gweithdai’n werthfawr o safbwynt datblygu staff, creu cysylltiadau rhwng grwpiau amrywiol mewn ardal leol ac – rhywbeth sy’n bwysig iawn i ni – cefnogi pobl nad ydynt yn teimlo bod ganddynt lawer i’w gyfrannu neu sydd yn aml yn cael eu gadael allan, i gamu i fyny a chymryd rhan.

Dyma’r hyn y mae pobl yn dweud: 

“Y peth mwyaf defnyddiol oedd gwrando ar syniadau a meddyliau pobl a meddwl am yr hyn y gallaf i / gallwn ni ei wneud. Ni allaf feddwl am unrhyw beth a allai fod wedi cael ei wneud yn well.” 

“Dw i wedi creu digwyddiadau celf gyda chymunedau ond bu’n wirioneddol ysbrydoliaethus i ddeall sut i ymgorffori gwyddoniaeth (ddim fy nghefndir i) yn y cymysgedd.”

 “Roedd yn help i ni weld y gallem wneud rhywbeth ar raddfa fach yn hytrach na phoeni am gynnal digwyddiad mawr.”

“Bu’n gyfle gwych i glywed yr effaith y mae Palasau Hwyl wedi’i chael, ac ar yr un pryd medru cwrdd â phobl eraill o’r ardal y gallem gydweithio â nhw yn y dyfodol.”

Beth sy’n Digwydd?

Gydag adeilad neu sefydliad gallwn ymchwilio i pam a sut y gallwch daflu drysau’ch gofodau’n agored, a chroesawu eich cymuned leol i gymryd rhan yn eich cynlluniau presennol a’ch breuddwydion ar gyfer y dyfodol – a’u rhai nhw hefyd. 

Gydag unigolyn neu grŵp gallwn helpu chi i greu cysylltiadau’n lleol, cymryd rhan mewn grwpiau cymunedol a chael cefnogaeth i chi gan ein Crewyr profiadol. 

Yn ymarferol, rydym yn dechrau trwy esbonio hanfodion y Palasau Hwyl, ac yna yn rhedeg sesiwn ymarferol er mwyn i bobl gysylltu â’i gilydd, cael syniad o nodweddion ymarferol creu Palas Hwyl a sut y gall weithio drostyn nhw. Rydym yn dod â’r gweithdy i ben gyda sesiwn holi ac ateb fel bod pawb yn teimlo’n gyfforddus gyda’r hyn y maent yn ymgymryd ag ef. 

Rydym yn ceisio dod â phobl ynghyd na fyddent fel arall yn cwrdd ac i ddechrau rhoi pethau ar waith – gallai hyn fod yn creu Palas Hwyl neu gynnal digwyddiad arall sy’n bwysig i’ch cymuned.

Mae ein gweithdai’n ddefnyddiol hefyd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol; rydym yn annog cyfranogiad mor eang â phosib o fewn sefydliad, e.e. lefelau gwahanol – rheolwyr a chynorthwywyr, staff â thâl a gwirfoddolwyr – gorau bo’r amrywiaeth, gorau bo’r ymrwymiad a’r gefnogaeth, gorau bo’r Palas Hwyl A’R gweithle. 

Mae gweithdai Palasau Hwyl yn cymryd tua 3 awr ac yn gweithio’n dda gyda 20-40 o gyfranogwyr – gallwn weithio gyda mwy os bydd angen. 

Rydym wedi rhedeg gweithdai ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig, yn Norwy, ac yn Aotearoa/Seland Newydd. Rydym yn falch o ddod i ble bynnag yr ydych chi! 

Rydym eisiau i’n gweithdai fod ar gael i bawb ac yn rhedeg nhw ar sail talu’r-hyn-y-gallwch.

Cysylltwch â ni.