Lansio Palasau Hwyl

Neges gan y tîm Palasau Hwyl craidd am ein lansiad ar ddydd Mawrth 17 Mawrth.

Rydym newydd wneud y penderfyniad trist i beidio â theithio i ymuno â’n ffrindiau yn Eden Court Inverness i lansio Palasau Hwyl 2020. Mae hyn yn brifo mewn cynifer o ffyrdd – rydym mor frwd dros ddod â’n holl Lysgenhadon a Chrewyr ynghyd bedair gwaith y flwyddyn o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, rydym yn dysgu cymaint gan a gyda’n gilydd. Mae’n bwysig dros ben i ni fod y mwyafrif helaeth o’n gwaith yn awr a bob amser wedi bod y tu allan i Lundain. Rydym wrth ein boddau bod y grant gan CGYLG wedi galluogi ni i benodi llysgenhadon newydd yng Ngogledd Cymru, Gogledd Iwerddon ac Inverness a’r Ucheldiroedd. Roeddem eisiau nid yn unig lleisio ein hymrwymiad i bob un o bedair cenedl y Deyrnas Unedig ond bod yno, yn y fan a’r lle, gan ddod â phawb i’r Ucheldiroedd i estyn allan i’r DU gyfan.

Ond ni fydd hynny’n bosib ar hyn o bryd.  Felly yn awr rydym yn paratoi i lansio mewn ffordd wahanol.

Mae gwaith y Palasau Hwyl bob amser wedi ymwneud â chysylltiad.

Ydy, mae’r penwythnos ei hun yn wych, mae’n amser anhygoel i ddod ynghyd a gweiddi’n uchel am ein cymunedau a’r bobl sy’n byw ynddynt, y sgiliau y gallwn eu rhannu â’n gilydd a’ch chwyldroadau cysylltiad bychain yr ydym yn eu creu pan fyddwn yn estyn allan i’n gilydd.  

Ond mae gwaith go iawn y Palasau Hwyl yn digwydd yn yr wythnosau a misoedd cyn y penwythnos. Dyna’r sgwrs gydag un o’ch cymdogion am greu rhywbeth gyda’ch gilydd. Rhannu posibiliadau. Mae’r broses o greu digwyddiad cymunedol yn bendant yr un mor bwysig â’r digwyddiad ei hun.

A dyna pam, er ein bod wrth ein boddau â’r Palasau Hwyl sy’n denu cannoedd a hyd yn oed miloedd o gyfranogwyr, yr ydym hefyd – bob amser – wedi croesawu’r rhai sydd â phum deg, neu bymtheg, neu bump o gyfranogwyr, yn gyfartal.

Er y bydd llawer ohonom efallai yn symud i ryngweithio ar y rhyngrwyd, ar gyfryngau cymdeithasol, nid yw’n bosib i bawb wneud hyn. Nid oes gan bawb fynediad rhyngrwyd gartref. I lawer o bobl, yr unig fynediad i’r rhyngrwyd sydd ganddynt yw’r llyfrgell. Mae’n rhaid i ni i gyd edrych ar ôl ein hiechyd corfforol, ond ar yr un pryd mae’n rhaid i ni ofalu am ein hiechyd meddyliol hefyd. Mae angen i ni gynnal cysylltiadau â’r bobl fwyaf bregus, y bobl unig, y rhai sydd angen cysylltiad â phobl eraill.

Felly, pan fyddwn yn lansio fore dydd Mawrth fe gaiff ei wneud yn ddigidol o Dde Llundain ac o’r Alban ac o Gernyw ac o Sheffield ac o Ogledd Cymru ac o Ogledd Iwerddon. Byddwn yn rhannu ein gwefan newydd (sydd i gyd yn y Gymraeg hefyd), a’n ffilm a gwerthusiad diweddaraf – ond yn fwy na hynny, byddwn yn rhannu’r posibilrwydd y gallai cysylltiadau bychain fod yn ddigon.

Wrth ei wraidd, mae’r Palasau Hwyl yn ymwneud ag un person sydd â’r dewrder i estyn allan i rywun arall. Mae’n alwad ffôn, nodyn trwy’r drws, sgwrs wrth yr arhosfa fws – hyd yn oed 3 troedfedd i ffwrdd o’n gilydd. Gall chwyldroadau cysylltiad bychain, rhwng digon o bobl, yn ysgafn, yn dawel, un i un, gadw ni i fynd, gall gofalu am ein pobl fwyaf unig, gall fod yn ffordd ymlaen.