Boreau Coffi Symudol

Yn ystod cyfnodau clo COVID-19 2020, roedd fy rôl fel Llysgennad Palasau Hwyl yn cynnwys cefnogi prosiectau a digwyddiadau bach gyda phellter cymdeithasol yn fy nghymuned wledig yng Ngogledd Powys. Trwy rain cyfarfodais â llawer o bobl newydd a dois i adnabod eraill yn well. Gwelais sut mae gwneud pethe hefo’n gilydd yn llesol, hyd yn oed pan mae ‘hefo’n gilydd’ yn digwydd o bell. Ond drwy gydol y cyfnod yma, roeddwn yn ymwybodol fod llawer o bobl yn teimlo’n ynysig a’u bod yn methu eu cysylltiad hefo’r gymuned, eu perthnasau a’u ffrindiau. 

Un diwrnod, dywedodd arweinydd y Côr Meibion lleol ei bod hi’n trefnu cyfarfodydd wythnosol i’r aelodau ar Zoom, ac mai’r ffocws oedd i greu cyfleoedd i’r ffrindiau yn y côr aros mewn cysylltiad â’i gilydd yn ystod y cyfnodau clo. Roedd hyn yn ysbrydoliaeth i mi! Yn Ionawr 2021, trefnais foreau coffi ar Zoom eu galw’n ‘Paned Pennant’ a’u hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol lleol. 

Ar y dechrau, doedd llawer o’r bobl oedd yn troi i fyny heb gyfarfod o’r blaen; fe wnaeth gweithgareddau syml hybu sgyrsiau ac wrth i’r wythnosau fynd heibio fe ddaeth y cyfarfodydd yn fwy anffurfiol. Roedd yr her o sicrhau fod pobl oedd eisiau siarad Cymraeg, ynghyd a dysgwyr Cymraeg yn gallu gwneud hynny os oeddent eisiau yn syml i’w ddatrys drwy gynnal dau gyfarfod 45 munud ar wahân. Doedd y Boreau byth yn rhy fawr (13 ar y mwyaf oedd wedi dod) – roedd hyn yn ddelfrydol – fy ffefrynnau oedd y rhai lle’r oedd y sgwrs yn llifo’n naturiol a pan roedd y teimlad o gynhesrwydd a charedigrwydd yn amlwg. 

Heb i mi sylweddoli bron iawn, dechreuodd digwyddiadau bach ychwanegol gael eu trefnu yn ystod ein sgyrsiau. Awgrymodd rhywun deithiau cerdded i godi sbwriel, a dechreuon ni drafod syniadau bach i wella gwedd ein pentref gan roi’r rhain ymlaen i’r Cyngor Cymuned. Gwahoddon ni ddisgyblion yr Ysgol Gynradd i ddylunio arwyddion a ryden ni eisiau cael y rhain wedi eu hargraffu a’u gosod i fyny o gwmpas y pentref. 

Pan ymestynnodd y dyddiau ac roedd llai o bobl yn troi i fyny ar Zoom, roedd trefnu i’r boreau coffi ddigwydd tu allan yn teimlo fel cam amlwg ymlaen. Roedd y Cyntaf yn fy ngardd i, wedyn cynigodd rhywun arall i westeio un, ac un arall – ryden ni ar fin cynnal y drydedd ac maen nhw’n digwydd bob 2-3 wythnos. Hyd yn hyn – mae elfen ychwanegol wedi bod bob tro – cyfnewid planhigion a llyfrau, a thro nesa ryden ni’n cyfarfod wrth Eglwys Pennant Melangell cyn cael ein paned mewn gardd leol.

“Mae dod i’r boreau coffi fel gofalwyr hefo un o fy nghlientau sydd â dementia wedi ei galluogi i gymdeithasu gyda phobl newydd ac i gymryd rhan yn y math o ddigwyddiadau roedd hi’n eu caru cyn i ddementia newid ei ffordd o fywyd”.

Dwi ddim yn gwybod os oes unrhyw rai sy’n dod i Paned Pennant yn teimlo’n llai unig neu ynysig o ganlyniad o ddod neu os mae hyn hyd yn oed yn ystyriaeth, ond ryden ni wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi dod i adnabod ein gilydd yn well. A tra mae pobl yn fy nghymuned eisiau parhau i gyfarfod ar Zoom neu mewn gerddi i gael paned neu i drio syniadau eraill, fydda i wrth fy modd yn cefnogi ac yn cymryd rhan. 

Bethan Page, Llysgennad Palasau Hwyl Gogledd Cymru, Mehefin 2021.

Sut i Drefnu Bore Coffi Wythnosol ar Zoom 

1. Wedi i chi ddewis diwrnod o’r wythnos ac amser, rhowch gyhoeddusrwydd i’r Bore Coffi ar grwpiau cyfryngau cymdeithasol lleol, ar ‘feed’ eich hunain neu i’w gadw yn fach rhannwch y manylion hefo grŵp bach o ffrindiau. Bydd angen i chi gynnwys gwahoddiad Zoom. Mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn ar-lein, neu gofynnwch i rywun sydd wedi ei wneud o’r blaen i’w drefnu. Os fyddwch yn defnyddio cyfrif Zoom sydd am ddim, bydd eich bore coffi ddim ond yn para am 40 munud. 

2. Peidiwch â chael eich siomi os fydd dim ond un neu ddau o bobl yn troi i fyny – mae dal yn gyfle i sgwrsio! Daliwch i droi i fyny ar yr run un amser bob wythnos a gweld sut mai’n mynd. 

3. Daliwch ati i roi cyhoeddusrwydd i’r bore coffi bob wythnos, y diwrnod cyn y digwyddiad. Gyda chaniatâd rheiny sy’n troi i fyny gallwch dynnu screenshot i’w rannu ar y cyfryngau cymdeithasol i annog eraill i ymuno hefo chi. 

4. Fel mae mwy o bobl yn troi i fyny, sicrhewch fod pobl yn cael eu cyflwyno neu yn cyflwyno eu hunain. Meddyliwch am ffyrdd addfwyn i annog pobl i sgwrsio, er enghraifft rhowch wahoddiad i bawb ddod ag eitem hefo nhw sy’n golygu rhywbeth iddyn nhw, sy’n ddiddorol a chymerwch dro i siarad amdanynt. Neu gofynnwch a oes gan rywun risait, dechneg grefftau neu hobi fydden nhw’n hoffi ei rannu – rhywbeth sy’n cymryd ddim mwy na 5 munud i’w ddisgrifio – bydd pobl yn gofyn cwestiynau ac yn gofyn am y risait / cyfarwyddiadau – mae’n ffordd wych o ael bobl i sgwrsio! 

Ceisiwch ymlacio, mwynhewch gyfleoedd i wrando a pheidiwch â phoeni os oes yna sbeliau bach o ddistawrwydd lletchwith. Fe ddywedith rhywun rhywbeth a bydd y sgwrs yn cychwyn eto.Os hoffech gymryd screenshot o bawb, gofynnwch eu caniatad yn gyntaf. 

5. Cofiwch gadw llygad ar yr amser! Os ydech chi ar gyfrif Zoom sydd am ddim, dechreuwch ddiolch i bawb am ddod ychydig o funudau cyn i’r 40 munud ddod i ben – mae’n siomedig ac yn sioc pan mae’r cyfarfod yn gorffen yn sydyn a dydech chi heb gael cyfle i ddweud ffarwel!