Y Tîm

Rydym wrthi’n hurio ar hyn o bryd i ehangu ein tîm a byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gydag aelodau tîm newydd tua diwedd y gwanwyn.

Makala Cheung

Cyd-Gyfarwyddwr y Palasau Hwyl  

Mae Makala Cheung yn weithiwr cymunedol ac yn artist cerddoriaeth (a elwir yn KALA CHNG) o Fryste. Mae Makala wedi bod yn gweithio yn ei chymuned Knowle West ers bron ugain mlynedd ar brosiectau cymunedol. Ar hyn o bryd mae Makala yn gweithio’n rhan-amser yng Nghanolfan Gymunedol Filwood yn cefnogi adfywiad y ganolfan ac yn arwain Filwood Fantastic, prosiect cymunedol creadigol a gefnogir gan Creative Civic Change. Mae hi hefyd yn un o Eiriolwyr Hapusrwydd etholedig y ddinas, fe’i henwyd yn llysgennad diwylliannol gan Fiwro Tsieina Bryste a Gorllewin Lloegr ac fe helpodd i greu’r sianel YouTube BESEA TV newydd i ddathlu doniau Asiaidd Dwyreiniol a De-ddwyreiniol yn y DU. Mae Makala hefyd wedi rhedeg a chefnogi amrywiaeth o wyliau cymunedol yn ei chymdogaeth a gyda’r gymuned Dsieineaidd ac mae hi’n wyneb cyfarwydd ar sîn cerddoriaeth y ddinas.

Kirsty Lothian
Alex Marshall
Amie Taylor
Orla Nicholls

Cyd-Gyfarwyddwr y Palasau Hwyl  

Gweithiodd Cynhyrchydd/Arweinydd Gwerthuso’r Palasau Hwyl Kirsty Lothian dros gwmni theatr Improbable am y rhan helaethaf o ddeng mlynedd, gan drefnu eu digwyddiadau Open Space sy’n cefnogi’r gymuned creu theatr; dros Axon Publishing, gan reoli nifer o gylchgronau a chatalogau; ac fel cynorthwy-ydd llyfrgell digidol y Ganolfan Astudiaethau Ffoaduriaid yn Rhydychen.

Mae hi wedi cyfarwyddo operâu dros Ŵyl Anghiari, creu a chynhyrchu theatr gyda Jumbled a gweini cyw iâr wedi’i ffrio yn ne Llundain. 

Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata  

Mae Alex Marshall yn gerddor a aned yn Llundain, yn rhiant ac yn arbenigwr marchnata ar gyfer y sector diwylliannol. Ymunodd â’r Palasau Hwyl yn 2021 ar ôl bod mewn rôl farchnata yn Lewisham Education Arts Network. Pan nad yw Alex yn ymwneud â’r Palasau Hwyl, mae’n darparu reidiau ar gefn ceffyl i’w ddau blentyn ifanc, yn ogystal â chynhyrchu a pherfformio ei gerddoriaeth ei hun. A hynny fel artist unigol a gyda’i fand, Crouton Cannon. 

Cynhyrchydd

Ymunodd Amie Taylor â’r Palasau Hwyl ym mis Ionawr 2021. Pan nad yw’n gweithio i’r Palasau Hwyl, mae hi’n awdur, yn grëwr theatr, yn hwylusydd gweithdai ac yn gynhyrchydd. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr i blant ac athrawon: The Big Book of LGBTQ+ Activities a The Monster Book of Feelings. Mae hi wedi creu tair sioe theatr i blant ac wedi teithio i theatrau, gwyliau ac ysgolion gyda’r gwaith hwn. Sefydlodd a rhedodd LGBTQ+ Arts Review am 6 blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw adolygodd y tîm bron i 300 o sioeau theatr. 

Cydlynydd

Mae Orla Nicholls, a ymunodd â’r tîm Palasau Hwyl fel Cydlynydd ym mis Ionawr 2023, yn frwd dros dechnoleg ac yn angerddol dros gynllunio. Dechreuodd ei thaith Palas Hwyl yn 2014, gan greu Palas Hwyl Luton dros benwythnos dathlu mis Hydref, felly mae’n gallu dod â phrofiad o fod yn Grëwr i’r rôl o lygad y ffynnon. Pan nad yw’n gweithio i’r Palasau Hwyl, mae’n rhoi benthyg ei harbenigedd i berchnogion busnesau bach, gan eu helpu i gynnal digwyddiadau rhithwir a manteisio i’r eithaf ar eu technoleg ddigidol. Mae ganddi ddiddordeb mawr yng ngrym cysylltiadau rhwng y cenedlaethau ar gyfer cymunedau yn ogystal â chwyddo lleisiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol.