Dewch â'ch cymuned at ei gilydd yn 2026 trwy wneud Palas Hwyl
Cymerwch beth rydych chi’n ei wneud am hwyl. Rhannwch ef gyda’ch ffrindiau, cymdogion neu bobl o’ch ardal – dyna Palas Hwyl.
Cofrestrwch i wneud eich Palas Hwyl eich hun nawr.
Digwyddiad am ddim yw Palas Hwyl sy’n cael ei greu gan bobl leol ar gyfer eu cymuned eu hunain. Mewn Palasau Hwyl mae pobl yn dod at ei gilydd i rannu eu sgiliau, eu diddordebau a’r hyn maen nhw’n angerddol drosto, ac i ddangos i’r byd pa mor wych a llawn athrylith y mae eu cymuned!
Gall unrhyw un yn y byd greu Palas Hwyl (ydy – mae hynny’n golygu chi!). Does dim angen profiad. (Ni’n addo)
Gallan nhw gynnwys ychydig o bobl neu rai cannoedd a gallan nhw ddigwydd unrhyw le! Yn y gorffennol mae Palasau Hwyl wedi digwydd mewn llyfrgelloedd, theatrau, canolfannau cymunedol, gerddi, pyllau nofio, canolfannau chwaraeon, rhandiroedd, amgueddfeydd, canol trefi ac eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gall ein pecyn cymorth dod o hyd i leoliad fod o help os oes angen i chi ffeindio lleoliad i gynnal eich Palas Hwyl.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am beth yw Palas Hwyl (a beth nad yw).








Beth sy’n digwydd mewn Palas Hwyl?
Beth bynnag rydych chi ei eisiau! Does dim ffordd gywir neu anghywir i Balas Hwyl ddigwydd. Mae Palasau Hwyl dan eu sang gyda’r celfyddydau, y gwyddorau, hanes, treftadaeth, technoleg, chwaraeon a mwy.
Pryd gallan nhw ddigwydd?
Pryd bynnag y mynnwch! Gall Palas Hwyl bara am bymtheg munud neu dri diwrnod. Cynhelir y Penwythnos o Weithredu blynyddol ar y penwythnos cyntaf ym mis Hydref. Mae llawer o bobl yn dewis creu eu Palas Hwyl ar yr adeg hon oherwydd eu bod yn hoffi bod yn rhan o rywbeth mwy sy’n digwydd ar yr un pryd ar draws y wlad. Fodd bynnag os nad yw hynny’n gweithio i chi, gallwch ei gynnal ar amser sy’n gyfleus.
Pam mae pobl yn creu Palasau Hwyl?
Mae cyfranogwyr a crewyr Palasau Hwyl yn dweud wrthyn ni fod cymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol yn eu helpu i daflu goleuni ar y gwaith anhygoel y mae pobl eisoes yn ei wneud yn lleol. Mae creu Palas Hwyl yn tyfu cysylltiadau lleol ac mae pobl yn cwrdd â’i gilydd mewn ffordd na fyddai wedi digwydd fel arall. Mae mwy o resymau yma.

Sut ydw i’n cychwyn arni?
Y peth cyntaf i’w wneud yw cael eich hun ar y map. Hyd yn oed os nad ydych yn hollol siŵr beth rydych chi’n ei wneud.
Yna ewch i’r pecyn cymorth Crewyr am fwy o syniadau.
BETH DDIGWYDDODD Y LLYNEDD?
Storïau Crewyr

Trosglwyddo ein Gofod Llyfrgell i’r Gymuned!
Trwy fod yn rhan o’r Palasau Hwyl rydyn ni wedi cael rhai momentau anhygoel, brawychus a thra emosiynol. A rhan fawr o hynny oedd ildio gafael a throsglwyddo ein gofod llyfrgell i’r gymuned a dweud chi sy biau fe, beth hoffech chi ei wneud?

“Creadigrwydd radical a hael ar waith …”
Mae’r het “Crëwr Palas Hwyl” yn wirioneddol ddefnyddiol gan ei bod yn cychwyn sgyrsiau ac mae cryfder aruthrol mewn bod yn rhan o fudiad rhyngwladol sy’n ehangu drwy’r amser.