{"id":657,"date":"2021-07-01T07:30:00","date_gmt":"2021-07-01T06:30:00","guid":{"rendered":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/?p=657"},"modified":"2025-09-18T06:00:03","modified_gmt":"2025-09-18T05:00:03","slug":"boreau-coffi-symudol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/","title":{"rendered":"Boreau Coffi Symudol"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-black-color has-orange-darker-background-color has-text-color has-background\">Yn ystod cyfnodau clo COVID-19 2020, roedd fy r\u00f4l fel Llysgennad Palasau Hwyl yn cynnwys cefnogi prosiectau a digwyddiadau bach gyda phellter cymdeithasol yn fy nghymuned wledig yng Ngogledd Powys. Trwy rain cyfarfodais \u00e2 llawer o bobl newydd a dois i adnabod eraill yn well. Gwelais sut mae gwneud pethe hefo\u2019n gilydd yn llesol, hyd yn oed pan mae \u2018hefo\u2019n gilydd\u2019 yn digwydd o bell. Ond drwy gydol y cyfnod yma, roeddwn yn ymwybodol fod llawer o bobl yn teimlo\u2019n ynysig a\u2019u bod yn methu eu cysylltiad hefo\u2019r gymuned, eu perthnasau a\u2019u ffrindiau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-black-color has-orange-darker-background-color has-text-color has-background\">Un diwrnod, dywedodd arweinydd y C\u00f4r Meibion lleol ei bod hi\u2019n trefnu cyfarfodydd wythnosol i\u2019r aelodau ar Zoom, ac mai\u2019r ffocws oedd i greu cyfleoedd i\u2019r ffrindiau yn y c\u00f4r aros mewn cysylltiad \u00e2\u2019i gilydd yn ystod y cyfnodau clo. Roedd hyn yn ysbrydoliaeth i mi! Yn Ionawr 2021, trefnais foreau coffi ar Zoom eu galw\u2019n \u2018Paned Pennant\u2019 a\u2019u hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol lleol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-black-color has-orange-darker-background-color has-text-color has-background\">Ar y dechrau, doedd llawer o\u2019r bobl oedd yn troi i fyny heb gyfarfod o\u2019r blaen; fe wnaeth gweithgareddau syml hybu sgyrsiau ac wrth i\u2019r wythnosau fynd heibio fe ddaeth y cyfarfodydd yn fwy anffurfiol. Roedd yr her o sicrhau fod pobl oedd eisiau siarad Cymraeg, ynghyd a dysgwyr Cymraeg yn gallu gwneud hynny os oeddent eisiau yn syml i\u2019w ddatrys drwy gynnal dau gyfarfod 45 munud ar wah\u00e2n. Doedd y Boreau byth yn rhy fawr (13 ar y mwyaf oedd wedi dod) \u2013 roedd hyn yn ddelfrydol \u2013 fy ffefrynnau oedd y rhai lle&#8217;r oedd y sgwrs yn llifo\u2019n naturiol a pan roedd y teimlad o gynhesrwydd a charedigrwydd yn amlwg.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-black-color has-orange-darker-background-color has-text-color has-background\">Heb i mi sylweddoli bron iawn, dechreuodd digwyddiadau bach ychwanegol gael eu trefnu yn ystod ein sgyrsiau. Awgrymodd rhywun deithiau cerdded i godi sbwriel, a dechreuon ni drafod syniadau bach i wella gwedd ein pentref gan roi&#8217;r rhain ymlaen i\u2019r Cyngor Cymuned. Gwahoddon ni ddisgyblion yr Ysgol Gynradd i ddylunio arwyddion a ryden ni eisiau cael y rhain wedi eu hargraffu a\u2019u gosod i fyny o gwmpas y pentref.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-black-color has-orange-darker-background-color has-text-color has-background\">Pan ymestynnodd y dyddiau ac roedd llai o bobl yn troi i fyny ar Zoom, roedd trefnu i\u2019r boreau coffi ddigwydd tu allan yn teimlo fel cam amlwg ymlaen. Roedd y Cyntaf yn fy ngardd i, wedyn cynigodd rhywun arall i westeio un, ac un arall \u2013 ryden ni ar fin cynnal y drydedd ac maen nhw\u2019n digwydd bob 2-3 wythnos. Hyd yn hyn \u2013 mae elfen ychwanegol wedi bod bob tro \u2013 cyfnewid planhigion a llyfrau, a thro nesa ryden ni\u2019n cyfarfod wrth Eglwys Pennant Melangell cyn cael ein paned mewn gardd leol.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>\u201cMae dod i\u2019r boreau coffi fel gofalwyr hefo un o fy nghlientau sydd \u00e2 dementia wedi ei galluogi i gymdeithasu gyda phobl newydd ac i gymryd\u00a0rhan yn y math o ddigwyddiadau roedd hi\u2019n eu caru cyn i ddementia newid ei ffordd o fywyd\u201d.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-style-default\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"472\" src=\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1-1024x472.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-658\" srcset=\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1-1024x472.jpg 1024w, https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1-300x138.jpg 300w, https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1-768x354.jpg 768w, https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-black-color has-orange-darker-background-color has-text-color has-background\">Dwi ddim yn gwybod os oes unrhyw rai sy\u2019n dod i Paned Pennant yn teimlo\u2019n llai unig neu ynysig o ganlyniad o ddod neu os mae hyn hyd yn oed yn ystyriaeth, ond ryden ni wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi dod i adnabod ein gilydd yn well. A tra mae pobl yn fy nghymuned eisiau parhau i gyfarfod ar Zoom neu mewn gerddi i gael paned neu i drio syniadau eraill, fydda i wrth fy modd yn cefnogi ac yn cymryd rhan.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-blue-background-color has-background\">Bethan Page, Llysgennad Palasau Hwyl Gogledd Cymru, Mehefin 2021.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut i Drefnu Bore Coffi Wythnosol ar Zoom&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>1. Wedi i chi ddewis diwrnod o\u2019r wythnos ac amser, rhowch gyhoeddusrwydd i\u2019r Bore Coffi ar grwpiau cyfryngau cymdeithasol lleol, ar \u2018feed\u2019 eich hunain neu i\u2019w gadw yn fach rhannwch y manylion hefo gr\u0175p bach o ffrindiau. Bydd angen i chi gynnwys gwahoddiad Zoom. Mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn ar-lein, neu gofynnwch i rywun sydd wedi ei wneud o\u2019r blaen i\u2019w drefnu. Os fyddwch yn defnyddio cyfrif Zoom sydd am ddim, bydd eich bore coffi ddim ond yn para am 40 munud.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>2. Peidiwch \u00e2 chael eich siomi os fydd dim ond un neu ddau o bobl yn troi i fyny \u2013 mae dal yn gyfle i sgwrsio! Daliwch i droi i fyny ar yr run un amser bob wythnos a gweld sut mai\u2019n mynd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>3. Daliwch ati i roi cyhoeddusrwydd i\u2019r bore coffi bob wythnos, y diwrnod cyn y digwyddiad. Gyda chaniat\u00e2d rheiny sy\u2019n troi i fyny gallwch dynnu screenshot i\u2019w rannu ar y cyfryngau cymdeithasol i annog eraill i ymuno hefo chi.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>4. Fel mae mwy o bobl yn troi i fyny, sicrhewch fod pobl yn cael eu cyflwyno neu yn cyflwyno eu hunain. Meddyliwch am ffyrdd addfwyn i annog pobl i sgwrsio, er enghraifft rhowch wahoddiad i bawb ddod ag eitem hefo nhw sy\u2019n golygu rhywbeth iddyn nhw, sy\u2019n ddiddorol a chymerwch dro i siarad amdanynt. Neu gofynnwch a oes gan rywun risait, dechneg grefftau neu hobi fydden nhw\u2019n hoffi ei rannu \u2013 rhywbeth sy\u2019n cymryd ddim mwy na 5 munud i\u2019w ddisgrifio \u2013 bydd pobl yn gofyn cwestiynau ac yn gofyn am y risait \/ cyfarwyddiadau \u2013 mae\u2019n ffordd wych o ael bobl i sgwrsio!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ceisiwch ymlacio, mwynhewch gyfleoedd i wrando a pheidiwch \u00e2 phoeni os oes yna sbeliau bach o ddistawrwydd lletchwith. Fe ddywedith rhywun rhywbeth a bydd y sgwrs yn cychwyn eto.Os hoffech gymryd screenshot o bawb, gofynnwch eu caniatad yn gyntaf.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>5. Cofiwch gadw llygad ar yr amser! Os ydech chi ar gyfrif Zoom sydd am ddim, dechreuwch ddiolch i bawb am ddod ychydig o funudau cyn i\u2019r 40 munud ddod i ben \u2013 mae\u2019n siomedig ac yn sioc pan mae\u2019r cyfarfod yn gorffen yn sydyn a dydech chi heb gael cyfle i ddweud ffarwel!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-style-default\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-3-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-659\" srcset=\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-3-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-3-300x225.jpg 300w, https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-3-768x576.jpg 768w, https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-3.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ystod cyfnodau clo COVID-19 2020, roedd fy r\u00f4l fel Llysgennad Palasau Hwyl yn cynnwys cefnogi prosiectau a digwyddiadau bach gyda phellter cymdeithasol yn fy nghymuned wledig yng Ngogledd Powys. Trwy rain cyfarfodais \u00e2 llawer&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":2266,"featured_media":658,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_mkdo_core_block_meta_as_title":"","footnotes":"","mkdo_translation_country_code":"","mkdo_translation_language_code":"","mkdo_translation_id_language_cy":"","mkdo_translation_id_language_en":""},"categories":[1],"tags":[],"country":[],"region":[],"city":[],"class_list":["post-657","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorised"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v18.2 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Boreau Coffi Symudol - Fun Palaces Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Boreau Coffi Symudol - Fun Palaces Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn ystod cyfnodau clo COVID-19 2020, roedd fy r\u00f4l fel Llysgennad Palasau Hwyl yn cynnwys cefnogi prosiectau a digwyddiadau bach gyda phellter cymdeithasol yn fy nghymuned wledig yng Ngogledd Powys. Trwy rain cyfarfodais \u00e2 llawer&hellip;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Fun Palaces Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/FunPalaces\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-07-01T06:30:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-09-18T05:00:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"590\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@funpalaces\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@funpalaces\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"amietaylor\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#organization\",\"name\":\"Palasau Hwyl\",\"url\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/\",\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/FunPalaces\/\",\"https:\/\/www.instagram.com\/funpalaces\/\",\"https:\/\/twitter.com\/funpalaces\"],\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#logo\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"url\":\"\",\"contentUrl\":\"\",\"caption\":\"Palasau Hwyl\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#logo\"}},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/\",\"name\":\"Fun Palaces Cymru\",\"description\":\"Cymuned wrth galon Diwylliant\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"ImageObject\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#primaryimage\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"url\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1.jpg\",\"width\":1280,\"height\":590},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#webpage\",\"url\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/\",\"name\":\"Boreau Coffi Symudol - Fun Palaces Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#primaryimage\"},\"datePublished\":\"2021-07-01T06:30:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-09-18T05:00:03+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Boreau Coffi Symudol\"}]},{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#webpage\"},\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#\/schema\/person\/f5a3ff2c92a97366511a2d0faae1cd20\"},\"headline\":\"Boreau Coffi Symudol\",\"datePublished\":\"2021-07-01T06:30:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-09-18T05:00:03+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#webpage\"},\"wordCount\":978,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1.jpg\",\"articleSection\":[\"Uncategorised\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#\/schema\/person\/f5a3ff2c92a97366511a2d0faae1cd20\",\"name\":\"amietaylor\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#personlogo\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/f05f65cfdbf01d3bd2575243afedca9deff1d7c37cd1830a86d931348d1751a5?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/f05f65cfdbf01d3bd2575243afedca9deff1d7c37cd1830a86d931348d1751a5?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"amietaylor\"},\"url\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/author\/amietaylor\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Boreau Coffi Symudol - Fun Palaces Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Boreau Coffi Symudol - Fun Palaces Cymru","og_description":"Yn ystod cyfnodau clo COVID-19 2020, roedd fy r\u00f4l fel Llysgennad Palasau Hwyl yn cynnwys cefnogi prosiectau a digwyddiadau bach gyda phellter cymdeithasol yn fy nghymuned wledig yng Ngogledd Powys. Trwy rain cyfarfodais \u00e2 llawer&hellip;","og_url":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/","og_site_name":"Fun Palaces Cymru","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/FunPalaces\/","article_published_time":"2021-07-01T06:30:00+00:00","article_modified_time":"2025-09-18T05:00:03+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":590,"url":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@funpalaces","twitter_site":"@funpalaces","twitter_misc":{"Written by":"amietaylor","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#organization","name":"Palasau Hwyl","url":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/","sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/FunPalaces\/","https:\/\/www.instagram.com\/funpalaces\/","https:\/\/twitter.com\/funpalaces"],"logo":{"@type":"ImageObject","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#logo","inLanguage":"cy-GB","url":"","contentUrl":"","caption":"Palasau Hwyl"},"image":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#logo"}},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/","name":"Fun Palaces Cymru","description":"Cymuned wrth galon Diwylliant","publisher":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"ImageObject","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#primaryimage","inLanguage":"cy-GB","url":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1.jpg","width":1280,"height":590},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#webpage","url":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/","name":"Boreau Coffi Symudol - Fun Palaces Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#primaryimage"},"datePublished":"2021-07-01T06:30:00+00:00","dateModified":"2025-09-18T05:00:03+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Boreau Coffi Symudol"}]},{"@type":"Article","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#webpage"},"author":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#\/schema\/person\/f5a3ff2c92a97366511a2d0faae1cd20"},"headline":"Boreau Coffi Symudol","datePublished":"2021-07-01T06:30:00+00:00","dateModified":"2025-09-18T05:00:03+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#webpage"},"wordCount":978,"publisher":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/boreau-coffi-symudol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/2\/2021\/06\/thumbnail_Photo-1.jpg","articleSection":["Uncategorised"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#\/schema\/person\/f5a3ff2c92a97366511a2d0faae1cd20","name":"amietaylor","image":{"@type":"ImageObject","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#personlogo","inLanguage":"cy-GB","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/f05f65cfdbf01d3bd2575243afedca9deff1d7c37cd1830a86d931348d1751a5?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/f05f65cfdbf01d3bd2575243afedca9deff1d7c37cd1830a86d931348d1751a5?s=96&d=mm&r=g","caption":"amietaylor"},"url":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/author\/amietaylor\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/657","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2266"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=657"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/657\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/658"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=657"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=657"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=657"},{"taxonomy":"country","embeddable":true,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/country?post=657"},{"taxonomy":"region","embeddable":true,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/region?post=657"},{"taxonomy":"city","embeddable":true,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/city?post=657"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}