{"id":132,"date":"2020-02-19T09:26:54","date_gmt":"2020-02-19T09:26:54","guid":{"rendered":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/?page_id=132"},"modified":"2020-03-16T13:14:38","modified_gmt":"2020-03-16T13:14:38","slug":"telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/","title":{"rendered":"TELERAU AC AMODAU (CREWYR PALASAU HWYL)"},"content":{"rendered":"\n<p>YR YMGYRCH\nPALASAU HWYL<\/p>\n\n\n\n<p>\u00a0<strong>1. TELERAU<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>1.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r ddogfen hon yn disgrifio&#8217;r telerau\nac amodau (yr Amodau hyn) sy&#8217;n llywodraethu&#8217;r defnydd o&#8217;r Wefan hon ac y mae\nunrhyw unigolyn neu sefydliad sy&#8217;n trefnu Digwyddiad Palasau Hwyl (y Crew(y)r\nPalas(au) Hwyl neu Chi\/eich\/rydych\/byddwch) yn cytuno i&#8217;w defnyddio fel sail\ndros redeg eu Digwyddiad Palas Hwyl (y Digwyddiad).<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;1.2&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;\nTrwy dderbyn yr Amodau hyn a chytuno i redeg y Digwyddiad, rydych Chi&#8217;n\nymgymryd \u00e2 chontract cyfreithiol rwymol gyda The Albany 2001 Company, elusen\ngofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant y mae ei swyddfa gofrestredig yn\nThe Albany Centre, Douglas Way, Deptford, Llundain SE8 4AG (rhif cwmni\n04333098) (Ni\/ein\/rydym\/byddwn).<\/p>\n\n\n\n<p>1.3&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Rydym yn gwmni sy&#8217;n gweithio gyda&#8217;r\nYmgyrch Palasau Hwyl ac yn ei chefnogi, sef cymdeithas anghorfforedig sy&#8217;n\nberchen ar yr hawliau yn y cysyniad Palasau Hwyl (Yr Ymgyrch Palasau Hwyl).<\/p>\n\n\n\n<p>1.4&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r contract rhyngoch Chi a Ni yn cael ei ffurfio pan fyddwch Chi&#8217;n cytuno i&#8217;r Amodau hyn trwy sefydlu cyfrif ar <a href=\"http:\/\/www.funpalaces.co.uk\">www.funpalaces.co.uk<\/a> a chofrestru fel Cr\u00ebwr Palas Hwyl.<\/p>\n\n\n\n<p>1.4&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;n bosib y byddwn yn adolygu&#8217;r Amodau\nhyn ac unrhyw bolis\u00efau y cyfeirir atynt yn yr Amodau hyn trwy ddiwygio&#8217;r Amodau\nhyn ar y Wefan ac\/neu anfon y diwygiadau atoch Chi trwy e-bost. Bydd unrhyw\nddiwygiadau&#8217;n rhwymol arnoch chi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>2. RHEDEG Y DIGWYDDIAD<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>2.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Rydych yn cytuno:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>mai Chi sy&#8217;n hollol ac yn gyfan gwbl gyfrifol am gyllido, trefnu a gweinyddu&#8217;r Digwyddiad yn unol \u00e2&#8217;r holl ddeddfwriaeth berthnasol. Ni fyddwn Ni na&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl yn gyfrifol am ddarparu cyllid ar gyfer y Digwyddiad nac am unrhyw dreuliau neu golledion a geir gennych Chi mewn perthynas \u00e2&#8217;r Digwyddiad.<\/li><li>Byddwn yn darparu presenoldeb ar y Wefan i Chi i hybu&#8217;r Digwyddiad, ond Chi sy&#8217;n gyfrifol am unrhyw gyhoeddusrwydd arall y dymunwch ymgymryd ag ef mewn perthynas \u00e2&#8217;r Digwyddiad.<\/li><li>Gallwch ddefnyddio&#8217;r Pecyn Cymorth ar y Wefan at ddiben rhedeg y Digwyddiad yn unig.<\/li><li>Chi\u00a0 a Chi yn unig sy&#8217;n gwbl gyfrifol am gontractio a thalu am unrhyw staff neu berfformwyr rydych yn eu recriwtio ar gyfer rhedeg y Digwyddiad.<\/li><li>Bydd y Digwyddiad ar gael i ymwelwyr am ddim a bydd yn cydymffurfio ag ethos yr Ymgyrch Palasau Hwyl fel a ddisgrifir yma.<\/li><li>Rydych yn cytuno i sicrhau eich bod Chi&#8217;n dod o hyd i yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a chyflogwr digonol mewn perthynas \u00e2&#8217;r Digwyddiad, a fydd yn yswirio eich lleoliad, yr holl weithgareddau, staff ac ymwelwyr. Os nad yw&#8217;r cyfryw yswiriant eisoes mewn lle, rydych yn cytuno i sicrhau y caiff ei drefnu cyn dyddiad y Digwyddiad. Byddwch yn darparu tystiolaeth o&#8217;r cyfryw yswiriant, gan gynnwys tystiolaeth y talwyd y premiwm perthnasol, ar gais.<\/li><li>Byddwch yn sicrhau na fydd y Digwyddiad yn ddifenwol, yn anllad neu&#8217;n debygol o achosi anhrefn gyhoeddus neu fel arall yn anghyfreithlon.<\/li><li>Rydych yn cytuno i gymryd pob cam rhesymol i isafu&#8217;r risg o anaf i staff, cyfranogwyr ac ymwelwyr yn ystod y Digwyddiad ac wrth baratoi ar gyfer y Digwyddiad neu unrhyw weithgareddau ar \u00f4l y Digwyddiad.<\/li><li>Rydych yn cytuno i sicrhau bod y lleoliad ar gyfer y Digwyddiad ac unrhyw set, seddau neu gyfarpar a ddefnyddir yn y Digwyddiad yn briodol i&#8217;r Digwyddiad ac yn ddiogel.<\/li><li>Rydych yn cytuno ar bob adeg i gydymffurfio \u00e2 Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gyfredol mewn perthynas \u00e2&#8217;r Digwyddiad. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE): http:\/\/www.hse.gov.uk\/event-safety\/index.htm<\/li><li>Rydych yn cytuno i gwblhau asesiadau risg priodol a, lle bo&#8217;n berthnasol datganiadau o ddull, yn unol ag arweiniad HSE ar gyfer yr holl weithgareddau sydd i&#8217;w cynnal yn y Digwyddiad.<\/li><li>Ni fyddwn ni na&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl yn gyfrifol am golled, lladrad neu ddifrod i eiddo yn y Digwyddiad<\/li><li>Rydych yn cytuno i sicrhau nad yw unrhyw berfformiadau neu weithgareddau yn y Digwyddiad yn beryglus neu&#8217;n niweidiol i staff, y cyfranogwyr neu&#8217;r gynulleidfa.<\/li><li>Rydych yn cytuno i sicrhau y deuir o hyd i bob trwydded angenrheidiol gan yr awdurdod lleol perthnasol mewn perthynas \u00e2&#8217;r Digwyddiad ac nad yw eich Digwyddiad yn groes i delerau&#8217;r cyfryw drwydded. Cysylltwch \u00e2&#8217;ch awdurdod lleol am fwy o wybodaeth.<\/li><li>Rydych yn cytuno i ddod o hyd i bob trwydded a chaniat\u00e2d hawlfraint angenrheidiol mewn perthynas ag unrhyw berfformiad sydd i&#8217;w gynnal yn eich Digwyddiad ac unrhyw ddeunyddiau cyhoeddusrwydd a gynhyrchwch ar gyfer y Digwyddiad, gan gynnwys pan fo&#8217;n berthnasol mewn perthynas ag unrhyw gerddoriaeth, delweddau neu fideo sydd i&#8217;w chwarae neu eu defnyddio fel arall mewn perthynas \u00e2&#8217;r Digwyddiad neu unrhyw ddeunyddiau cyhoeddusrwydd.<\/li><li>Rydych yn cytuno na fyddwch yn ffilmio \/ tynnu lluniau \/ recordio yn y Digwyddiad heb hysbysiadau ar ffurf arwyddion clir ar gyfer mynycheion ac y byddwch Chi&#8217;n parchu dymuniadau unigolion nad ydynt eisiau cael eu ffilmio \/ recordio neu i luniau ohonynt gael eu tynnu. Os dymunwch ffilmio \/ tynnu lluniau o \/ recordio unrhyw berfformwyr yn eich Digwyddiad, byddwch yn ystyried sicrhau cael cydsyniad ysgrifenedig ganddynt.<\/li><li>Rydych yn cytuno i ddiogelu llesiant yr holl blant ac oedolion agored i niwed sy&#8217;n dod i&#8217;r Digwyddiad a sicrhau bod oedolion sy&#8217;n gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed yn y Digwyddiad wedi cael gwiriad DBS pan fydd angen. <\/li><li>Byddwch yn hysbysu&#8217;r ymgyrch Palasau Hwyl yn ddi-oed os bydd unrhyw beth yn digwydd a allai gael effaith faterol andwyol ar y Digwyddiad neu am unrhyw beth difrifol sy&#8217;n digwydd yn neu mewn perthynas \u00e2&#8217;r Digwyddiad.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>3. DEFNYDDIO&#8217;R WEFAN<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>3.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;n bosib y byddwn yn diweddaru&#8217;r Wefan\no bryd i&#8217;w gilydd, a gallwn newid y cynnwys unrhyw bryd.<\/p>\n\n\n\n<p>3.2&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan, neu\nunrhyw gynnwys arni, yn rhydd rhag gwallau neu hepgorion.<\/p>\n\n\n\n<p>3.3&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r Wefan yn cael ei darparu am ddim.<\/p>\n\n\n\n<p>3.4&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan, neu\nunrhyw gynnwys arni, bob amser ar gael neu&#8217;n ddi-dor. Caniateir mynediad i&#8217;r\nWefan ar sail dros dro. Gallwn atal, diddymu, terfynu neu newid y Wefan neu&#8217;r\ngwasanaethau a ddarparwn i gyd neu unrhyw ran ohonynt heb roi rhybudd. Ni\nfyddwn yn atebol i Chi os nad yw&#8217;r Wefan ar gael unrhyw bryd neu am unrhyw\ngyfnod am unrhyw reswm.<\/p>\n\n\n\n<p>3.5&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Chi sy&#8217;n gyfrifol am wneud yr holl\ndrefniadau angenrheidiol er mwyn i Chi gael mynediad i&#8217;r Wefan ac am sicrhau\nbod yr holl bobl sy&#8217;n cyrchu&#8217;r Wefan trwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn\nymwybodol o&#8217;r Amodau hyn, a&#8217;u bod yn cydymffurfio \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>3.6&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r holl ddefnydd o&#8217;r Wefan gennych\nChi&#8217;n ddarostyngedig i&#8217;n Polisi Defnydd Derbyniol.<\/p>\n\n\n\n<p>3.7&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Gallwch ddefnyddio&#8217;r Wefan at eich\ndefnydd personol ac anfasnachol chi. Ni allwch addasu, cop\u00efo, dosbarthu,\ntrawsyrru, arddangos, perfformio, atgynhyrchu, cyhoeddi, trwyddedu, creu gwaith\ndeilliadol o, trosglwyddo neu werthu unrhyw gynnwys a geir o&#8217;r Wefan, ac\neithrio cop\u00efo, dosbarthu neu atgynhyrchu sy&#8217;n (i) angenrheidiol at ddefnydd\npersonol neu anfasnachol yn unig neu (ii) pan nodir bod y cyfryw gynnwys ar\ngael i&#8217;w ddefnyddio&#8217;n unol \u00e2 thermau trwydded Creative Commons, a&#8217;i weithredu&#8217;n\nunol \u00e2 thermau&#8217;r drwydded Creative Commons berthnasol yn unig.<\/p>\n\n\n\n<p>3.8&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Darperir y cynnwys ar y Wefan fel\ngwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod gyfystyr \u00e2 chyngor y\ndylech ddibynnu arno. Dylech geisio cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn\ncymryd, neu ymwrthod rhag cymryd, unrhyw gam ar sail y cynnwys sydd ar y Wefan.<\/p>\n\n\n\n<p>3.9&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Er Ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol\ni ddiweddaru&#8217;r wybodaeth ar y wefan, nid Ydym yn gwneud unrhyw gynrychioliadau\nneu warantau, ni waeth p&#8217;un ai&#8217;n echblyg neu&#8217;n oblygedig, bod y cynnwys ar y\nWefan yn gywir, yn gyflawn neu&#8217;n ddiweddar.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>4.\u00a0 EICH CYFRIF A CHYFRINAIR<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>4.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Os byddwch Chi&#8217;n dewis, neu os darperir\nc\u00f4d adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth ar eich\ncyfer fel rhan o&#8217;n gweithdrefnau diogeledd, mae&#8217;n rhaid i Chi drin y cyfryw\nwybodaeth yn gyfrinachol. Mae&#8217;n rhaid i chi beidio \u00e2&#8217;i datgelu i unrhyw drydydd\nparti.<\/p>\n\n\n\n<p>4.2&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae hawl gennym i ddadalluogi unrhyw g\u00f4d\nadnabod defnyddiwr neu gyfrinair, ni waeth p&#8217;un a gaiff ei ddewis gennych chi\nneu ei ddyrannu gennym ni, unrhyw bryd, os yn ein barn resymol ni Rydych wedi\nmethu \u00e2 chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau&#8217;r Amodau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>4.3&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Os Ydych yn gwybod neu&#8217;n amau bod unrhyw\nun heblaw Chi&#8217;n gwybod eich c\u00f4d adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, mae&#8217;n rhaid i\nChi ein hysbysu&#8217;n ddi-oed yn hello@funpalaces.co.uk<\/p>\n\n\n\n<p><strong>5. DIOGELU DATA<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>5.1&nbsp; &nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;Mae\neich preifatrwydd yn bwysig i ni a&#8217;r ymgyrch Palasau Hwyl. Yr Ymgyrch Palasau\nHwyl yw rheolydd data eich gwybodaeth bersonol ac ni fydd yn rhannu eich\ngwybodaeth gyda thrydydd part\u00efon.<\/p>\n\n\n\n<p>5.2&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Bydd yr Ymgyrch Palasau Hwyl yn\ndefnyddio&#8217;ch gwybodaeth bersonol yn unol \u00e2&#8217;i Pholisi Preifatrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>5.3&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Trwy gofrestru fel Cr\u00ebwr Palas Hwyl, a\nthrwy dicio&#8217;r blwch a dewis derbyn cylchlythyron, Rydych yn cytuno y gall yr\nYmgyrch Palasau Hwyl e-bostio chi gyda newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau\na gweithgareddau (gan gynnwys codi arian) sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r Ymgyrch Palasau\nHwyl.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>\u00a06. DOLENNI<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;6.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;\nO bryd i&#8217;w gilydd Rydym yn cyhoeddi dolenni i wefannau trydydd parti\nRydym yn teimlo y gallent fod o ddiddordeb i Chi. Rydym yn gwneud pob ymdrech i\nsicrhau bod y gwefannau hyn yn adlewyrchu ethos yr Ymgyrch Palasau Hwyl, ond\nnid oes gennym Ni unrhyw reolaeth dros y gwefannau hyn ac Rydych yn bwrw &#8216;mlaen\nar eich menter eich hun. Nid ydym yn dilysu&#8217;r gwefannau hyn ac nid Ydym yn\natebol am unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu gynnwys y byddwch efallai yn eu\ncyrchu neu eu prynu trwy unrhyw un o&#8217;r gwefannau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>\u00a07. UWCHLWYTHO CYNNWYS I&#8217;R WEFAN<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>7.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Pryd bynnag y Byddwch yn defnyddio\nnodwedd sy&#8217;n Eich galluogi i uwchlwytho cynnwys i&#8217;r Wefan, neu gysylltu ag\naelodau eraill o&#8217;r Wefan, mae&#8217;n rhaid i chi gydymffurfio \u00e2&#8217;r safonau o ran\ncynnwys a ddisgrifir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.<\/p>\n\n\n\n<p>7.2&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Rydych yn gwarantu y bydd unrhyw gynnwys\nRydych yn ei uwchlwytho&#8217;n cydymffurfio \u00e2&#8217;r safonau hynny, ac y Byddwch chi&#8217;n\natebol i ni ac yn indemnio ni am dorri&#8217;r warant hon mewn unrhyw ffordd. Mae hyn\nyn golygu y byddwch Chi&#8217;n gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydym Ni\nneu&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl yn ei ddioddef o ganlyniad i chi dorri&#8217;r warant.<\/p>\n\n\n\n<p>7.3&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Ystyrir bod unrhyw gynnwys Rydych yn ei\nuwchlwytho i&#8217;r Wefan yn anghyfrinachol ac yn amherchnogol.<\/p>\n\n\n\n<p>7.4&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i\nunrhyw drydydd parti, am y Cynnwys neu gywirdeb y Cynnwys a bostir gennych Chi\nneu unrhyw ddefnyddiwr arall y Wefan.<\/p>\n\n\n\n<p>7.5&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae gennym Ni&#8217;r hawl i ddileu unrhyw\nbostiad Rydych yn ei wneud ar ein gwefan os, yn ein barn ni, nad yw eich\npostiad yn cydymffurfio \u00e2&#8217;r safonau o ran cynnwys a ddisgrifir yn ein Polisi\nDefnydd Derbyniol.<\/p>\n\n\n\n<p>7.6&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Nid yw&#8217;r farn a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar y Wefan yn adlewyrchu ein barn neu ein gwerthoedd ni.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>8. FIRYSAU<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>8.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan yn\nddiogel neu&#8217;n rhydd rhag chwilod neu firysau.<\/p>\n\n\n\n<p>8.2&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Chi sy&#8217;n gyfrifol am ffurfweddu eich\ntechnoleg gwybodaeth, rhaglenni a llwyfan cyfrifiadurol er mwyn cyrchu&#8217;r Wefan.\nDylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firysau eich hun.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>9. INDEMNIAD<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>9.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Rydych yn cytuno i indemnio a pharhau i\nindemnio ni a&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl (a holl gyfarwyddwyr, swyddogion ac\naelodau The Albany 2001 Company a&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl) rhag ac yn erbyn pob\nhawliad, iawndal, treuliau, costau a rhwymedigaethau (gan gynnwys ffioedd\ncyfreithiol) sy&#8217;n codi o ganlyniad i&#8217;r canlynol: (i) y Digwyddiad (gan gynnwys\ny paratoadau ar gyfer y Digwyddiad ac unrhyw weithgarwch ar \u00f4l y Digwyddiad);\neich defnydd chi o&#8217;r Wefan hon; ac\/neu (ii) unrhyw achos ohonoch Chi&#8217;n torri\nunrhyw rwymedigaeth, ymgymeriad, gwarant neu deler yr Amodau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>\u00a010. ATEBOLRWYDD<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;10.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;\nNid oes unrhyw beth yn yr Amodau hyn sy&#8217;n eithrio neu&#8217;n cyfyngu ar ein\nhatebolrwydd ni neu atebolrwydd yr Ymgyrch Palasau Hwyl yn achos marwolaeth neu\nanaf personol sy&#8217;n deillio o&#8217;n hesgeulustra, neu ein twyll neu\ngamgynrychiolaeth dwyllodrus, neu unrhyw atebolrwydd arall na all gael ei\nheithrio neu ei gyfyngu gan gyfraith Lloegr.<\/p>\n\n\n\n<p>10.2&nbsp;&nbsp;&nbsp; I&#8217;r graddau a ganiateir gan gyfraith\nLloegr, rydym yn eithrio pob amod, gwarant, cynrychiolaeth neu delerau eraill a\nall fod yn berthnasol i&#8217;r Wefan neu unrhyw gynnwys neu ddeunyddiau arni neu mewn\nperthynas \u00e2&#8217;r Digwyddiad, ni waeth p&#8217;un a ydynt yn echblyg neu&#8217;n oblygedig.<\/p>\n\n\n\n<p>10.3&nbsp;&nbsp;&nbsp; Gan fod y Wefan wedi&#8217;i darparu i Chi am\nddim ac nad Ydych yn talu ni am yr hawl i redeg y Digwyddiad, nid ydym Ni na&#8217;r\nYmgyrch Palasau Hwyl yn derbyn unrhyw atebolrwydd i Chi am y cynnwys ar y Wefan\nneu mewn perthynas \u00e2&#8217;r Digwyddiad hyd eithaf y graddau a ganiateir gan gyfraith\nLloegr.<\/p>\n\n\n\n<p>10.4&nbsp;&nbsp;&nbsp; Yn benodol, nid ydym Ni na&#8217;r Ymgyrch\nPalasau Hwyl yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion anuniongyrchol, arbennig\nneu ganlyniadol, gan gynnwys (er enghraifft) colli elw, refeniw, data, cynilion\ndisgwyliedig, cyfle busnes, amharu ar fusnes neu ewyllys dda.<\/p>\n\n\n\n<p>10.5&nbsp;&nbsp;&nbsp; Os ydych yn ddefnyddiwr, nid yw&#8217;r Amodau\nhyn yn effeithio ar unrhyw hawliau statudol y gallai fod gennych Chi fel\ndefnyddiwr.<\/p>\n\n\n\n<p>10.6&nbsp;&nbsp;&nbsp; Ni fyddwn ni na&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl yn\natebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan firws, ymosodiad atal\ngwasanaeth dosbarthedig, neu unrhyw ddeunydd technolegol niweidiol arall a\nallai heintio eich cyfarpar cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu\nunrhyw ddeunydd perchnogol arall o ganlyniad i&#8217;ch defnydd o&#8217;r Wefan neu\noherwydd i chi lawrlwytho unrhyw gynnwys arni, neu ar unrhyw wefan sy&#8217;n\ngysylltiedig \u00e2 hi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>\u00a011. HAWLFRAINT<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>11.1&nbsp;&nbsp;&nbsp; Y Palasau Hwyl neu eu trwyddedwyr yw\nperchnogion yr hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill yn y cynnwys ar y\nWefan, gan gynnwys (er enghraifft) y pecyn cymorth o ddeunyddiau sydd ar gael\nar y Wefan. Chi sy&#8217;n cadw perchnogaeth ar hawlfraint unrhyw ddeunydd rydych yn\nei gyfrannu at y Wefan.<\/p>\n\n\n\n<p>11.2&nbsp;&nbsp;&nbsp; Trwy hyn rydych Chi&#8217;n rhoi trwydded\nanghynhwysol, fyd-eang a rhydd rhag breindaliadau (ynghyd \u00e2&#8217;r hawl i\nis-drwyddedu) i&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl a The Albany 2001 Company i ddefnyddio,\nstorio, cop\u00efo neu fel arall dosbarthu unrhyw gynnwys Rydych yn ei uwchlwytho\ni&#8217;r Wefan am gyfnod cyfan yr hawlfraint (gan gynnwys unrhyw adnewyddiadau,\ngwrthdroadau ac estyniadau) a chyhyd ag all gael ei ganiat\u00e1u, am byth mewn\nunrhyw gyfryngau (sy&#8217;n bodoli nawr neu a gaiff eu dyfeisio yn y dyfodol), gan\ngynnwys (er enghraifft) at bob diben cyhoeddusrwydd. <\/p>\n\n\n\n<p>11.3&nbsp;&nbsp;&nbsp; Rydych yn cytuno i beidio \u00e2 defnyddio neu\natgynhyrchu unrhyw gynnwys ar y Wefan, ac eithrio eich cynnwys eich hun, oni\nbai ei fod at ddiben cyfan gwbl recriwtio dros, creu, neu hysbysebu Eich Palas\nHwyl. Ar gyfer unrhyw ddefnydd arall mae&#8217;n rhaid bod gennych ganiat\u00e2d\nysgrifenedig ymlaen llaw gan Yr Ymgyrch Palasau Hwyl. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>12. NODAU MASNACH<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u00a012.1\u00a0\u00a0\u00a0 Mae \u201cPALASAU HWYL\u201d a&#8217;r logo a delwedd Palasau Hwyl yn nodau masnach yr Ymgyrch Palasau Hwyl (y <strong>Nodau Masnach<\/strong>).<\/p>\n\n\n\n<p>12.2&nbsp;&nbsp;&nbsp; Gallwch ddefnyddio&#8217;r Nodau Masnach at\nddibenion hysbysebu a hybu&#8217;r Digwyddiad yn unig a ddim at unrhyw ddiben arall.<\/p>\n\n\n\n<p>12.3&nbsp;&nbsp;&nbsp; Byddwch yn cydymffurfio ag unrhyw\nganllawiau ar gyfer defnyddio&#8217;r Nodau Masnach fel a ddisgrifir yn y pecyn cymorth\nneu y byddwn Ni neu&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl yn Eich hysbysu amdanynt yn\nysgrifenedig o bryd i&#8217;w gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p>12.4&nbsp;&nbsp;&nbsp; Rydych yn cydnabod y bydd yr holl hawliau\nyn y Nodau Masnach, gan gynnwys unrhyw ewyllys dda sy&#8217;n deillio o&#8217;ch defnydd\no&#8217;r Nodau Masnach, yn eiddo i&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl.<\/p>\n\n\n\n<p>12.5&nbsp;&nbsp;&nbsp; Ni fyddwch yn gwneud unrhyw beth a allai\nniweidio ein henw da, enw da&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl neu&#8217;r enw da sy&#8217;n\ngysylltiedig \u00e2&#8217;r Nodau Masnach.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>13. CYFNOD A THERFYNU<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>13.1\u00a0\u00a0\u00a0 Bydd y contract rhyngoch Chi a Ni am gyfnod a fydd yn dechrau ar y dyddiad y byddwch yn cofrestru fel Cr\u00ebwr Palas Hwyl ac yn parhau am gyhyd ag y byddwch yn parhau&#8217;n gofrestredig fel Cr\u00ebwr Palas Hwyl, oni chaiff ei derfynu&#8217;n gynharach yn unol \u00e2 pharagraff 13.2.<\/p>\n\n\n\n<p>13.2&nbsp;&nbsp;&nbsp; Gallwn Ni derfynu&#8217;r contract hwn trwy Eich\nhysbysu&#8217;n ysgrifenedig os byddwch Chi&#8217;n torri&#8217;r Amodau hyn yn faterol.<\/p>\n\n\n\n<p>13.3&nbsp;&nbsp;&nbsp; Os byddwn Ni&#8217;n terfynu&#8217;r contract hwn, bydd\neich cofrestriad fel Cr\u00ebwr Palas Hwyl a&#8217;ch hawl i redeg y Digwyddiad yn dod i\nben ar unwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>13.4&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae terfynu&#8217;r contract hwn heb wneud drwg i\nunrhyw hawliau neu rwymed\u00efau sydd wedi cronni cyn y dyddiad terfynu a bydd yr\nholl ddarpariaethau y mae angen iddynt oroesi terfynu&#8217;r contract hwn er mwyn\ngweithredu eu hystyr yn goroesi&#8217;r terfyniad.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>14. HYSBYSIADAU<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>14.1&nbsp;&nbsp;&nbsp; Bydd unrhyw hysbysiad neu gyfathrebiad\narall sydd i&#8217;w roi o dan yr Amodau hyn ar ffurf ysgrifenedig ac yn cael eu\ncyflwyno yng nghyfeiriad y parti perthnasol fel a ddisgrifir uchod neu fel a\nddarperir gennych Chi pan fyddwch yn cofrestru fel Cr\u00ebwr Palas Hwyl (neu&#8217;r\ncyfryw gyfeiriad arall a allai gael ei hysbysu&#8217;n ysgrifenedig o bryd i&#8217;w gilydd\nneu&#8217;n unol \u00e2&#8217;r paragraff 14.1 hwn) trwy bost dosbarth cyntaf neu drwy gludiad\npersonol a phennir iddo fod wedi&#8217;i gyflwyno 48 awr ar \u00f4l postio yn achos post\ndosbarth cyntaf ac yn syth ar \u00f4l cyflwyno i&#8217;r cyfeiriad hwnnw yn achos cludiad\npersonol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>15. CYFRINACHED<\/strong>D<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;15.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;\nMae pob parti&#8217;n cydnabod y gall gwybodaeth gyfrinachol ei natur mewn\nperthynas \u00e2 busnes y llall (ac\/neu&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl) gael ei datgelu iddo\nneu fel arall ddod at ei sylw o ganlyniad i&#8217;r Amodau hyn. Mae pob parti&#8217;n\nymrwymo i gadw&#8217;r cyfryw wybodaeth yn gyfrinachol ac i beidio, heb dderbyn\ncaniat\u00e2d ysgrifenedig ymlaen llaw gan y llall neu (pan fo&#8217;n berthnasol) gan yr\nYmgyrch Palasau Hwyl, \u00e2&#8217;i datgelu i unrhyw drydydd parti (ar wah\u00e2n i&#8217;w\nymgynghorwyr proffesiynol ei hun neu yn ein hachos ni i&#8217;r Ymgyrch Palasau\nHwyl), na&#8217;i defnyddio at unrhyw ddiben arall heblaw wrth berfformio&#8217;r Amodau\nhyn.<\/p>\n\n\n\n<p>15.2&nbsp;&nbsp;&nbsp; Ni fydd paragraff 15.1 yn berthnasol i\nwybodaeth sydd ar gael yn gyffredinol i&#8217;r cyhoedd trwy ddim gweithred neu\nhepgoriad ar ran y parti sy&#8217;n derbyn, neu a ddaw yn hysbys i&#8217;r parti sy&#8217;n\nderbyn trwy drydydd parti nad oes ganddo rwymedigaeth gyfrinachedd, sydd wedi&#8217;i\ndatblygu&#8217;n annibynnol gan y parti sy&#8217;n derbyn neu y mynnir y caiff ei datgelu\ngan y gyfraith trwy orchymyn llys neu ar gais unrhyw lywodraeth neu awdurdod\nrheoleiddio. Bydd yr ymgymeriad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o 10 mlynedd\nar \u00f4l dyddiad yr Amodau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>16. GORFODAETH<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;16.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;\nNi fydd y naill parti na&#8217;r llall (na&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl) yn atebol\nam unrhyw fethiant neu oedi wrth iddynt berfformio unrhyw un o&#8217;u\nrhwymedigaethau o dan yr Amodau hyn i&#8217;r graddau y maent yn deillio o unrhyw\namgylchiad y tu hwnt i reolaeth resymol y parti hwnnw (gan gynnwys gwaith Duw,\ncydymffurfio ag unrhyw gyfraith neu orchymyn, rheol, rheoliad neu gyfarwyddyd\nllywodraethol, rhyfel, terfysg, gweithredoedd o derfysgaeth neu fygythiad o\nweithredoedd o derfysgaeth, anghydfod diwydiannol, protest, tymestl, epidemig,\nffrwydrad, cynnwrf neu wrthryfel sifil, marwolaeth frenhinol, difrod maleisus,\nt\u00e2n, llifogydd, damwain a storm), cyhyd \u00e2 bod y parti a effeithir gan unrhyw un\no&#8217;r cyfryw ddigwyddiadau&#8217;n hysbysu&#8217;r llall yn brydlon am y ffaith ei fod wedi\ndigwydd ac am ei hyd tebygol ac yn cydweithredu mewn ffydd dda gyda&#8217;r parti\narall gyda&#8217;r nod o gytuno ar ddulliau perfformio amgen pryd bynnag y bo hynny&#8217;n\nrhesymol ymarferol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>17. CYFFREDINOL<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>17.1&nbsp;&nbsp;&nbsp; Os bydd unrhyw awdurdod cymwys yn tybio\nunrhyw bryd bod darparu&#8217;r Amodau hyn yn annilys neu&#8217;n anghyfreithlon neu nad\noes modd eu gorfodi, ni fydd hyn yn effeithio ar ddarpariaethau eraill yr\nAmodau hyn, a fydd yn aros mewn llawn grym ac effaith.<\/p>\n\n\n\n<p>17.2&nbsp;&nbsp;&nbsp; Ni phennir bod ildio hawl i unrhyw deler,\namod neu dorri unrhyw un o&#8217;r Amodau hyn yn gyfystyr ag ildio hawl i unrhyw\ndelerau neu amodau eraill neu dorri&#8217;r Amodau hyn yn ddiweddarach.<\/p>\n\n\n\n<p>17.3&nbsp;&nbsp;&nbsp; Ni allwch aseinio, is-gontractio neu fel\narall gwaredu&#8217;r Amodau hyn heb gael caniat\u00e2d ysgrifenedig gennym ymlaen llaw.<\/p>\n\n\n\n<p>17.4&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r Amodau hyn yn ffurfio cytundeb cyfan\ny part\u00efon ac yn disodli ac yn cymryd lle pob cytundeb blaenorol, naill ai ar\nlafar neu&#8217;n ysgrifenedig o ran ei ddeunydd pwnc.<\/p>\n\n\n\n<p>17.5&nbsp;&nbsp;&nbsp; Ni ellir amrywio&#8217;r Amodau hyn ac eithrio\ntrwy gytundeb ysgrifenedig a lofnodir gan y ddau barti.<\/p>\n\n\n\n<p>17.6&nbsp;&nbsp;&nbsp; Ni fwriedir i&#8217;r Amodau hyn greu\npartneriaeth, menter ar y cyd neu gytundeb tenantiaeth rhwng y part\u00efon neu\nryngoch Chi a&#8217;r Ymgyrch Palasau Hwyl.<\/p>\n\n\n\n<p>17.7&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r part\u00efon yn cytuno bod darpariaethau&#8217;r\nAmodau hyn yn bersonol iddynt hwy ac na fwriedir iddynt roi unrhyw fuddiant i\nunrhyw drydydd parti ac na fydd Deddf Contractau 1999 (Hawliau Trydydd Part\u00efon)\nyn berthnasol i&#8217;r Amodau hyn neu unrhyw un o&#8217;u telerau, ac eithrio ag y gall yr\nYmgyrch Palasau Hwyl (neu unrhyw un o&#8217;i haelodau) orfodi unrhyw un o\nddarpariaethau&#8217;r Amodau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>17.8&nbsp;&nbsp;&nbsp; Caiff yr Amodau hyn eu llywodraethu gan a&#8217;u\ndehongli&#8217;n unol \u00e2 chyfraith Lloegr a thrwy hyn mae&#8217;r part\u00efon yn ymostwng i\nawdurdodaeth anghynhwysol Llysoedd Lloegr mewn perthynas ag unrhyw anghydfod\nsy&#8217;n deillio o&#8217;r Amodau hyn neu mewn cysylltiad \u00e2 hwy.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>18. CYSYLLTU<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;18.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;\nCysylltwch \u00e2 hello@funpalaces.co.uk os bydd gennych unrhyw ymholiadau\nyngl\u0177n \u00e2&#8217;r Wefan neu&#8217;r Amodau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;Diweddariad diwethaf&nbsp;&nbsp; 04.03.2020<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>YR YMGYRCH PALASAU HWYL \u00a01. TELERAU 1.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r ddogfen hon yn disgrifio&#8217;r telerau ac amodau (yr Amodau hyn) sy&#8217;n llywodraethu&#8217;r defnydd o&#8217;r Wefan hon ac y mae unrhyw unigolyn neu sefydliad sy&#8217;n trefnu Digwyddiad Palasau&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":130,"featured_media":0,"parent":130,"menu_order":3,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_mkdo_core_block_meta_as_title":"","footnotes":"","mkdo_translation_country_code":"","mkdo_translation_language_code":"","mkdo_translation_id_language_cy":"","mkdo_translation_id_language_en":"1_22309"},"class_list":["post-132","page","type-page","status-publish","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v18.2 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>TELERAU AC AMODAU (CREWYR PALASAU HWYL) - Fun Palaces Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"TELERAU AC AMODAU (CREWYR PALASAU HWYL) - Fun Palaces Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"YR YMGYRCH PALASAU HWYL \u00a01. TELERAU 1.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r ddogfen hon yn disgrifio&#8217;r telerau ac amodau (yr Amodau hyn) sy&#8217;n llywodraethu&#8217;r defnydd o&#8217;r Wefan hon ac y mae unrhyw unigolyn neu sefydliad sy&#8217;n trefnu Digwyddiad Palasau&hellip;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Fun Palaces Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/FunPalaces\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-03-16T13:14:38+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@funpalaces\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"18 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#organization\",\"name\":\"Palasau Hwyl\",\"url\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/\",\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/FunPalaces\/\",\"https:\/\/www.instagram.com\/funpalaces\/\",\"https:\/\/twitter.com\/funpalaces\"],\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#logo\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"url\":\"\",\"contentUrl\":\"\",\"caption\":\"Palasau Hwyl\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#logo\"}},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/\",\"name\":\"Fun Palaces Cymru\",\"description\":\"Cymuned wrth galon Diwylliant\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/#webpage\",\"url\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/\",\"name\":\"TELERAU AC AMODAU (CREWYR PALASAU HWYL) - Fun Palaces Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2020-02-19T09:26:54+00:00\",\"dateModified\":\"2020-03-16T13:14:38+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cyfreithiol\",\"item\":\"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"TELERAU AC AMODAU (CREWYR PALASAU HWYL)\"}]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"TELERAU AC AMODAU (CREWYR PALASAU HWYL) - Fun Palaces Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"TELERAU AC AMODAU (CREWYR PALASAU HWYL) - Fun Palaces Cymru","og_description":"YR YMGYRCH PALASAU HWYL \u00a01. TELERAU 1.1&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r ddogfen hon yn disgrifio&#8217;r telerau ac amodau (yr Amodau hyn) sy&#8217;n llywodraethu&#8217;r defnydd o&#8217;r Wefan hon ac y mae unrhyw unigolyn neu sefydliad sy&#8217;n trefnu Digwyddiad Palasau&hellip;","og_url":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/","og_site_name":"Fun Palaces Cymru","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/FunPalaces\/","article_modified_time":"2020-03-16T13:14:38+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@funpalaces","twitter_misc":{"Est. reading time":"18 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#organization","name":"Palasau Hwyl","url":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/","sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/FunPalaces\/","https:\/\/www.instagram.com\/funpalaces\/","https:\/\/twitter.com\/funpalaces"],"logo":{"@type":"ImageObject","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#logo","inLanguage":"cy-GB","url":"","contentUrl":"","caption":"Palasau Hwyl"},"image":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#logo"}},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/","name":"Fun Palaces Cymru","description":"Cymuned wrth galon Diwylliant","publisher":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/#webpage","url":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/","name":"TELERAU AC AMODAU (CREWYR PALASAU HWYL) - Fun Palaces Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/#website"},"datePublished":"2020-02-19T09:26:54+00:00","dateModified":"2020-03-16T13:14:38+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/telerau-ac-amodau-crewyr-palasau-hwyl\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cyfreithiol","item":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/cyfreithiol\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"TELERAU AC AMODAU (CREWYR PALASAU HWYL)"}]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/132","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/130"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=132"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/132\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/130"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/funpalaces.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=132"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}